Rhyddhad manwerthu, lletygarwch a hamdden

Gallech fod yn gymwys i gael rhyddhad manwerthu, lletygarwch a hamdden os yw’ch busnes yn cael ei ddefnyddio’n bennaf fel:

  • siop
  • bwyty, caffi, bar neu dafarn
  • sinema neu leoliad cerddoriaeth
  • busnes hamdden neu letygarwch – er enghraifft, campfa, sba neu westy

Yr hyn y byddwch yn ei gael

Os ydych yn gymwys, gallech gael 75% oddi ar eich biliau ardrethi busnes ar gyfer y flwyddyn filio 2023 i 2024 (1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024).

Y rhyddhad mwyaf y gallwch ei gael yn ystod pob blwyddyn filio yw £110,000 fesul busnes.

Os byddwch yn optio allan o ryddhad manwerthu, lletygarwch a hamdden ar gyfer y flwyddyn filio 2023 i 2024, ni allwch newid eich meddwl.

Sut i gael rhyddhad manwerthu, lletygarwch a hamdden

Cynghorau lleol sy’n rheoli’r rhyddhad ardrethi busnes yn eu hardal.

Cysylltwch â’ch cyngor lleol i wneud y canlynol:

  • gwirio a ydych yn gymwys
  • cael gwybod sut i gael rhyddhad manwerthu, lletygarwch a hamdden
  • gwirio a allwch gael unrhyw fathau eraill o ryddhad ardrethi busnes yn ogystal â rhyddhad manwerthu, lletygarwch a hamdden

Os bydd newid yn eich amgylchiadau

Rhowch wybod am newidiadau er mwyn sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir. Bydd rhoi gwybod am newidiadau hefyd yn sicrhau nad ydych yn talu gormod nac yn cael cynnydd wedi’i ôl-ddyddio yn eich bil.

Cysylltwch â’ch cyngor lleol os:

  • yw’ch eiddo yn dod yn wag
  • ydych yn cael eiddo arall
  • ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i’ch eiddo a fyddai’n cynyddu ei werth – er enghraifft, adeiladu estyniad neu waith adnewyddu
  • yw natur eich busnes yn newid, neu os yw’n symud i safle gwahanol

Os yw swm y rhyddhad ardrethi busnes ar gyfer manwerthu, lletygarwch a hamdden yr ydych yn gymwys i’w gael yn newid, fel arfer bydd angen i chi dalu’ch cyfradd newydd ar gyfer ardrethi o’r diwrnod y gwnaeth eich amgylchiadau newid.

Os nad ydych yn cael rhyddhad manwerthu, lletygarwch a hamdden, a’ch bod o’r farn eich bod yn gymwys i’w gael

Cysylltwch â’ch cyngor lleol os nad ydych yn cael rhyddhad manwerthu, lletygarwch a hamdden, a’ch bod o’r farn eich bod yn gymwys i’w gael.

Os nad ydych yn gymwys i gael rhyddhad manwerthu, lletygarwch a hamdden

Mae’n bosibl eich bod yn gymwys i gael math arall o ryddhad ardrethi busnes. Er enghraifft, os yw’r canlynol yn wir:

Gwiriwch pa ryddhadau eraill y gallech fod yn gymwys i’w cael.