Ardaloedd menter

Os ydych yn dechrau busnes, neu’n ei symud i ardal fenter, gallech fod yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnes.

Cymhwystra

Bydd p’un a ydych yn gymwys i gael rhyddhad, a faint y byddwch yn ei gael, yn dibynnu ar y canlynol:

  • rheolau’r cyngor lleol ar gyfer yr ardal fenter

  • pryd y sefydlwyd yr ardal fenter

  • pryd y gwnaethoch ddechrau’ch busnes, neu ei symud i’r ardal fenter

Yr hyn y byddwch yn ei gael

Y cyngor sy’n cyfrifo sut mae’r rhyddhad yn cael ei roi ar waith. Gallech gael rhyddhad gwerth hyd at £55,000 pob blwyddyn, dros 5 mlynedd.

Sut i gael rhyddhad ardal fenter

Cysylltwch â’ch ardal fenter leol i wneud y canlynol:

  • gwirio a yw’n cynnig rhyddhad ardrethi busnes

  • cael gwybod sut i’w gael

Cysylltwch â’ch cyngor lleol i wirio a allwch gael unrhyw fathau eraill o ryddhad ardrethi busnes yn ogystal â rhyddhad ardal fenter.

Os bydd newid yn eich amgylchiadau

Rhowch wybod am newidiadau er mwyn sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir. Bydd rhoi gwybod am newidiadau hefyd yn sicrhau nad ydych yn talu gormod nac yn cael cynnydd wedi’i ôl-ddyddio yn eich bil.

Cysylltwch â’ch cyngor lleol os:

  • yw’ch eiddo yn dod yn wag

  • ydych yn cael eiddo arall

  • ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i’ch eiddo a fyddai’n cynyddu ei werth – er enghraifft, adeiladu estyniad neu gynnal gwaith adnewyddu

  • yw natur eich busnes yn newid, neu os yw’n symud i safle gwahanol

Os bydd swm y rhyddhad ardal fenter yr ydych yn gymwys i’w gael yn newid, fel arfer bydd angen i chi dalu’ch cyfradd newydd ar gyfer ardrethi o’r diwrnod y gwnaeth eich amgylchiadau newid ymlaen.

Os nad ydych yn cael rhyddhad ardal fenter, a’ch bod o’r farn eich bod yn gymwys i’w gael

Cysylltwch â’ch cyngor lleol os nad ydych yn cael rhyddhad ardal fenter, a’ch bod o’r farn eich bod yn gymwys i’w gael.

Os nad ydych yn gymwys i gael rhyddhad ardal fenter

Mae’n bosibl eich bod yn gymwys i gael math arall o ryddhad ardrethi busnes. Er enghraifft, os yw’r canlynol yn wir:

Gwiriwch pa ryddhadau eraill y gallech fod yn gymwys i’w cael.