Ffi atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus: esemptiad neu ddilead
Gwneud cais i dalu llai (esemptiad neu ddilead) i gofrestru atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus.
Documents
Details
Defnyddiwch y ffurflen hon os ydych eisiau help gyda’r:
- Ffi o £82am gais i gofrestru atwrneiaeth arhosol (LPA) neu atwrneiaeth barhaus (EPA).
- Ffi o £41 am ailgyflwyno cais i gofrestru LPA neu EPA.
Os yw’r unigolyn a wnaeth yr LPA neu’r EPA (y rhoddwr) yn derbyn budd-daliadau penodol sy’n dibynnu ar brawf modd pan fyddwch yn gwneud cais i’w chofrestru, ni fydd rhaid ichi dalu dim (gelwir hyn yn ‘esemptiad’). Mae’r budd-daliadau wedi’u rhestru yn y ffurflen.
Os yw incwm y rhoddwr cyn treth yn llai na £12,000 y flwyddyn, dim ond hanner fydd rhaid ichi dalu (gelwir hyn yn ‘ddilead 50 y cant’).
Mae’r ffurflen hefyd yn esbonio sut a pha bryd i dalu’r ffioedd.
Gwybodaeth bersonol
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yn ymroddedig i drin eich data personol mewn ffordd gyfrifol a’i gadw’n ddiogel.
Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni ac mae’n cael ei ddiogelu yn y gyfraith gan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA).
Updates to this page
Published 12 January 2015Last updated 8 April 2021 + show all updates
-
Added 'personal information' section to Welsh language version
-
Change of LPA cost and contact details Newid cost a manylion cyswllt yr ACL
-
First published.