Rhyddhad ardrethi gwledig

Gallech gael rhyddhad ardrethi gwledig os yw’ch busnes mewn ardal wledig gymwys sydd â phoblogaeth o dan 3,000.

Mae’n rhaid bod y canlynol hefyd yn wir am eich busnes:

  • dyma’r unig siop gyffredinol, siop fwyd neu swyddfa bost yn y pentref, gyda gwerth ardrethol o hyd at £8,500
  • dyma’r unig dafarndy neu orsaf betrol yn y pentref, gyda gwerth ardrethol o hyd at £12,500

Os oes mwy nag un busnes yn yr ardal, gall y ddau ohonynt wneud cais ar yr amod eu bod yn wahanol fathau o fusnes – er enghraifft, tafarndy a siop fwyd.

Mae’n rhaid bod yr eiddo wedi’i feddiannu.

Yr hyn y byddwch yn ei gael

Ni fyddwch yn talu ardrethi busnes os yw’ch busnes yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi gwledig.

Sut i gael rhyddhad ardrethi gwledig

Cynghorau lleol sy’n rheoli’r rhyddhad ardrethi busnes yn eu hardal.

Cysylltwch â’ch cyngor lleol i wneud y canlynol:

  • gwirio a ydych mewn ardal wledig gymwys – bydd gan y cyngor restr o ardaloedd cymwys a mapiau o’r ardaloedd hynny

  • gwirio a yw’ch math o fusnes yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi gwledig

  • cael gwybod sut i gael rhyddhad ardrethi gwledig

Os bydd newid yn eich amgylchiadau

Rhowch wybod am newidiadau er mwyn sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir. Bydd rhoi gwybod am newidiadau hefyd yn sicrhau nad ydych yn talu gormod nac yn cael cynnydd wedi’i ôl-ddyddio yn eich bil.

Cysylltwch â’ch cyngor lleol os:

  • yw’ch eiddo yn dod yn wag

  • ydych yn cael eiddo arall

  • ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i’ch eiddo a fyddai’n cynyddu ei werth – er enghraifft, adeiladu estyniad neu waith adnewyddu

  • yw natur eich busnes yn newid, neu os yw’n symud i safle gwahanol

Os nad ydych bellach yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi gwledig, fel arfer bydd angen i chi dalu’ch cyfradd newydd ar gyfer ardrethi o’r diwrnod y gwnaeth eich amgylchiadau newid ymlaen.

Os nad ydych yn cael rhyddhad ardrethi gwledig, a’ch bod o’r farn eich bod yn gymwys i’w gael

Cysylltwch â’ch cyngor lleol os nad ydych yn cael rhyddhad ardrethi gwledig, a’ch bod o’r farn eich bod yn gymwys i’w gael.

Os ydych o’r farn bod eich gwerth ardrethol yn anghywir

Gallwch herio gwerth ardrethol eich eiddo gyda’r VOA. Defnyddiwch eich cyfrif prisio ardrethi busnes i wneud hyn.

Os daeth eich rhyddhad ardrethi gwledig i ben ar ôl 1 Ebrill 2023

Mae’n bosibl eich bod yn gymwys ar gyfer y cynllun cefnogi busnesau bach os daeth eich rhyddhad ardrethi gwledig i ben oherwydd yr ailbrisiad diwethaf ar 1 Ebrill 2023.

Dysgwch ragor am y cynllun cefnogi busnesau bach.

Os nad ydych yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi gwledig

Mae’n bosibl eich bod yn gymwys i gael math arall o ryddhad ardrethi busnes.

Er enghraifft, os yw’r canlynol yn wir:

Mae’n bosibl eich bod hefyd wedi eich eithrio rhag talu ardrethi busnes ar dir ac adeiladau amaethyddol.

Gwiriwch pa ryddhadau eraill y gallech fod yn gymwys i’w cael.