Os yw’ch busnes neu safle yn newid

Gallai’ch ardrethi busnes newid os:

  • rydych yn symud neu’n gwneud newidiadau i’ch safle
  • mae natur eich busnes yn newid
  • rydych yn is-osod rhan o’ch eiddo
  • rydych yn cyfuno 2 eiddo neu fwy yn 1

Rhowch wybod i Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) am newidiadau er mwyn sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir. Bydd rhoi gwybod am newidiadau hefyd yn sicrhau nad ydych yn talu gormod nac yn cael cynnydd wedi’i ôl-ddyddio yn eich bil.

Mae ardrethi busnes yn cael eu trin yn wahanol os yw’ch eiddo yn yr Alban neu os yw’ch eiddo yng Ngogledd Iwerddon.

Os yw’ch safle yn cael ei effeithio gan darfiad lleol

Mae’n bosibl y byddwch yn cael gostyngiad dros dro yn eich ardrethi busnes os bydd digwyddiad lleol difrifol yn effeithio ar eich safle (megis llifogydd, gwaith adeiladu neu waith ffordd).

Rhowch wybod i’r VOA am newidiadau.

Sut i roi gwybod am newidiadau

Gallwch roi gwybod am newidiadau gan ddefnyddio’ch cyfrif prisio ardrethi busnes.