Canllawiau

Pecyn croeso ymddiriedolwyr elusen

Fel ymddiriedolwr elusen newydd, bydd y canllaw hwn yn eich helpu yn eich rôl. Gall ymddiriedolwyr presennol ei ddefnyddio hefyd i adnewyddu gwybodaeth a sgiliau.

Yn berthnasol i England and Gymru

Dogfennau

Manylion

Bob blwyddyn mae tua 100,000 o ymddiriedolwyr newydd, wedi’u penodi naill ai fel ymddiriedolwyr elusennau sydd newydd gofrestru neu elusennau sefydledig cyfredol.

Rydym yn cydnabod y rôl hanfodol sydd ganddynt ac yn croesawu pobl sy’n ymgymryd â swydd fel ymddiriedolwr.

Anfonir y canllaw hwn trwy e-bost at ymddiriedolwyr newydd i’w cyflwyno i’r rôl fel bod ganddynt ddealltwriaeth sylfaenol o’u dyletswyddau a’u cyfrifoldebau. Mae’n:

  • amlinellu hanfodion ymddiriedolaeth
  • crynhoi’r hyn y gallant ei ddisgwyl
  • codi ymwybyddiaeth o’u dyletswyddau a’u cyfrifoldebau
  • egluro’r hyn y mae angen ei anfon atom
  • cyfeirio at ganllawiau a gwybodaeth fanylach

Efallai y bydd y canllaw hefyd yn ddefnyddiol os:

  • ydych yn ymddiriedolwr newydd sydd heb dderbyn y canllaw trwy e-bost
  • ydych yn ymddiriedolwr cyfredol sy’n dymuno adnewyddu ei wybodaeth
  • ydych yn meddwl penodi neu gyflwyno ymddiriedolwr newydd
  • oes diddordeb gennych mewn bod yn ymddiriedolwr

Rydym yn anfon y pecyn croesawu at bob ymddiriedolwr newydd i’r cyfeiriad e-bost maent wedi’i roi i ni. Gallwch ddiweddaru manylion eich elusen ar-lein, gan gynnwys cyfeiriadau e-bost.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 April 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 October 2024 + show all updates
  1. This guide has been updated to make it more accessible and easier to use.

  2. We have added a PDF version of the welcome pack for download.

  3. Added translation

Sign up for emails or print this page