Canllawiau

Cyfrifo faint y gallwch ei hawlio gan ddefnyddio’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws

Cyfrifo faint sy’n rhaid i chi dalu i’ch cyflogeion sydd ar ffyrlo am oriau ar ffyrlo a faint y gallwch ei hawlio yn ôl.

Daeth y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws i ben ar 30 Medi 2021.

Os ydych yn defnyddio’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws i hawlio cyflogau cyflogeion, dyma’r camau y bydd angen i chi eu cymryd:

  1. Gwiriwch a allwch hawlio.

  2. Gwiriwch pa gyflogeion y gallwch eu rhoi ar ffyrlo.

  3. Camau i’w cymryd cyn cyfrifo’ch hawliad.

  4. Cyfrifwch gyflog eich cyflogeion.

  5. Hawliwch gyflog eich cyflogeion.

  6. Rhowch wybod am daliad drwy’r system Gwybodaeth Amser Real TWE.

Yr hyn y gallwch ei hawlio

Ar gyfer cyfnodau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Mai 2021, gallwch hawlio ar gyfer cyflogeion a oedd wedi’u cyflogi ar 2 Mawrth, cyn belled â’ch bod wedi gwneud cyflwyniad Gwybodaeth Amser Real (RTI) TWE i CThEM rhwng 20 Mawrth 2020 a 2 Mawrth 2021, sy’n nodi eich bod wedi talu enillion i’r cyflogeion hynny.

O 1 Gorffennaf 2021 ymlaen, bydd lefel y grant yn cael ei gostwng bob mis, a gofynnir i chi gyfrannu tuag at gostau cyflog eich cyflogeion sydd ar ffyrlo.

Gallwch gyfrifo’r grant ar gyfer y cyfnod hawlio cyfan neu ar gyfer pob cyfnod cyflog, neu ran o gyfnod cyflog, sy’n dod o fewn y cyfnod hawlio hwnnw. Mae’r arweiniad hwn yn tybio y byddwch yn cyfrifo ar sail cyfnod cyflog, ond mae’r naill ddull neu’r llall yn dderbyniol.

Mae cyfrifo cyflog arferol y cyflogai yn seiliedig ar y swm a dalwyd iddo mewn cyfnod penodol, felly os yw ei gyflog neu ei drefniadau gweithio wedi newid yn ddiweddar, yna gall y swm y gallwch ei hawlio (a’r swm y mae’n rhaid i chi ei dalu iddo am yr oriau na chawsant eu gweithio) fod yn seiliedig ar y trefniadau blaenorol.

O 1 Gorffennaf 2021 ymlaen, bydd y llywodraeth yn talu 70% o gyflogau hyd at uchafswm o £2,187.50 am yr oriau y mae’r cyflogai ar ffyrlo.

O 1 Awst 2021 ymlaen, bydd y llywodraeth yn talu 60% o gyflogau hyd at uchafswm o £1,875 am yr oriau y mae’r cyflogai ar ffyrlo.

Bydd cyflogwyr yn ychwanegu at gyflog cyflogeion er mwyn sicrhau eu bod yn cael cyfanswm o 80% o’u cyflog (hyd at £2,500) ar gyfer yr oriau y maent ar ffyrlo. Mae’r uchafswm yn gymesur â’r oriau na chawsant eu gweithio.

Bydd angen i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr a chyfraniadau pensiwn y cyflogwr o hyd, ac ni allwch hawlio am y rhain. Dysgwch sut i gyfrifo cyfraniad y llywodraeth a’ch cyfraniad chi.

Gallwch ddewis ychwanegu at gyflog eich cyflogeion uwchben yr isafswm cyflog ffyrlo, sef 80%, ond does dim rhaid i chi wneud hynny. Mae’n rhaid i gyflogeion beidio â gweithio na darparu unrhyw wasanaethau ar gyfer y busnes yn ystod oriau y cofnodir eu bod ar ffyrlo, hyd yn oed os ydynt yn cael cyflog atodol.

Os yw’ch cyflogai ar ffyrlo hyblyg, sy’n golygu ei fod yn gweithio llai o oriau yn hytrach na pheidio â gweithio o gwbl, mae’n rhaid i chi dalu’r gyfradd bresennol lawn iddo, fel y nodir yn ei gontract, am unrhyw oriau y mae’n eu gweithio. Ni allwch hawlio grant tuag at yr oriau y mae’r cyflogai’n eu gweithio.

