Ardrethi busnes
Gweithio gartref
Fel rheol, nid oes rhaid i chi dalu ardrethi busnes ar gyfer busnes sy’n cael ei redeg o’r cartref os ydych:
- yn defnyddio rhan fach o’ch cartref ar gyfer eich busnes, er enghraifft os ydych yn defnyddio ystafell wely fel swyddfa
- yn gwerthu nwyddau drwy’r post
Mae’n bosibl y bydd angen i chi dalu ardrethi busnes yn ogystal â Threth Gyngor os yw’r canlynol yn wir:
- mae’ch eiddo yn rhannol yn fusnes ac yn rhannol ddomestig, er enghraifft os ydych yn byw uwchben eich siop
- rydych yn gwerthu nwyddau neu wasanaethau i bobl sy’n ymweld â’ch eiddo
- rydych yn cyflogi pobl eraill i weithio yn eich eiddo
- rydych wedi gwneud newidiadau i’ch cartref ar gyfer eich busnes, er enghraifft trosi garej yn siop trin gwallt
Cysylltwch ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) i gael gwybod a ddylech fod yn talu ardrethi busnes. Yn yr Alban, cysylltwch â’ch asesydd lleol. Yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â’r Gwasanaethau Tir ac Eiddo.