Rhyddhad papur newydd lleol

Gallech gael rhyddhad papur newydd lleol os yw’ch eiddo’n cael ei ddefnyddio fel swyddfa ar gyfer newyddiadurwyr a gohebwyr sy’n gweithio i bapur newydd lleol.

Ni allwch gael y rhyddhad hwn ar gyfer:

  • cylchgronau

  • papurau newydd ar-lein nad ydynt yn cael eu hargraffu

Yr hyn y byddwch yn ei gael

Bydd eiddo cymwys yn cael rhyddhad mewn ardrethi busnes ar ffurf gostyngiad gwerth £1,500 y flwyddyn.

Gall papur newydd gael y rhyddhad hwn ar gyfer un eiddo yn unig, hyd yn oed os yw’n defnyddio mwy nag un eiddo fel swyddfa.

Os oes sawl papur newydd lleol yn defnyddio’r un swyddfa, dim ond un ohonynt sy’n gallu cael y rhyddhad.

Sut i gael rhyddhad papur newydd lleol

Cynghorau lleol sy’n rheoli’r rhyddhad ardrethi busnes yn eu hardal.

Cysylltwch â’ch cyngor lleol i wneud y canlynol:

  • gwirio a ydych yn gymwys

  • cael gwybod sut i gael rhyddhad papur newydd lleol

  • gwirio a allwch gael unrhyw fathau eraill o ryddhad ardrethi busnes yn ogystal â rhyddhad papur newydd lleol

Bydd rhyddhad papurau newydd lleol yn dod i ben ar 31 Mawrth 2025. O 1 Ebrill 2025 ymlaen, bydd angen i chi dalu ardrethi busnes yn llawn os nad ydych yn gymwys i gael math arall o ryddhad.

Os bydd newid yn eich amgylchiadau

Rhowch wybod am newidiadau er mwyn sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir. Bydd rhoi gwybod am newidiadau hefyd yn sicrhau nad ydych yn talu gormod nac yn cael cynnydd wedi’i ôl-ddyddio yn eich bil.

Cysylltwch â’ch cyngor lleol os:

  • yw’ch eiddo yn dod yn wag

  • ydych yn cael eiddo arall

  • ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i’ch eiddo a fyddai’n cynyddu ei werth – er enghraifft, adeiladu estyniad neu gynnal gwaith adnewyddu

  • yw natur eich busnes yn newid, neu os yw’n symud i safle gwahanol

Os nad ydych bellach yn gymwys i gael rhyddhad papur newydd lleol, fel arfer bydd angen i chi dalu’ch cyfradd newydd ar gyfer ardrethi o’r diwrnod y gwnaeth eich amgylchiadau newid ymlaen.

Os nad ydych yn cael rhyddhad papur newydd lleol, a’ch bod o’r farn eich bod yn gymwys i’w gael

Cysylltwch â’ch cyngor lleol os nad ydych yn cael rhyddhad ardrethi papur newydd lleol, a’ch bod o’r farn eich bod yn gymwys i’w gael.

Os nad ydych yn gymwys i gael rhyddhad papur newydd lleol

Mae’n bosibl eich bod yn gymwys i gael math arall o ryddhad ardrethi busnes. Er enghraifft, os yw’r canlynol yn wir:

Gwiriwch pa ryddhadau eraill y gallech fod yn gymwys i’w cael.