Rhyddhad ardrethi elusennol

Gallech gael rhyddhad ardrethi elusennol os yw’ch eiddo’n cael ei ddefnyddio at ddibenion elusennol yn bennaf.

I fod yn gymwys, mae’n rhaid bod yr eiddo’n cael ei ddefnyddio gan y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • elusen, neu ymddiriedolwyr elusen

  • clwb chwaraeon amatur cymunedol (CChAC)

Ni allwch gael rhyddhad ardrethi elusennol a rhyddhad ardrethi busnesau bach ar yr un pryd. Bydd eich cyngor lleol yn penderfynu pa fath o ryddhad yr ydych yn gymwys i gael.

Os yw’r eiddo’n cael ei ddefnyddio gan elusen neu ymddiriedolwyr elusen

Mae’n bosibl y bydd eich awdurdod lleol yn gofyn am dystiolaeth i brofi bod eich eiddo’n cael ei ddefnyddio at ddibenion elusennol – er enghraifft, rhif cofrestru’ch elusen neu dystiolaeth o statws elusennol.

Dysgwch ragor am sefydlu elusen, neu ei chofrestru.

Os yw’r eiddo’n cael ei ddefnyddio gan glwb chwaraeon amatur cymunedol

I fod yn gymwys, mae’n rhaid i’ch sefydliad fod wedi’i gofrestru gyda Chyllid a Thollau EF (CThEF) fel clwb chwaraeon amatur cymunedol.

Dysgwch ragor am gofrestru fel clwb chwaraeon amatur cymunedol.

Yr hyn y byddwch yn ei gael

Mae rhyddhad ardrethi elusennol yn tynnu hyd at 80% oddi ar eich bil ardrethi busnes.

Mae’n bosibl y bydd eich cyngor lleol yn gallu ychwanegu at y gostyngiad, fel na fydd yn rhaid i chi dalu ardrethi busnes. Gelwir hyn yn ‘rhyddhad dewisol’.

Sut i gael rhyddhad ardrethi elusennol

Cynghorau lleol sy’n rheoli’r rhyddhad ardrethi busnes yn eu hardal.

Cysylltwch â’ch cyngor lleol i wneud y canlynol:

  • gwirio a ydych yn gymwys

  • cael gwybod sut i gael rhyddhad ardrethi elusennol

  • cael gwybod a all y cyngor ychwanegu at y gostyngiad gan ddefnyddio rhyddhad dewisol, fel na fydd yn rhaid i chi dalu ardrethi busnes

  • gwirio a allwch gael unrhyw fathau eraill o ryddhad ardrethi busnes yn ogystal â rhyddhad ardrethi elusennol

Os bydd newid yn eich amgylchiadau

Rhowch wybod am newidiadau er mwyn sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir. Bydd rhoi gwybod am newidiadau hefyd yn sicrhau nad ydych yn talu gormod nac yn cael cynnydd wedi’i ôl-ddyddio yn eich bil.

Cysylltwch â’ch cyngor lleol os:

  • yw’ch eiddo yn dod yn wag

  • ydych yn cael eiddo arall

  • ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i’ch eiddo a fyddai’n cynyddu ei werth – er enghraifft, adeiladu estyniad neu gynnal gwaith adnewyddu

  • yw natur eich busnes yn newid, neu os yw’n symud i safle gwahanol

Os yw swm y rhyddhad ardrethi elusennol yr ydych yn gymwys i’w gael yn newid, fel arfer bydd angen i chi dalu’ch cyfradd newydd ar gyfer ardrethi o’r diwrnod y gwnaeth eich amgylchiadau newid ymlaen.

Os nad ydych yn cael rhyddhad ardrethi elusennol, a’ch bod o’r farn eich bod yn gymwys i’w gael

Cysylltwch â’ch cyngor lleol os nad ydych yn cael rhyddhad ardrethi elusennol, a’ch bod o’r farn eich bod yn gymwys i’w gael.

Os nad ydych yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi elusennol

Mae’n bosibl eich bod yn dal i allu cael rhyddhad dewisol os ydych yn sefydliad di-elw neu’n sefydliad gwirfoddol. Cysylltwch â’ch cyngor lleol i gael gwybod.

Mae’n bosibl eich bod hefyd yn gymwys i gael math arall o ryddhad ardrethi busnes. Er enghraifft, os yw’r canlynol yn wir:

Gwiriwch pa ryddhadau eraill y gallech fod yn gymwys i’w cael.