Help gydag ardrethi busnes

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu cael gostyngiad gan eich cyngor lleol ar eich ardrethi busnes os ydych yn gymwys ar gyfer un neu fwy o gynlluniau rhyddhad ardrethi busnes.

I gael help gyda gwerth ardrethol eich eiddo, cysylltwch ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA).

I gael help gyda’ch bil ardrethi busnes (er enghraifft i dalu fesul rhandaliad) neu ryddhad ardrethi, cysylltwch â’ch cyngor.

Cael cyngor proffesiynol

Gallwch hefyd gael help gan syrfëwr trethu cymwys drwy un o’r sefydliadau canlynol:

Mae’n bosibl y codir tâl arnoch am unrhyw gyngor a gewch gan syrfëwr trethu o’r cychwyn cyntaf.

Gallwch gael cyngor gan sefydliad sy’n rhan o gynllun llinell gymorth RICS. Mae 30 munud cyntaf yr alwad ymgynghorol yn rhad ac am ddim.