Rhyddhad eiddo gwag

Os ydych yn cael rhyddhad eiddo gwag, nid oes rhaid i chi dalu ardrethi busnes ar eich eiddo gwag am 3 mis. Mae’r rhyddhad yn dechrau o’r adeg y daeth yr eiddo’n yn wag. Ar ôl y cyfnod hwnnw, mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o fusnesau dalu ardrethi busnes llawn.

Gall yr eiddo canlynol gael rhyddhad eiddo gwag estynedig:

  • safleoedd diwydiannol (er enghraifft, warysau) – rhyddhad estynedig am 3 mis ychwanegol

  • adeiladau rhestredig – rhyddhad estynedig hyd nes eu bod yn cael eu hailfeddiannu

  • adeiladau sydd â gwerth ardrethol o dan £2,900 – rhyddhad estynedig hyd nes eu bod yn cael eu hailfeddiannu

  • eiddo sydd o dan berchnogaeth elusennau – dim ond os bydd defnydd nesaf yr eiddo at ddibenion elusennol yn bennaf

  • adeiladau ar gyfer clybiau chwaraeon amatur cymunedol – dim ond os bydd defnydd nesaf yr eiddo at ddibenion clwb chwaraeon yn bennaf

Sut i gael rhyddhad eiddo gwag

Cysylltwch â’ch cyngor lleol i wneud y canlynol:

  • rhoi gwybod pan fydd eich eiddo yn dod yn wag

  • gwirio a allwch gael rhyddhad eiddo gwag estynedig

  • dysgu ragor am sut mae rhyddhad eiddo gwag yn gweithio yn eich ardal chi

Os bydd newid yn eich amgylchiadau

Rhowch wybod am newidiadau er mwyn sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir. Bydd rhoi gwybod am newidiadau hefyd yn sicrhau nad ydych yn talu gormod nac yn cael cynnydd wedi’i ôl-ddyddio yn eich bil.

Cysylltwch â’ch cyngor lleol os:

  • nad yw’ch eiddo’n wag mwyach

  • ydych yn cael eiddo arall

  • ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i’ch eiddo a fyddai’n cynyddu ei werth – er enghraifft, adeiladu estyniad neu gynnal gwaith adnewyddu

  • yw natur eich busnes yn newid, neu os yw’n symud i safle gwahanol

Os nad ydych bellach yn gymwys i gael rhyddhad eiddo gwag, fel arfer bydd angen i chi dalu’ch cyfradd newydd ar gyfer ardrethi o’r diwrnod y gwnaeth eich amgylchiadau newid ymlaen.

Os nad ydych yn cael rhyddhad eiddo gwag, a’ch bod o’r farn eich bod yn gymwys i’w gael

Cysylltwch â’ch cyngor lleol os nad ydych yn cael rhyddhad eiddo gwag, a’ch bod o’r farn eich bod yn gymwys i’w gael.

Os nad ydych yn gymwys i gael rhyddhad eiddo gwag

Mae’n bosibl eich bod hefyd yn gymwys i gymryd seibiant byr o dalu biliau ardrethi busnes os yw un o’r canlynol yn wir am eich eiddo:

  • mae’n rhannol wag

  • mae’n cael ei adnewyddu

Os ydych yn wynebu trafferthion ariannol, mae’n bosibl y gallwch hefyd gael rhyddhad caledi.

Os yw’ch eiddo’n rhannol wag

Mae’n bosibl y bydd eich cyngor lleol yn cynnig rhyddhad ardrethi busnes am gyfnod byr os yw’ch eiddo’n rhannol wag.

Os ydych yn gymwys, byddwch yn cael rhyddhad ar y rhan o’r eiddo sy’n wag. Daw’r rhyddhad hwn i rym o’r diwrnod y daeth yr eiddo’n wag.

Cysylltwch â’ch cyngor lleol i gael gwybod a yw hyn yn cael ei gynnig yn eich ardal chi, i wirio a ydych yn gymwys, ac i wneud cais.

Os yw’ch eiddo’n cael ei atgyweirio neu ei adnewyddu

Rhowch wybod i’r VOA os na ellir defnyddio’r adeilad oherwydd ei fod yn cael ei atgyweirio neu ei adnewyddu. Defnyddiwch eich cyfrif prisio ardrethi busnes i wneud hyn.

Bydd y VOA yn asesu’r eiddo a’r gwaith sy’n cael ei wneud arno. Os yw’r VOA yn penderfynu bod y gwaith atgyweirio neu’r gwelliannau yn golygu na ellir defnyddio’r eiddo, ni fydd yn rhaid i chi dalu ardrethi busnes hyd nes y gellir defnyddio’r adeilad eto.