Rhyddhad caledi

Gall cynghorau ddefnyddio rhyddhad caledi i ostwng neu ganslo’ch bil ardrethi busnes.

Er mwyn rhoi’r rhyddhad hwn i chi, bydd yn rhaid i’ch cyngor lleol gytuno â’r canlynol:

  • byddech yn wynebu trafferthion ariannol heb y rhyddhad hwn

  • mae rhoi rhyddhad caledi i chi er budd pobl leol

Mae’n bosibl y gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth i brofi’ch sefyllfa ariannol, neu i ddangos sut mae’ch busnes o fudd i’r gymuned leol.

Sut i gael rhyddhad caledi

Cynghorau lleol sy’n rheoli’r rhyddhad ardrethi busnes yn eu hardal.

Cysylltwch â’ch cyngor lleol ac esboniwch eich sefyllfa er mwyn gallu gwneud y canlynol:

  • gwirio a ydych yn gymwys a faint y gallwch ei gael

  • cael gwybod sut i gael rhyddhad caledi

  • gwirio a allwch gael unrhyw fathau eraill o ryddhad ardrethi busnes yn ogystal â rhyddhad caledi, neu yn lle hynny

Os bydd newid yn eich amgylchiadau

Rhowch wybod am newidiadau er mwyn sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir. Bydd rhoi gwybod am newidiadau hefyd yn sicrhau nad ydych yn talu gormod nac yn cael cynnydd wedi’i ôl-ddyddio yn eich bil.

Cysylltwch â’ch cyngor lleol os:

  • nad ydych yn wynebu trafferthion ariannol mwyach

  • yw’ch trafferthion ariannol wedi gwaethygu, a’ch bod o’r farn bod angen mwy o ryddhad caledi arnoch

Os nad ydych bellach yn gymwys i gael rhyddhad caledi, fel arfer bydd angen i chi dalu’ch cyfradd newydd ar gyfer ardrethi o’r diwrnod y gwnaeth eich amgylchiadau newid ymlaen.

Os nad ydych yn gymwys i gael rhyddhad caledi

Mae’n bosibl eich bod yn gymwys i gael math arall o ryddhad ardrethi busnes. Er enghraifft, os yw’r canlynol yn wir:

Gwiriwch pa ryddhadau eraill y gallech fod yn gymwys i’w cael.