Ardrethi busnes
Ailbrisiad
Yn ystod ailbrisiad mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn diweddaru gwerth ardrethol eiddo busnes i adlewyrchu newidiadau yn y farchnad eiddo.
Daeth yr ailbrisiad diweddaraf i rym yng Nghymru a Lloegr ar 1 Ebrill 2023. Roedd yn seiliedig ar gost rhentu eiddo am flwyddyn ar 1 Ebrill 2021.
Bydd yr ailbrisiad nesaf yn dod i rym yng Nghymru a Lloegr ar 1 Ebrill 2026. Bydd yn seiliedig ar gost rhentu eiddo am flwyddyn ar 1 Ebrill 2024.
Gallwch ddefnyddio gwasanaeth ar-lein Asiantaeth y Swyddfa Brisio i:
-
ddarganfod beth fydd eich gwerth ardrethol o 1 Ebrill 2026
-
amcangyfrif eich bil ardrethi busnes ar gyfer y flwyddyn dreth 2026 i 2027
Caiff ardrethi busnes eu trin yn wahanol os yw eich eiddo yn yr Alban neu os yw eich eiddo yng Ngogledd Iwerddon.
Beth sy’n digwydd yn ystod ailbrisiad
Yn ystod ailbrisiad:
-
rhoddir gwerth ardrethol newydd i bob eiddo
-
mae lluosyddion (safonol a busnesau bach) yn cael eu diwygio
Mae hyn yn golygu nad yw newid yn eich gwerth ardrethol bob amser yn golygu newid yn eich bil.
Er mwyn sicrhau bod eich prisiadau yn gywir, gall y VOA ofyn i chi am fanylion rhent a phrydles ar gyfer eich eiddo.
Os ydych chi’n credu bod eich gwerth ardrethol newydd yn anghywir
Byddwch chi’n gallu herio eich gwerth ardrethol newydd o 1 Ebrill 2026.
Gallwch ddefnyddio eich cyfrif prisio ardrethi busnes ar unrhyw adeg i roi gwybod i’r VOA os oes angen newid manylion eich eiddo.
Rhyddhad ardrethi busnes
Efallai y byddwch yn gallu cael gostyngiad gan eich cyngor lleol os ydych yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnes.
Er enghraifft, efallai y byddwch yn gallu cael: