Datganiad i'r wasg

Cymru wledig i elwa o gyfran o becyn treialon 5G gwerth £65 miliwn

Gwely prawf 5G yn ne ddwyrain Cymru, CoCore, yn derbyn £5m yng nghyllid gan Lywodraeth y DU i gysylltu cymunedau gwledig

  • Mae CoCore yn ne ddwyrain Cymru yn un o naw sydd wedi ennill cyfran o £35 miliwn o gyllid sydd wedi cael ei neilltuo er mwyn helpu Prydain i ddatgloi potensial 5G.
  • Daw hyn wrth gadarnhau cystadleuaeth 5G newydd gwerth £30 miliwn ar gyfer sectorau gan gynnwys y diwydiannau creadigol
  • Bydd ardaloedd gwledig yn elwa o gyfres o dreialon a gyllidir gan Lywodraeth y DU i’w helpu i fanteisio ar botensial technoleg fodern, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Digidol Oliver Dowden heddiw.

Bydd CoCore, gwely prawf 5G yn ne ddwyrain Cymru yn derbyn £5m yng nghyllid gan Lywodraeth y DU i gysylltu cymunedau gwledig ar draws de ddwyrain Cymru yn Sir Fynwy a Blaenau Gwent drwy ddangos sut y gall technoleg 5G fod yn rym ar gyfer da ac agor fyny cyfleoedd newydd i fusnesau a dinasyddion.

Bydd y prosiect yn cynnig atebion arloesol mewn meysydd fel twristiaeth drochi a diogelwch ffermio fel rhannau allweddol o’r economi wledig, tra’n manteisio ar dechnolegau cysylltiedig megis deallusrwydd artiffisial, y Rhyngrwyd Pethau a seiberddiogelwch fel rhan o fel rhan o ‘blatfform arloesi.’

Bydd cyfanswm o naw prosiect ledled Cymru, Lloegr a’r Alban yn derbyn cyfran o £35m o’n cystadlaethau 5G gwledig a diwydiannol, a chystadleuaeth agored newydd gwerth £30m – 5G Create - fydd yn edrych ar sut y gall 5G greu cyfleoedd newydd mewn diwydiannau gan gynnwys ffilm, teledu, gemau fideo, logisteg a thwristiaeth.

Bydd y treialon newydd hyn yn helpu i ledaenu manteision technoleg ar draws y wlad ac yn caniatáu i’r DU gael mantais gynnar drwy ddefnyddio’r cymwysiadau newydd y gall rhwydweithiau 5G eu galluogi.

Mae hyn yn rhan o’n buddsoddiad gwerth £200m mewn profion a threialon ledled y DU i archwilio ffyrdd newydd y gall 5G hybu twf busnes a chynhyrchiant, gwella bywydau pobl mewn ardaloedd gwledig a gwneud y mwyaf o fuddion cynhyrchiant technolegau newydd. Bydd ein treialon arloesol hefyd yn cefnogi uchelgais y Llywodraeth i amrywio’r gadwyn gyflenwi ar gyfer seilwaith digidol yn y DU, sef un o’r argymhellion allweddol yn Adolygiad y Gadwyn Gyflenwi.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Digidol, Oliver Dowden:

Rydym yn benderfynol nad yw trefi a phentrefi yng Nghymru yn cael eu gadael ar ôl a chael y cysylltedd 5G o’r radd flaenaf sydd ei angen arnynt i ffynnu.

Gyda £5m o arian gan Lywodraeth y DU, bydd CoCore yn profi y gall cymunedau gwledig yng Nghymru harneisio grym technoleg 5G i drawsnewid busnesau gwledig fel amaethyddiaeth, gwella’r ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu a mynd i’r afael ag unigrwydd.

Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ddileu’r gwahaniaeth mewn cysylltiad rhwng ardaloedd trefol a gwledig ac mae’n edrych ar ffyrdd arloesol o ddefnyddio technoleg 5G i ddatblygu diwydiannau newydd, gan gefnogi ein heconomi wledig yng Nghymru. Mae cyhoeddiad heddiw yn gyfle gwych i ardaloedd gwledig Cymru roi hwb i gynhyrchiant a chapasiti eu seilwaith digidol ac mae’n rhan allweddol o’n cynlluniau i adeiladu DU sy’n addas ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi, Lee Waters:

Rwy’n falch iawn ynghylch y buddsoddiad hwn yng Nghymru drwy Gystadleuaeth Cymunedau Cysylltiedig Gwledig. Mae’r prosiect cyffrous hwn yn cyd-fynd â’n huchelgais i fanteisio ar gysylltedd digidol a thechnolegau arloesol er mwyn sbarduno marchnadoedd newydd a gwella twf economaidd ar draws Cymru.

Rydym wedi ymrwymo i gysylltu cymunedau. Mae seilwaith digidol a chysylltedd 5G yn gwbl allweddol ar gyfer darparu’r gwasanaethau a fydd yn creu ffyniant cymdeithasol ac economaidd.

Yr hyn a wnawn gyda 5G fydd y mesur gwirioneddol o lwyddiant. Rwy’n edrych ymlaen at weld sut y gall y prosiect hwn, drwy ei bartneriaid blaengar fel Cisco, elwa ar fanteision y dechnoleg hon er mwyn creu effeithiau cymdeithasol ac economaidd positif yma yng Nghymru, a thu hwnt.

Mae 5G yn gallu bod hyd at ddeg gwaith yn gyflymach na 4G a bydd yn cynyddu capasiti symudol ledled y DU yn sylweddol. Mae hyn yn golygu y bydd rhagor o bobl yn gallu mynd ar-lein a dod o hyd i’r cynnwys maen nhw ei eisiau a’i lwytho i lawr heb arafu.

Ond mae 5G yn ymwneud â mwy na chysylltiad cyflymach â’r rhyngrwyd. Mae’n defnyddio technoleg sy’n llawer mwy datblygedig na’n rhwydweithiau symudol cyfredol, felly wrth i amser fynd rhagddo gallai drawsnewid y ffordd rydym yn rhyngweithio â gwasanaethau hollbwysig – o ynni a dŵr, i drafnidiaeth a gofal iechyd.

Dylai hefyd sbarduno mabwysiadu technolegau newydd megis ceir heb yrrwr, gofal iechyd o bell a’r dyfeisiau ‘clyfar’ rydym yn eu defnyddio fwyfwy yn ein cartrefi ac yn y gwaith.

Mae’r gwerth £65 miliwn o gyllid newydd a gyhoeddwyd heddiw yn cynnwys:

  • £30 miliwn ar gyfer y gystadleuaeth Cymunedau Cysylltiedig Gwledig ar gyfer saith prosiect ymchwil a datblygu 5G ar draws y DU. Mae hyn yn cynnwys pump yn Lloegr, un yng Nghymru ac un yn yr Alban gyda chynlluniau i ehangu i Ogledd Iwerddon. Bydd safleoedd profi yn cael eu sefydlu yn Swydd Efrog, Dyfnaint, Perth a Kinross, Gwent, Sir Fynwy, Orkney, Wiltshire, Swydd Nottingham, Dorset, Cumbria, Swydd Lincoln, Swydd Amwythig a Swydd Gaerwrangon.
  • Bydd dros £5 miliwn o gyllid yn cael ei ddyfarnu i ddau brosiect diwydiannol er mwyn profi manteision defnyddio 5G i roi hwb i gynhyrchiant yn y sector gweithgynhyrchu.
  • Mae cystadleuaeth agored newydd gwerth £30 miliwn - 5G Create - wedi cael ei lansio i ddatblygu ffyrdd newydd o ddefnyddio 5G mewn amrywiaeth o ddiwydiannau, gan gynnwys ein sectorau creadigol fel ffilm, teledu a gemau fideo. O alluogi cynhyrchu o bell i gefnogi’r gwaith o ehangu’r byd e-chwaraeon sy’n dod yn fwy poblogaidd, gall 5G chwyldroi diwydiannau creadigol ffyniannus y DU. Bydd y gystadleuaeth 5G Create newydd yn agor yn gynnar ym mis Mawrth ac yn rhedeg tan ddiwedd mis Mehefin.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 20 February 2020