Rhyddhad cefnogi busnesau bach

Gallwch gael rhyddhad cefnogi busnesau bach os yw’r naill a’r llall o’r canlynol yn wir:

  • gwnaeth bil eich eiddo busnes gynyddu o ganlyniad i’r ailbrisiad diweddaraf ar 1 Ebrill 2023

  • rydych wedi colli eich holl ryddhad ardrethi busnesau bach, neu’ch holl ryddhad ardrethi gwledig, neu ran ohono

Yr hyn y byddwch yn ei gael

Os ydych yn gymwys, ni fydd eich biliau ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024 yn codi mwy na £600.

Bydd eich cyngor yn addasu’ch bil os ydych yn gymwys.