Rhyddhad ardrethi busnes
Adeiladau sydd wedi’u heithrio
Mae ambell eiddo wedi’i eithrio rhag ardrethi busnes.
Efallai na fydd yn rhaid i chi dalu ardrethi busnes ar y canlynol:
-
tir ac adeiladau amaethyddol, gan gynnwys ffermydd pysgod
-
adeiladau a ddefnyddir er lles pobl anabl, neu ar gyfer hyfforddiant
-
neuaddau eglwys neu adeiladau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer addoli crefyddol cyhoeddus
Mae gofynion cyfreithiol llym ar gyfer yr eithriadau hyn.
Tir ac adeiladau amaethyddol
Nid oes rhaid i chi dalu ardrethi busnes ar dir ac adeiladau amaethyddol, oni bai bod y tir a’r adeiladau hyn yn cael eu defnyddio at ddibenion nad ydynt yn rhai amaethyddol.
Er enghraifft, bydd angen i chi dalu ardrethi busnes os yw’ch fferm yn cynnwys siop, gwely a brecwast, neu sŵ anwesu.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol i wirio a yw’ch eiddo wedi’i eithrio rhag ardrethi busnes.
Eiddo a ddefnyddir ar gyfer pobl anabl
Nid oes rhaid i chi dalu ardrethi busnes os yw’r eiddo’n cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl, neu’n rhannol, er budd pobl anabl.
Bydd y cyngor yn penderfynu a yw’ch eiddo yn gymwys.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol i wirio a yw’ch eiddo wedi’i eithrio rhag ardrethi busnes.
Mannau addoli crefyddol cyhoeddus
Nid oes angen i chi dalu ardrethi busnes os yw’ch eiddo yn man addoli crefyddol cyhoeddus ardystiedig. Gall rhai rhannau o safle crefyddol ddisgyn y tu allan i’r eithriad os nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer addoli crefyddol. Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn penderfynu pa fannau addoli crefyddol cyhoeddus sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra ar gyfer eithriadau rhag ardrethi busnes.
Cysylltwch â’r VOA i wirio a yw’ch eiddo wedi’i eithrio rhag ardrethi busnes.
Os ydych o’r farn y dylai’ch eiddo fod wedi’i eithrio
Gallwch roi gwybod i’r VOA eich bod o’r farn y dylai’ch eiddo fod wedi’i eithrio gan ddefnyddio’ch cyfrif prisio ardrethi busnes.
Os yw’r VOA yn penderfynu bod eich eiddo wedi’i eithrio, ni fydd angen i chi dalu ardrethi busnes ar yr eiddo, oni bai bod eich busnes neu’ch safle yn newid.
Os bydd newid yn eich amgylchiadau
Rhowch wybod am newidiadau er mwyn sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir. Bydd rhoi gwybod am newidiadau hefyd yn sicrhau nad ydych yn talu gormod nac yn cael cynnydd wedi’i ôl-ddyddio yn eich bil.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol os:
-
yw’ch eiddo yn dod yn wag
-
ydych yn cael eiddo arall
-
ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i’ch eiddo a fyddai’n cynyddu ei werth – er enghraifft, adeiladu estyniad neu gynnal gwaith adnewyddu
-
yw natur eich busnes yn newid, neu os yw’n symud i safle gwahanol
Os yw’r newid yn golygu nad yw’ch eiddo wedi’i eithrio mwyach, fel arfer bydd angen i chi dalu’ch cyfradd newydd ar gyfer ardrethi o’r diwrnod y gwnaeth eich amgylchiadau newid.
Os nad yw’ch eiddo wedi’i eithrio rhag ardrethi busnes
Mae’n bosibl eich bod yn gymwys i gael math arall o ryddhad ardrethi busnes.
Er enghraifft, os oes gennych siop ar eich eiddo amaethyddol, mae’n bosibl eich bod yn gymwys i gael y canlynol:
-
rhyddhad ardrethi gwledig, os mai dyma’r unig fusnes mewn ardal wledig
Mae’n bosibl eich bod hefyd yn gymwys os yw’r canlynol yn wir:
-
mae gennych fusnes bach
-
mae’ch eiddo’n cael ei ddefnyddio gan elusen neu glwb chwaraeon amatur cymunedol
-
rydych yn wynebu trafferthion ariannol
Gwiriwch pa ryddhadau eraill y gallech fod yn gymwys i’w cael.