Rhyddhad ardrethi busnes
Cael help gyda rhyddhad ardrethi busnes
Cynghorau lleol sy’n gyfrifol am anfon biliau ardrethi busnes, casglu taliadau a gwneud penderfyniadau ynghylch a yw busnes yn gymwys i gael rhyddhad neu beidio.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol i gael help gyda rhyddhad ardrethi busnes, yn rhad ac am ddim.
Er enghraifft, gall y cyngor roi gwybod i chi am y canlynol:
-
y mathau o ryddhad ardrethi busnes yr ydych yn gymwys i gael, a sut i wneud cais
-
os gallwch gael mwy nag un math o ryddhad
-
y rheswm dros ddod â’ch rhyddhad i ben
-
y rheswm dros newid swm y rhyddhad ardrethi busnes rydych yn ei gael
-
pa ‘rhyddhadau disgresiwn’ y mae’r cyngor yn eu cynnig yn eich ardal
-
os bydd newid yn eich amgylchiadau yn cael effaith ar y rhyddhad y byddwch yn ei gael – er enghraifft, prynu eiddo newydd neu ei adnewyddu
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad gan y cyngor lleol ynghylch rhyddhad ardrethi busnes
Cysylltwch â’r cyngor i gael gwybod y rhesymau dros y penderfyniad. Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais arall i’r cyngor gan ddefnyddio rhagor o dystiolaeth o’ch cymhwystra.
Os bydd angen i chi herio gwerth ardrethol eich eiddo
Mae rhai rhyddhadau, fel rhyddhad ardrethi busnesau bach, yn seiliedig ar werth ardrethol eich eiddo.
Os ydych o’r farn bod gwerth ardrethol eich eiddo yn anghywir, gallwch ei herio gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA).
Defnyddiwch eich cyfrif prisio ardrethi busnes i herio gwerth ardrethol eich eiddo. Gallwch wneud hyn yn rhad ac am ddim.
Gallwch ddefnyddio asiant ardrethu i herio gwerth ardrethol eich eiddo, ond nid oes angen i chi wneud hynny. Cael cyngor ar benodi asiant.