Porsche yw’r prif frand mawreddog a glampiwyd gan DVLA y llynedd
Yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gan DVLA heddiw, mae Porsche wedi dod ar frig y rhestr o geir mawreddog a glampiwyd oherwydd eu bod heb eu trethu o 2017 i 2018.
Gwneuthuriad | Cyfanswm a glampiwyd ac a atafaelwyd |
---|---|
Porsche | 199 |
Abarth | 28 |
Maserati | 23 |
Bentley | 20 |
Cadillac | 19 |
Tesla | 10 |
Triumph | 10 |
Aston Martin | 8 |
Rolls-Royce | 8 |
Ferrari | 7 |
Lotus | 4 |
TVR | 3 |
Hummer | 1 |
Lincoln | 1 |
McLaren | 1 |
Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, cafodd 133,000 o gerbydau eu clampio oherwydd eu bod heb eu trethu. Roedd hyn yn cynnwys bron 350 o geir mawreddog, yn cynnwys 199 Porsche, 28 sbortscar Eidaleg, Abarth, 23 Maserati, 20 Bentley a hyd yn oed Hummer.
Ar y cyfan, roedd gwneuthuriad a modelau mwyaf poblogaidd y DU, sef Ford Focus a Vauxhall Astra yn ymddangos ar frig y rhestr gyda 6,000 yr un. Hefyd, clampiwyd 73 Tacsi Llundain, 5 Harley-Davidson, 4 cartref modur a Irisbus am eu bod heb eu trethu.
Dal ar frig y rhestr oedd lliw arian, y lliw mwyaf poblogaidd o gerbydau i gael eu clampio gyda dros 32,000 o gerbydau yn cael eu clampio yn ystod y flwyddyn, 2000 yn fwy nag yn y flwyddyn ddiwethaf. Daeth cerbydau du yn ail i gerbydau glas a chafodd 690 o gerbydau aur eu clampio hefyd.
Lliw | Cyfanswm a glampiwyd ac a atafaelwyd |
---|---|
Arian | 32,558 |
Du | 25,329 |
Glas | 25,026 |
Gwyn | 16,663 |
Llwyd | 12,303 |
Coch | 11,126 |
Gwyrdd | 5,489 |
Melyn | 842 |
Llwydfelyn | 813 |
Aur | 690 |
Dywedodd Bethan Beasley, Uwch Arweinydd Gorfodaeth DVLA:
Mae’r ffigurau hyn yn dangos does dim ots pa fath o gerbyd rydych yn berchen arno, ai sbortscar, cartref modur neu hyd yn oed bws – os nad ydych yn ei drethu, byddwn yn ei glampio.
Ni fu erioed yn haws trethu eich car – nid yw’n cymryd ond ychydig o gliciau i’w wneud ar-lein a gallwch ei wneud 24 awr y dydd. Peidiwch â chymryd y risg – nid yw’n werth e.
Nodiadau i olygyddion:
- Gweler y rhestr lawn o gerbydau a glampiwyd ac a atafaelwyd ar gyfer 2017 i 2018:
- Gallwch wirio statws treth a MOT cerbyd unrhyw bryd trwy ein gwasanaeth ymholiadau cerbydau ar-lein.
- Gallwch drethu cerbyd 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos.
Swyddfa'r Wasg
Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL
E-bost press.office@dvla.gov.uk
Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407