Casgliad

Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm i unigolion: cam wrth gam

Dysgwch sut i ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a sut i gofrestru’ch busnes os ydych yn gymwys.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Mae’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn ffordd newydd o roi gwybod i CThEF am incwm a threuliau os ydych yn unig fasnachwr neu’n landlord.

Bydd angen i chi ddefnyddio meddalwedd sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm er mwyn:

  • creu, cadw, a chywiro cofnodion digidol o incwm a threuliau eich busnes 
  • anfon eich diweddariadau chwarterol at CThEF 
  • cyflwyno’ch Ffurflen Dreth a thalu’r dreth sy’n ddyledus erbyn 31 Ionawr y flwyddyn ganlynol

Pwy fydd angen cofrestru

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol: 

  • rydych yn unigolyn sydd wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad
  • rydych yn cael incwm o hunangyflogaeth neu eiddo, neu’r ddau
  • mae gennych incwm cymhwysol sy’n fwy na £30,000

Os yw’ch incwm cymhwysol yn fwy na £20,000, neu rydych yn unigolyn mewn partneriaeth fusnes, bydd angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn y dyfodol. Byddwn yn gosod yr amserlen ar gyfer hyn yn nes ymlaen.

1. Cyfrifwch eich incwm cymhwysol

Dysgwch am beth sydd wedi’i gynnwys yn eich incwm cymhwysol at ddibenion y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm er mwyn gwirio a oes angen i chi gofrestru.

2. Dysgwch a oes angen i chi ddechrau defnyddio’r cynllun

Gwiriwch a oes angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i roi gwybod am eich busnes fel unig fasnachwr a’ch incwm o eiddo. Defnyddiwch ein gwasanaeth ar-lein i ddysgu pryd mae angen i chi ddechrau arni.

3. Cael meddalwedd gydnaws

Dysgwch am yr opsiynau sydd ar gael gan wahanol ddarparwyr o ran meddalwedd ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a sut i ddewis y feddalwedd gywir at eich anghenion. Cofiwch gysylltu’ch cyfrif presennol ar gyfer gwasanaethau ar-lein CThEF â’r feddalwedd o’ch dewis.

4. Cofrestrwch ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Dysgwch pa dasgau y mae angen i chi eu cwblhau cyn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein i gofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

5. Defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Dysgwch am beth sydd angen i chi ei wneud ar ôl cofrestru a’r gwahanol dasgau y mae angen i chi eu gwneud yn ystod y flwyddyn dreth. Mae’r rhain yn cynnwys creu cofnodion digidol a’u cadw, anfon diweddariadau chwarterol, a beth i’w wneud os bydd newid yn eich amgylchiadau.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 3 Ebrill 2025