Tafarndai a masnach drwyddedig

Os ydych yng Nghymru a Lloegr, Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) sy’n cyfrifo’ch gwerth ardrethol gan ddefnyddio ‘trosiant cynaliadwy teg’. Dyma’r lefel flynyddol o fasnach (heb gynnwys TAW) y mae disgwyl i’ch tafarn ei chyflawni os yw’n cael ei rhedeg mewn ffordd resymol o effeithlon. Mae’n seiliedig ar y canlynol:

  • y math o dafarn neu safle trwyddedig
  • yr ardal y mae ynddi
  • gwybodaeth a phatrymau eich masnach
  • y gwasanaethau y mae’n ei chynnig, er enghraifft bwyd, gemau neu ddangos chwaraeon ar sgrîn
  • faint o rent rydych yn ei dalu
  • unrhyw incwm a wnewch o letya
  • rhenti a throsiant tafarndai eraill

Yna, mae’r VOA yn cymhwyso canran i gyfrifo’r gwerth ardrethol. Cytunir ar y canrannau â grwpiau’r diwydiant, gan gynnwys Cymdeithas Gwrw a Thafarndai Prydain (British Beer and Pub Association). Gallwch ddod o hyd i’r canrannau yng nghanllaw cymeradwy prisio tafarndai y VOA.

Gallwch ddod o hyd i’ch prisiad ardrethi busnes ar-lein. Os ydych am wirio’r ffigurau y mae’r VOA yn eu defnyddio neu os nad ydych yn cytuno â’r prisiad, gallwch gofrestru neu sefydlu cyfrif prisio ardrethi busnes neu gysylltu â’r VOA.

Rhyddhad ardrethi busnes i dafarndai a masnach drwyddedig

Mae’n bosibl eich bod yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnes os yw’r canlynol yn wir am eich busnes:

Os yw’ch safle trwyddedig yn yr Alban

Yn yr Alban, eich asesydd lleol sy’n cyfrifo’ch gwerth ardrethol. Cysylltwch â’ch asesydd lleol os ydych am wirio’r ffigurau mae’n eu defnyddio neu os nad ydych yn cytuno â’r ffigurau sy’n cael eu defnyddio.

Os yw’ch eiddo trwyddedig yng Ngogledd Iwerddon

Yng Ngogledd Iwerddon, mae’r Gwasanaethau Tir ac Eiddo (LPS) yn cyfrifo’ch ardrethi busnes. Darllenwch ragor ynghylch y ffordd y mae LPS yn prisio tafarndai ac eiddo trwyddedig eraill yng Ngogledd Iwerddon.