Amdanom ni
PecynUK yw gweinyddwr y cynllun ar gyfer rhaglen Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith (pEPR) yn y Deyrnas Unedig. Rydyn ni’n gweithredu ar ran pedair gwlad y Deyrnas Unedig.
Yr hyn rydyn ni’n ei wneud
Mae PecynUK:
- sGosod cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr am gyfraddau ffioedd pecynnu (pEPR) ar gyfer deunyddiau pecynnu cartref
- yn casglu’r ffioedd hyn oddi wrth gynhyrchwyr gorfodol sy’n gosod deunydd pacio i’r cartref ar y farchnad
- gwneud taliadau i awdurdodau lleol i dalu am y gost o reoli gwastraff pecynnu cartref
Rydyn ni’n cyflawni hyn drwy ddarparu cynllun sy’n dangos gwerth da am arian i’r cynhyrchwyr, ac ar yr un pryd yn sicrhau bod gwasanaethau ailgylchu a gwaredu effeithlon ac effeithiol yn cael eu darparu gan yr awdurdodau lleol.
Mae PecynUK hefyd yn darparu ymgyrchoedd cyfathrebu a gwybodaeth gyhoeddus sy’n annog pobl i waredu gwastraff pecynwaith yn gywir ac nid taflu pecynwaith fel sbwriel.
Beth yw pEPR?
Mae Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith (pEPR) yn gynllun ledled y Deyrnas Unedig a fydd yn symud cost lawn delio â gwastraff pecynwaith cartrefi oddi wrth y trethdalwyr ac i gynhyrchwyr y pecynwaith eu hunain.
Cyflwyno cyfnod newydd mewn pecynwaith: lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu
Bydd ffioedd pecynwaith yn cael eu modiwleiddio
O 2026/27 ymlaen, bydd ffioedd pEPR yn cael eu haddasu (eu modiwleiddio) i gymell cynhyrchwyr i ddefnyddio deunyddiau sydd â llai o effaith ar yr amgylchedd. Bydd hyn yn golygu y bydd pecynwaith mwy ailgylchadwy ym mhob math o ddeunydd yn cael ei brisio yn gymharol ratach fesul tunnell na phecynwaith llai ailgylchadwy yn yr un math o ddeunydd. Bydd strwythur ffioedd wedi’i fodiwleiddio yn cymell busnesau i leihau pecynwaith diangen a defnyddio mwy o becynwaith sydd wedi’u ailgylchu ac sy’n gallu cael ei ailgylchu. Bydd hyn yn arwain at lai o wastraff i safleoedd tirlenwi ac yn lleihau faint o allyriadau CO2 niweidiol sy’n cael eu rhyddhau.
Cefnogi cymunedau lleol ar draws y Deyrnas Unedig
Bydd y refeniw o ffioedd pEPR yn cynhyrchu mwy nag £1 biliwn bob blwyddyn i gefnogi gwasanaethau casglu a gwaredu lleol, gan gynnwys gwasanaethau ailgylchu – sydd o fudd i bob cartref yn y Deyrnas Unedig.
Bydd hyn yn ariannu gwelliannau mewn casgliadau ailgylchu o gartrefi, gan ganiatáu i’r holl ddeunyddiau sych (papur/cerdyn, metelau, plastigau a gwydr) gael eu casglu’n gyson o bob cartref. Bydd y refeniw o’r ffioedd yn helpu’r awdurdodau lleol gyda chost rheoli gwastraff pecynwaith cartrefi ac yn helpu i greu cymhellion ar gyfer gwelliannau.
Llywodraethu, Cyllid a Chwynion
Llywodraethu
Mae gwybodaeth am strwythur PecynUK ar gael ar ein tudalen llywodraethu.
Cyllid
Mae PecynUK yn cael ei ariannu drwy’r ffioedd pEPR a ddarperir gan y cynhyrchwyr. Mae’n costau gweinyddu a’n gorbenion yn cael eu cytuno ymlaen llaw. Mae’n trefniadau llywodraethu yn sicrhau bod rhaid i PecynUK roi gwerth am arian i’r cynhyrchwyr ac mae wedi’i wahardd rhag gwneud elw.
Mae PecynUK yn atebol, drwy drefniadau llywodraethu’r pedair gwlad, am roi gwerth am arian i’r cynhyrchwyr. Mae’n ofynnol i PecynUK gyhoeddi adroddiad blynyddol a datganiad ariannol y gall y cynhyrchwyr ei weld.
Mae pwerau wedi’u rhoi i PecynUK drwy Reoliadau [Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024] (https://defracollectionandpackagingreform.createsend1.com/t/t-i-strlutt-l-r/).
Gweithdrefn gwyno
Mae gan PecynUK broses ffurfiol a thryloyw i ddelio â chwynion am y ffordd rydyn ni’n gweithredu neu am y gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu.
Polisi ymddygiad derbyniol
Rydyn ni’n sylweddoli mor bwysig yw cyfathrebu effeithiol i helpu pobl i ddefnyddio’n gwasanaeth a’n galluogi ninnau i gyflawni’n gwaith yn effeithlon. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein polisi ymddygiad derbyniol.