Trosolwg

Mae ardrethi busnes yn cael eu codi ar y rhan fwyaf o eiddo annomestig, megis:

  • siopau
  • swyddfeydd
  • tafarndai
  • warysau
  • ffatrïoedd
  • llety gwyliau neu dai gwesteion

Mae’n debygol y bydd yn rhaid i chi dalu ardrethi busnes os ydych yn defnyddio adeilad, neu ran o adeilad, at ddibenion annomestig.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Ymdrinnir ag ardrethi busnes mewn ffordd wahanol os yw’r canlynol yn berthnasol:

Yr hyn sydd i’w dalu a phryd

Bob blwyddyn, bydd eich cyngor lleol yn anfon bil ardrethi busnes atoch ym mis Chwefror neu ym mis Mawrth. Mae hyn ar gyfer y flwyddyn dreth ddilynol. Gallwch hefyd amcangyfrif eich bil ardrethi busnes.

Gallwch gael help gydag ardrethi busnes gan:

  • eich cyngor, os oes gennych gwestiynau am eich bil
  • asiantaeth y Swyddfa Brisio, os ydych yn credu bod eich ‘gwerth ardrethol’ yn anghywir

Cynlluniau rhyddhad

Mae’n bosibl y gallwch ostwng eich bil drwy gael rhyddhad ardrethi busnes gan eich cyngor lleol. Weithiau, mae hyn yn digwydd yn awtomatig, ond efallai y bydd angen i chi wneud cais.

Mae’r broses hon yn ddibynnol ar y canlynol:

Pwy sydd ddim yn gorfod talu

Mae rhai eiddo wedi’u heithrio rhag ardrethi busnes, er enghraifft adeiladau fferm neu leoedd a ddefnyddir er lles pobl anabl.

Os ydych yn berchen ar stabl

Fel arfer mae angen i chi dalu ardrethi busnes ar eich stablau, oni bai eich bod yn defnyddio’ch ceffylau ar gyfer ffermio.

Os yw’ch stablau yn eich gardd, gallwch dalu Treth Gyngor yn lle ardrethi busnes. Cysylltwch ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio i wirio pa un y dylech ei thalu.