Datganiad i'r wasg

Band eang cyflym iawn yn cyrraedd dros hanner miliwn yng Nghymru

Alun Cairns: Mae carreg filltir heddiw yn gam sylweddol ymlaen yn ein hymdrechion i sicrhau bod gan Gymru rwydwaith band eang sy’n addas i’r oes ddigidol.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:

Mae band eang cyflym iawn wedi trawsnewid hanner miliwn o gartrefi a busnesau ledled Cymru – gan newid popeth o’r ffordd rydyn ni’n bancio, yn gwneud busnes ac yn cyfathrebu ar draws y byd.

Mae Llywodraeth y DU yn credu’n gryf fod cysylltiad cyflym a dibynadwy’n hanfodol, nid dim ond ar gyfer bywyd bob dydd, ond hefyd ar gyfer llwyddiant economaidd y DU. Mae busnesau’n gallu ehangu i farchnadoedd newydd a chreu’r swyddi sydd eu hangen arnom drwy gystadlu ar y llwyfan rhyngwladol. Mae hefyd yn caniatáu i gymunedau lleol yn ardaloedd mwyaf gwledig Cymru i gael gafael ar wasanaethau cyhoeddus yn gyflymach ac yn fwy effeithlon ar-lein.

Mae carreg filltir heddiw yn gam sylweddol ymlaen yn ein hymdrechion i sicrhau bod gan Gymru rwydwaith band eang sy’n addas i’r oes ddigidol.

Cyhoeddwyd ar 1 October 2015
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 October 2015 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.