Rhyddhad trosiannol

Mae rhyddhad trosiannol yn cyfyngu ar faint y gall eich bil newid bob blwyddyn o ganlyniad i ailbrisiad ardrethi busnes.

O flwyddyn dreth 2023 i 2024, byddwch yn cael rhyddhad trosiannol os bydd eich ardrethi’n codi neu’n gostwng yn fwy na swm penodol. Mae hyn yn golygu y bydd newidiadau i’ch bil yn cael eu cyflwyno’n raddol.

Bydd eich cyngor yn addasu’ch bil yn awtomatig os ydych yn gymwys.

Faint y gall eich bil newid

Mae faint y gall eich bil newid o un flwyddyn i’r llall yn dibynnu ar ddau beth, sef:

  • gwerth ardrethol eich eiddo

  • p’un a yw’ch bil yn cynyddu neu’n gostwng o ganlyniad i ailbrisiad

Bydd eich rhyddhad trosiannol yn dod i ben pan fydd eich bil yn cyrraedd y swm llawn a bennir gan ailbrisiad.

Mae’r flwyddyn ardrethi busnes rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth y flwyddyn ganlynol.

Os yw’ch bil yn cynyddu o 1 Ebrill 2023

Gwerth ardrethol                       2023 i 2024 2024 i 2025 2025 i 2026
Hyd at £20,000 (£28,000 yn Llundain)    5%           10% yn ogystal â chwyddiant          25% yn ogystal â chwyddiant         
£20,001 (£28,001 yn Llundain) to £100,000 15%          25% yn ogystal â chwyddiant          40% yn ogystal â chwyddiant        
Dros £100,000                        30%          40% yn ogystal â chwyddiant          55% yn ogystal â chwyddiant         

Os cawsoch dystysgrif drosiannol

Bydd gwerth y dystysgrif drosiannol yn cael ei ddefnyddio wrth gyfrifo ardrethi busnes ar gyfer eich eiddo, yn hytrach na’r gwerth ardrethol arferol.

Os ydych yn anghytuno â gwerth y dystysgrif, cysylltwch ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA).

Os oes angen help arnoch

Cysylltwch â’ch cyngor lleol os oes gennych gwestiynau am ryddhad trosiannol.