Mathau o ryddhad ardrethi busnes

Mae rhai busnesau yn Lloegr yn gymwys i gael gostyngiad yn eu biliau ardrethi busnes. Gelwir hyn yn ‘rhyddhad ardrethi busnes’.

Mae’r rheolau ar gyfer rhyddhad ardrethi busnes yn wahanol os yw’ch eiddo yng Nghymru, yn yr Alban, neu yng Ngogledd Iwerddon.

Cael gwybod pwy i gysylltu ag ef er mwyn cael help gyda rhyddhad ardrethi busnes.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Pryd y gallwch gael rhyddhad ardrethi busnes

Mae’n bosibl eich bod yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnes os yw’r canlynol yn wir:

Mae’n bosibl eich bod hefyd yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnes os yw’r canlynol yn wir:

Gall cynghorau lleol hefyd ddewis cynnig rhyddhad ardrethi busnes i fusnesau sydd o fudd i’r gymuned neu’r economi leol. Cysylltwch â’ch cyngor lleol i gael gwybod a yw hyn ar gael yn eich ardal chi, ac os ydych yn gymwys.

Pan nad oes rhaid i chi dalu ardrethi busnes

Mae ambell eiddo wedi’i eithrio rhag ardrethi busnes.

Efallai na fydd yn rhaid i chi dalu ardrethi busnes ar gyfer y canlynol:

  • tir ac adeiladau amaethyddol, gan gynnwys ffermydd pysgod
  • adeiladau a ddefnyddir er lles pobl anabl, neu ar gyfer hyfforddiant
  • neuaddau eglwys neu adeiladau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer addoli crefyddol cyhoeddus

Dysgwch ragor am adeiladau sydd wedi’u heithrio.

Os nad ydych yn siŵr pa ryddhad ardrethi busnes yr ydych yn gymwys i’w gael

Cynghorau lleol sy’n gyfrifol am anfon biliau ardrethi busnes, casglu taliadau a gwneud penderfyniadau ynghylch a yw busnes yn gymwys i gael rhyddhad neu beidio.

Cysylltwch â’ch cyngor lleol i gael gwybod pa fathau o ryddhad y gallwch eu cael, a sut i wneud cais.

Os yw’ch safle yn cael ei effeithio gan ddigwyddiadau lleol

Mae’n bosibl y byddwch yn cael gostyngiad dros dro yn eich ardrethi busnes os bydd digwyddiadau lleol difrifol yn effeithio ar eich safle (megis llifogydd, gwaith adeiladu neu waith ffordd).

Rhowch wybod i Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) os ydych o’r farn bod digwyddiadau lleol wedi effeithio ar werth eich eiddo. Rhowch wybod i’r VOA gan ddefnyddio’ch cyfrif prisio ardrethi busnes.

Bydd y VOA yn penderfynu a allwch gael gostyngiad dros dro yn eich ardrethi busnes.