Llety hunanddarpar a llety gwyliau

Bydd p’un a ydych yn talu ardrethi busnes yn dibynnu ar faint o nosweithiau y mae’ch eiddo ar gael i’w osod bob blwyddyn a sawl noson y cafodd ei osod mewn gwirionedd.

Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn cyfrifo gwerth ardrethol eich eiddo ar sail ei fath, maint, lleoliad, ansawdd a faint o incwm rydych yn debygol o’i wneud o’i osod.

Mae yna reolau gwahanol os yw eich eiddo yn yr Alban neu os yw eich eiddo yng Ngogledd Iwerddon.

Os yw eich eiddo yn Lloegr

Bydd yn cael ei ardrethu fel eiddo hunanddarpar a’i brisio ar gyfer ardrethi busnes os oedd yr amodau canlynol yn wir dros y 12 mis diwethaf:

  • roedd ar gael i’w osod yn fasnachol am gyfnodau byr am o leiaf 140 noson

  • fe’i gosodwyd mewn gwirionedd am o leiaf 70 noson

Os ydych yn gosod un eiddo yn unig yn Lloegr a bod ei werth ardrethol yn llai na £15,000, efallai y byddwch yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnesau bach.

Os yw eich eiddo yng Nghymru

Bydd yn cael ei ardrethu fel eiddo hunanddarpar a’i brisio ar gyfer ardrethi busnes os oedd yr amodau canlynol yn wir dros y 12 mis diwethaf:

  • roedd ar gael i’w osod yn fasnachol am gyfnodau byr am o leiaf 252 noson

  • fe’i gosodwyd mewn gwirionedd am o leiaf 182 noson

Dywedwch wrth y VOA eich bod yn gymwys i dalu ardrethi busnes

Os ydych yn talu Treth Gyngor ar eich eiddo hunanddarpar ar hyn o bryd, ond ei fod wedi bodloni’r meini prawf ar gyfer ardrethi busnes, gallwch ddweud wrth y VOA drwy lenwi ffurflen.

Llenwch y ffurflen hon os yw eich eiddo naill ai:

  • yn cael ei brisio fel eiddo domestig ar hyn o bryd ond bellach yn gymwys ar gyfer ardrethi busnes

  • yn eiddo hunanddarpar newydd sydd wedi bodloni’r meini prawf dros y 12 mis diwethaf ac sy’n gymwys ar gyfer ardrethi busnes

Sut i lenwi’r ffurflen

Mae yna wahanol ffurflenni ar gyfer: