Rhyddhad porthladdoedd rhydd

Mae porthladd rhydd yn ardal lle mae busnesau yn cael amrywiaeth o fuddion er mwyn cefnogi’r economi leol.

Os yw’ch busnes wedi’i leoli mewn porthladd rhydd, gallech fod yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnes.

Cymhwystra

Dyma restr o borthladdoedd rhydd:

  • Porthladd Rhydd Dwyrain Canolbarth Lloegr

  • Porthladd Rhydd Dwyrain Lloegr, Felixstowe a Harwich

  • Porthladd Rhydd Humber

  • Porthladd Rhydd Rhanbarth Dinas Lerpwl

  • Porthladd Rhydd Plymouth a De Dyfnaint

  • Porthladd Rhydd Solent

  • Porthladd Rhydd Teesside

  • Porthladd Rhydd Tafwys

Mae’n rhaid eich bod wedi gwneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • dechrau’ch busnes yn y porthladd rhydd, neu wedi symud eich busnes yno ar ôl i’r porthladd rhydd gael ei sefydlu

  • ehangu’ch busnes yn y porthladd rhydd ar ôl i’r porthladd rhydd gael ei sefydlu – er enghraifft, os ydych wedi adeiladu estyniad, wedi cymryd ystafelloedd newydd, neu wedi prynu eiddo newydd yn y porthladd rhydd

Cysylltwch â’ch cyngor lleol os nad ydych yn siŵr a yw’ch busnes wedi’i leoli mewn porthladd rhydd neu beidio.

Yr hyn y byddwch yn ei gael

Eich cyngor lleol sy’n cyfrifo sut mae’r rhyddhad yn cael ei roi ar waith.

Fel arfer, byddwch yn cael y swm llawn o ryddhad, ac ni fydd angen i chi dalu ardrethi busnes ar eich eiddo os gwnaethoch y canlynol:

  • dechrau’ch busnes yn y porthladd rhydd, neu symud eich busnes yno ar ôl i’r porthladd rhydd gael ei sefydlu

  • ehangu’ch busnes i’r eiddo ar ôl i’r porthladd rhydd gael ei sefydlu

Fel arfer, cewch ostyngiad yn eich bil ardrethi busnes os oedd eich busnes yn yr eiddo cyn i’r porthladd rhydd gael ei sefydlu, a’ch bod wedi gwneud y canlynol:

  • ymestyn yr eiddo ar ôl i’r porthladd rhydd gael ei sefydlu – er enghraifft, os gwnaethoch adeiladu estyniad neu gymryd ystafelloedd newydd yn yr eiddo

  • gwella ystafell neu ardal o fewn yr eiddo fel y gallech ei defnyddio am y tro cyntaf ar ôl i’r porthladd rhydd gael ei sefydlu – er enghraifft, os gwnaethoch wneud gwelliannau o ran mynediad a diogelwch tân

Eich cyngor lleol sy’n penderfynu pa ostyngiad y byddwch yn ei gael yn eich bil ardrethi busnes. Fel arfer, mae’n seiliedig ar faint sydd wedi newid o ran gwerth ardrethol yr eiddo o ganlyniad i’ch estyniad neu’ch gwelliannau.

Pa mor hir y byddwch yn cael rhyddhad porthladdoedd rhydd

Byddwch yn cael rhyddhad porthladdoedd rhydd am 5 mlynedd, yn dechrau o’r diwrnod cyntaf y cewch y rhyddhad.

Sut i gael rhyddhad porthladdoedd rhydd

Cysylltwch â’ch porthladd rhydd lleol i wneud y canlynol:

  • gwirio a yw’n cynnig rhyddhad ardrethi busnes

  • gwirio a ydych yn gymwys i’w gael

  • cael gwybod sut i’w gael

Cysylltwch â’ch cyngor lleol i wirio a allwch gael unrhyw fathau eraill o ryddhad ardrethi busnes yn ogystal â rhyddhad porthladdoedd rhydd.

Os yw’ch rhyddhad porthladdoedd rhydd yn dod i ben, cysylltwch â’r cyngor i gael gwybod pam.

Os bydd newid yn eich amgylchiadau

Rhowch wybod am newidiadau er mwyn sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir. Bydd rhoi gwybod am newidiadau hefyd yn sicrhau nad ydych yn talu gormod nac yn cael cynnydd wedi’i ôl-ddyddio yn eich bil.

Cysylltwch â’ch cyngor lleol os:

  • yw’ch eiddo yn dod yn wag

  • ydych yn cael eiddo arall

  • ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i’ch eiddo a fyddai’n cynyddu ei werth – er enghraifft, adeiladu estyniad neu gynnal gwaith adnewyddu

  • yw natur eich busnes yn newid, neu os yw’n symud i safle gwahanol

Gall faint o ryddhad porthladdoedd rhydd yr ydych yn gymwys i’w gael newid. Er enghraifft, gallai gynyddu os ydych wedi ymestyn eich eiddo ac mae gwerth ardrethol eich eiddo wedi cynyddu.

Fel arfer, bydd angen i chi dalu’ch cyfradd newydd o’r diwrnod y gwnaeth eich amgylchiadau newid ymlaen.

Os nad ydych yn cael rhyddhad porthladdoedd rhydd, a’ch bod o’r farn eich bod yn gymwys i’w gael

Cysylltwch â’ch cyngor lleol os nad ydych yn cael rhyddhad porthladdoedd rhydd, a’ch bod o’r farn eich bod yn gymwys i’w gael.

Os nad ydych yn gymwys i gael rhyddhad porthladdoedd rhydd

Mae’n bosibl eich bod yn gymwys i gael math arall o ryddhad ardrethi busnes. Er enghraifft, os yw’r canlynol yn wir:

Gwiriwch pa ryddhadau eraill y gallech fod yn gymwys i’w cael.