Amdanom ni
Rydym yn corffori a diddymu cwmnïau cyfyngedig. Rydym yn cofrestru’r wybodaeth cwmnïau, ac yn sicrhau bod y wybodaeth ar gael i’r cyhoedd.
Mae mwy na 5 miliwn o gwmnïau cyfyngedig wedi’u cofrestru yn y Deyrnas Unedig. Mae dros 500,000 o gwmnïau newydd yn cael eu corffori bob blwyddyn.
Rydym yn hybu hyder yn yr economi drwy greu amgylchedd busnes tryloyw ac atebol. Mae defnydd o’n data yn llywio penderfyniadau busnes a defnyddwyr, yn cefnogi twf ac yn helpu i darfu ar droseddau economaidd.
Pwy ydym ni
Mae Tŷ’r Cwmnïau yn asiantaeth weithredol, a noddir gan yr Adran Busnes a Masnach (DBT). Rydym yn dal cofrestr cwmnïau’r Deyrnas Unedig a’r Gofrestr Endidau Tramor.
Rydym yn cyflogi tua 1,000 o bobl yn ein swyddfeydd ar draws yng Nghaerdydd, Nghaeredin ac ym Melfast.
Cofrestrydd Cwmnïau
Cofrestrydd Cwmnïau Lloegr a Chymru, a Phrif Weithredwr Tŷ’r Cwmnïau, yw Louise Smyth. Mae ei swyddfa yng Nghaerdydd.
Cofrestrydd Cwmnïau’r Alban yw Lisa Davis. Mae ei swyddfa yng Nghaeredin.
Cofrestrydd Cwmnïau Gogledd Iwerddon yw Ian McFarland. Mae ei swyddfa ym Melfast.
Amcanion y cofrestrydd yw:
- sicrhau bod unrhyw un y mae’n ofynnol iddynt gyflwyno dogfen i’r cofrestrydd yn gwneud hynny (a chydymffurfio â’r gofynion ar gyfer cyflwyno priodol)
- i sicrhau bod gwybodaeth a gynhwysir yn y gofrestr yn gywir a bod y gofrestr yn cynnwys popeth y dylai ei gynnwys
- sicrhau nad yw cofnodion a gedwir gan y cofrestrydd yn creu argraff ffug neu gamarweiniol i aelodau’r cyhoedd
- atal cwmnïau ac eraill rhag cyflawni gweithgareddau anghyfreithlon neu hwyluso gweithgareddau anghyfreithlon gan eraill
Ein cyfrifoldebau
Rydym yn gyfrifol am:
- corffori, cynnal a diddymu cwmnïau cyfyngedig
- archwilio a chyhoeddi gwybodaeth am y cwmni
- hyrwyddo tryloywder a thwf yn economi’r Deyrnas Unedig
Ein blaenoriaethau
Ein blaenoriaethau yw:
- gwneud y gofrestr mor gywir a dibynadwy â phosibl
- chwarae rhan fwy canolog wrth darfu ar droseddau economaidd
- gwneud y Deyrnas Unedig yn lle gwych i ddechrau a rhedeg busnes
Ein gwasanaethau
Am ein gwasanaethau. Darllenwch ein siarter cwsmeriaid sy’n nodi’r safonau gwasanaeth yr ydym yn ceisio eu darparu.
Gwybodaeth gorfforaethol
Cael mynediad at ein gwybodaeth
- Ein siart sefydliadol
- Cydraddoldeb ac amrywiaeth
- Ein llywodraethiant
- Gweithdrefn gwyno
- Mynediad i'r swyddfa ac amseroedd agor
- Accessible documents policy
- Ymchwil yn Tŷ'r Cwmnïau
- Ymholiadau gan y cyfryngau
- Ystadegau yn Tŷ'r Cwmnïau
Swyddi a chontractau
Darllenwch am y mathau o wybodaeth rydyn ni'n ei chyhoeddi'n rheolaidd yn ein Publication scheme. Dysgwch am ein hymrwymiad i Cynllun iaith Gymraeg. Mae ein Siarter gwybodaeth bersonol yn esbonio sut rydyn ni'n ymdrin â'ch gwybodaeth bersonol. Darllenwch ein polisi ar Social media use. Dysgu Am ein gwasanaethau.