Rhyddhad gwelliannau

Efallai y byddwch yn cael rhyddhad gwelliannau os byddwch yn gwneud rhai gwelliannau i’ch eiddo. Os ydych yn gymwys, byddwch yn cael y rhyddhad am flwyddyn. Mae’n dechrau pan fyddwch wedi cwblhau eich gwelliannau.

Cymhwysedd

Dylai unrhyw welliannau rydych yn eu gwneud:

  • gynyddu ‘gwerth ardrethol’ eich ardrethi busnes eu cyfrifo eich eiddo

  • wedi’i gwblhau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024

Hefyd, mae’n rhaid iddyn nhw naill ai:

  • gynyddu maint eich eiddo

  • ychwanegu nodweddion neu offer newydd i’ch eiddo, fel gwresogi, aerdymheru neu TCC

Nid yw unrhyw welliannau i nodweddion neu offer presennol yn gymwys.

Mae’n rhaid eich bod wedi meddiannu’r eiddo yn ystod ac ar ôl y gwaith gwella i gael rhyddhad gwelliannau. Ni allwch drosglwyddo’ch rhyddhad gwelliannau i unrhyw un arall.

Beth fyddwch chi’n ei gael

Bydd eich cyngor lleol yn penderfynu faint o ryddhad a gewch ar sail ‘gwerth ardrethol’ eich eiddo a’r math o welliannau rydych wedi’u gwneud.

Sut i gael rhyddhad gwelliannau

Gallwch roi gwybod am newidiadau i’ch eiddo gan ddefnyddio eich cyfrif prisio ardrethi busnes.

Bydd y VOA yn penderfynu a ellid ystyried y newidiadau ar gyfer rhyddhad gwelliannau. Byddant yn anfon tystysgrif atoch chi a’ch cyngor yn dangos:

  • sut mae’r gwelliant yn effeithio ar werth ardrethol yr eiddo

  • pryd y daw’r rhyddhad i ben

Unwaith y bydd eich cyngor lleol wedi cadarnhau eich bod wedi meddiannu’r eiddo drwy gydol y gwelliannau, byddant yn:

  • penderfynu faint o ryddhad gwelliannau y mae gennych hawl iddo

  • anfon bil ardrethi is atoch

Os ydych yn credu y dylech fod yn cael rhyddhad gwelliannau ond nad ydych

Cysylltwch â’ch cyngor lleol os nad ydych yn cael rhyddhad gwelliannau a’ch bod yn credu eich bod yn gymwys i’w dderbyn.