Gofynion o ran cadw cofnodion

Mae’n rhaid i chi gadw copi o’ch holl gofnodion am 6 blynedd, gan gynnwys:

  • y swm a hawliwyd a’r cyfnod hawlio ar gyfer pob cyflogai
  • y cyfeirnod hawlio ar gyfer eich cofnodion
  • eich cyfrifiadau, rhag ofn y bydd angen rhagor o wybodaeth ar CThEM ynglŷn â’ch hawliad
  • oriau arferol a weithiwyd, gan gynnwys unrhyw gyfrifiadau oedd eu hangen, ar gyfer cyflogeion a roddwyd ar drefniadau ffyrlo hyblyg gennych
  • yr oriau gwirioneddol a weithiwyd ar gyfer cyflogeion a roddwyd ar drefniadau ffyrlo hyblyg gennych

Defnyddio’r gyfrifiannell

Gall y gyfrifiannell hon gael ei defnyddio i gyfrifo’r hyn y gallwch ei hawlio. Gellir ei defnyddio ar gyfer y rhan fwyaf o gyflogeion y telir naill ai symiau rheolaidd neu amrywiol iddynt ym mhob cyfnod cyflog (er enghraifft, yn wythnosol neu’n fisol).

Ni ellir defnyddio’r gyfrifiannell os yw’r canlynol yn wir am eich cyflogeion:

  • gwnaethant ddechrau cyfnod rhybudd neu ddychwelyd ar ôl cyfnod rhybudd yn yr un cyfnod hawlio, ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 2020
  • mae ganddynt gyfnod cyflog blynyddol
  • maent wedi’u trosglwyddo o dan reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau Diogelu Cyflogaeth (TUPE)
  • maent heb fod mewn cyflogaeth barhaus cyn i’w ffyrlo ddechrau
  • maent wedi dychwelyd o absenoldeb statudol megis absenoldeb mamolaeth yn ystod y 3 mis cyn y cyfnod hawlio, a bod y cyfnod hawlio ym mis Gorffennaf 2020 neu’n gynt
  • maent yn cael cyfraniadau pensiwn y cyflogwr y tu allan i gynllun pensiwn cofrestru awtomatig
  • maent wedi gorffen cyfnod o ffyrlo ac wedi dechrau cyfnod arall o ffyrlo yn ystod yr un cyfnod hawlio
  • cawsant eu talu ar gyflog amrywiol ac maent wedi bod ar fwy nag un cyfnod o ffyrlo lle roedd unrhyw ran o’r cyfnodau ffyrlo ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020
  • mae ganddynt gyflog amrywiol, gwnaethant ddechrau gweithio cyn 6 Ebrill 2020 ac nid oeddent ar gyflogres eu cyflogwr ar neu cyn 19 Mawrth 2020
  • mae ganddynt gyflog amrywiol, gwnaethant ddechrau gweithio ar neu cyn 1 Chwefror 2020 ac nid oeddent ar gyflogres eu cyflogwr ar neu cyn 30 Hydref 2020
  • gwnaethant ddechrau gweithio i’w cyflogwr yn ystod cyfnod calendr ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020 sy’n cyd-fynd â’r holl gyfnod yr hawlir amdano neu ran ohono
  • maent ar gyflog sefydlog ac wedi newid amlder y taliadau, er enghraifft o gyflog misol i gyflog wythnosol

Os ydych yn hawlio am gyflogai sydd ar drefniadau ffyrlo hyblyg, bydd angen i chi gyfrifo’i oriau arferol cyn defnyddio’r gyfrifiannell.

Cyfrifo nawr

Os na allwch ddefnyddio’r gyfrifiannell hon, bydd angen i chi gyfrifo’r hyn y gallwch ei hawlio â llaw gan ddefnyddio’r arweiniad cyfrifo neu drwy geisio cyngor proffesiynol gan gyfrifydd neu ymgynghorydd treth.

Byddwn yn parhau i wella ein gwasanaethau ar-lein yn aml, gan gynnwys sicrhau y gellir defnyddio’r gyfrifiannell hon ar gyfer sefyllfaoedd cyflogaeth eraill.

Eich cyfrifoldeb chi yw gwneud yn siŵr bod y swm rydych yn ei hawlio yn gywir.

Cyfrifo uchafswm y cyflog

Uchafswm y cyflog yw £2,500 y mis, £576.92 yr wythnos neu gyfwerth dyddiol (sy’n amrywio yn ôl y mis).

Ar gyfer cyfnodau hawlio o 1 Gorffennaf 2021 ymlaen, bydd lefel y grant yn cael ei gostwng a gofynnir i chi gyfrannu tuag at gostau cyflog eich cyflogeion sydd ar ffyrlo. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn gallu hawlio’r uchafswm cyflog cyfan, ond bydd angen i chi ei gyfrifo o hyd i’ch galluogi i gyfrifo faint y dylid ei dalu i’ch cyflogai. Bydd angen i chi hefyd gyfrifo 80% o gyflog arferol eich cyflogai.

Gallwch wneud y cyfrifiadau hyn ar gyfer y cyfnod hawlio cyfan neu ar gyfer pob cyfnod cyflog, neu ran o gyfnod cyflog, sy’n dod o fewn eich cyfnod hawlio.

Os ydych yn cyfrifo am y cyfnod hawlio cyfan, dylech ddefnyddio uchafswm cyflog misol os yw’r cyfnod hawlio’n fis llawn, fel arall dylech defnyddio’r uchafswm cyflog dyddiol.

Os ydych yn cyfrifo ar gyfer pob cyfnod cyflog, neu ran o gyfnod cyflog, sy’n dod o fewn eich cyfnod hawlio, dylech ddefnyddio’r:

  • uchafswm cyflog wythnosol ar gyfer pob cyfnod sy’n gyfnod cyflog llawn sy’n para 1, 2 neu 4 wythnos
  • uchafswm cyflog dyddiol ar gyfer unrhyw gyfnod cyflog arall neu gyfnod cyflog rhannol

Pan ddefnyddiwch yr uchafswm cyflog dyddiol, lluoswch yr uchafswm cyflog dyddiol â nifer y diwrnodau calendr y mae’ch cyflogai ar ffyrlo yn y cyfnod.

Mis Yr uchafswm cyflog dyddiol
Mai 2021 £80.65 y dydd
Mehefin 2021 £83.34 y dydd
Gorffennaf 2021 £80.65 y dydd
Awst 2021 £80.65 y dydd
Medi 2021 £83.34 y dydd

Dewch o hyd i enghraifft o gyfrifo’r uchafswm cyflog am ran o gyfnod cyflog.

Cyfrifo 80% o gyflog arferol eich cyflogai

Bydd angen i chi gyfrifo 80% o gyflog arferol eich cyflogai i benderfynu:

  • faint y mae’n rhaid i chi ei dalu i’ch cyflogeion am yr amser y maent ar ffyrlo
  • yr hyn y gallwch ei hawlio o dan y cynllun

Gallwch ddefnyddio’r gyfrifiannell i’ch helpu i gyfrifo faint y gallwch ei hawlio, er bod rhai achosion lle na fyddai hyn o bosibl yn addas – eich cyfrifoldeb chi yw gwirio bod y swm rydych yn ei hawlio yn gywir.

Bydd angen i chi nodi nifer y diwrnodau ffyrlo yn y cyfnod. Mae diwrnod ffyrlo yn golygu pob diwrnod calendr o fewn cyfnod lle’r oedd y cyflogai naill ai:

  • ar ffyrlo llawn, neu
  • o dan gytundeb ffyrlo hyblyg gyda chi

Mae’r ffordd y dylech gyfrifo 80% o gyflog arferol eich cyflogai yn wahanol yn dibynnu ar y ffordd y caiff ei dalu. Mae’n rhaid i chi wirio’r hyn y gallwch ei gynnwys fel cyflog yn gyntaf.

Dewiswch y cyfrifiad sy’n cyd-fynd orau â sut y caiff eich cyflogai ei dalu, yn eich barn chi. Efallai na fydd hyn yr un dull rydych wedi’i ddefnyddio i gyfrifo’i oriau arferol. Er enghraifft, os ydych yn talu cyflog rheolaidd sefydlog i’ch cyflogai, defnyddiwch y cyfrifiad ar gyfer symiau cyflog sefydlog. Ni fydd CThEM yn gwrthod nac yn ceisio ad-daliad o unrhyw grant sy’n seiliedig yn unig ar y dewis penodol o gyfrifiad cyflog, cyn belled ag y gwneir dewis rhesymol.

Os cafodd eich cyflogai daliadau statudol, dylech addasu’ch hawliad ar gyfer hyn.

Dysgwch sut i gyfrifo cyfraniad y llywodraeth a’ch cyfraniad chi.

Os oes gan eich cyflogai gyflog sefydlog

Byddwch yn cyfrifo 80% o gyflog arferol eich cyflogai (ar gyfer cyflogeion â chyflog sefydlog) drwy edrych ar y cyflog sy’n daladwy i’ch cyflogai yn y cyfnod cyflog diwethaf a ddaeth i ben ar neu cyn dyddiad cyfeirio’r cyflogai.

Os yw’ch cyflogai sydd ar gyflog sefydlog wedi gweithio goramser

Os yw’ch cyflogai sydd ar gyflog sefydlog wedi gweithio digon o oramser i gael effaith sylweddol ar y swm y mae angen i chi ei hawlio, dylech gyfrifo 80% o’i gyflog arferol gan ddefnyddio’r dull ar gyfer cyflogeion y mae eu cyflog yn amrywio. Mae enghreifftiau o sefyllfaoedd le gallai goramser fod wedi cael effaith sylweddol ar swm yr hawliad yn cynnwys pan weithiodd y cyflogai oramser:

  • yn ystod y cyfnod cyfeirio
  • yn ystod y cyfnod calendr cyfatebol hyd at y cyfnod cyflog rydych yn hawlio ar ei gyfer
  • sawl gwaith, neu’n aml, yn ystod y flwyddyn dreth hyd at y cyfnod cyfeirio

Cyfrifo 80% o gyflogau ar gyfer cyflogeion sydd ar gyflog sefydlog

I gyfrifo 80% o gyflog eich cyflogai:

  1. Dechreuwch â’r cyflog sy’n daladwy i’ch cyflogai yn ei gyfnod cyfeirio – os ydych yn hawlio am gyfnod cyflog llawn, ewch yn syth i gam 4.

  2. Rhannwch â chyfanswm nifer y diwrnodau yn y cyfnod cyflog yr ydych yn cyfrifo ar ei gyfer.

  3. Lluoswch â nifer y diwrnodau ffyrlo yn y cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) yr ydych yn hawlio ar ei gyfer.

  4. Lluoswch ag 80%.

Dewch o hyd i enghraifft o gyfrifo 80% o gyflogau cyflogeion amser llawn neu ran-amser sydd ar gyfradd sefydlog.

Dewch o hyd i enghraifft o gyfrifo 80% o gyflogau cyflogeion amser llawn neu ran-amser ar gyfradd sefydlog sy’n dychwelyd i weithio’u horiau arferol yn ystod y cyfnod hawlio.

Os nad yw cyfnod cyflog diwethaf eich cyflogai cyfradd sefydlog, sy’n dod i ben ar neu cyn ei ddyddiad cyfeirio, yn gyfnod cyflog llawn neu os yw amlder y cyflog wedi newid

Bydd angen i chi gyfrifo cyflog arferol eich cyflogai ac wedyn cyfrifo 80% os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:

  • nid yw’r cyfnod cyflog diwethaf sy’n dod i ben ar neu cyn dyddiad cyfeirio’ch cyflogai yn gyfnod cyflog llawn
  • mae amlder cyflog eich cyflogai wedi newid rhwng y cyfnod cyflog diwethaf sy’n dod i ben ar neu cyn dyddiad cyfeirio’ch cyflogai a’r cyfnod cyflog rydych yn cyfrifo amdano

I gyfrifo ei gyflog arferol ac yna cyfrifo 80%:

  1. Dechreuwch â’r cyflog sy’n daladwy i’ch cyflogai yn y cyfnod cyflog diwethaf sy’n dod i ben ar neu cyn dyddiad cyfeirio’ch cyflogai.

  2. Rhannwch â nifer y diwrnodau yn y cyfnod hwnnw (gan gynnwys diwrnodau nad oedd y cyflogai’n gweithio).

  3. Lluoswch â nifer y diwrnodau ffyrlo yn y cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) yr ydych yn hawlio ar ei gyfer.

  4. Lluoswch ag 80%.

Dewch o hyd i enghraifft o gyfrifo 80% o gyflog eich cyflogai os nad yw wedi’i dalu am gyfnod cyflog llawn hyd at 19 Mawrth 2020.

Os daw cyfnod cyflog cyntaf eich cyflogai sydd ar gyfradd sefydlog i ben ar ôl ei ddyddiad cyfeirio

Gallwch hawlio ar gyfer cyflogeion cyfradd sefydlog y mae eu dyddiad cyfeirio ar 30 Hydref 2020 neu 2 Mawrth 2021 ac y mae eu cyfnod cyflog cyntaf yn dod i ben ar ôl eu dyddiad cyfeirio, cyn belled â bod CThEM wedi cael manylion eu cyflogau mewn Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) Gwybodaeth Amser Real (RTI) TWE ar neu cyn eu dyddiad cyfeirio, a bod yr amodau cymhwystra eraill yn cael eu bodloni.

I gyfrifo 80% o gyflog arferol y cyflogai:

  1. Dechreuwch â swm cyflog y cyflogai a gafodd ei gynnwys yn eich Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) Gwybodaeth Amser Real (RTI) TWE a gyflwynwyd i CThEM, ac a ddaeth i’w law ar ei ddyddiad cyfeirio neu cyn hynny. Mae’n rhaid i chi wirio’r hyn y gallwch ei gynnwys fel cyflogau yn gyntaf.

  2. Rhannwch â nifer y diwrnodau yn y cyfnod cyflog y mae’r Cyflwyniad Taliadau Llawn Gwybodaeth Amser Real TWE yn ymwneud â nhw (gan gynnwys diwrnodau nad oedd y cyflogai’n gweithio).

  3. Lluoswch â nifer y diwrnodau ffyrlo yn y cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) yr ydych yn hawlio ar ei gyfer.

  4. Lluoswch ag 80%.

Dewch o hyd i enghraifft o gyfrifo cyflogau ar gyfer cyflogai sydd ar gyfradd sefydlog y mae ei gyfnod cyflog cyntaf yn dod i ben ar ôl ei ddyddiad cyfeirio.

Cyflogeion sydd â chyflog blynyddol

Mae’r cyflog cyfeirio ar gyfer cyflogeion sydd â chyflog blynyddol (gan gynnwys cyfarwyddwyr cwmni) yn cael ei gyfrifo yn yr un ffordd â’r cyflog cyfeirio ar gyfer cyflogeion eraill. Rydym yn disgwyl y caiff y rhan fwyaf o gyflogeion sydd â chyflog blynyddol eu trin fel cyflogeion cyfradd sefydlog.

Dewch o hyd i enghreifftiau o gyfrifo 80% o gyflog ar gyfer cyflogeion sydd â chyflog blynyddol.

Cyflogeion y mae eu cyflog yn amrywio

Os oes gan eich cyflogai gyflog amrywiol, mae’r ffordd yr ydych yn cyfrifo’i gyflog arferol yn dibynnu ar ei ddyddiad cyfeirio. Mae’r adran hon yn crynhoi’r rheolau. Dylech hefyd ddarllen yr arweiniad manylach yn y canllaw hwn.

Ar gyfer cyflogeion â dyddiad cyfeirio o 19 Mawrth 2020, cyfrifwch 80% o’r uchaf o’r canlynol:

  • y cyflogau a enillwyd yn y cyfnod calendr cyfatebol mewn blwyddyn flaenorol
  • y cyflogau cyfartalog a oedd yn daladwy ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020

Ar gyfer cyflogeion â dyddiad cyfeirio o 30 Hydref 2020, cyfrifwch 80% o’r cyflog cyfartalog a oedd yn daladwy rhwng 6 Ebrill 2020 (neu, os yn hwyrach, y dyddiad y dechreuodd y gyflogaeth) a’r diwrnod cyn iddynt gael eu rhoi ar ffyrlo am y tro cyntaf ar neu ar ôl 1 Tachwedd 2020.

Ar gyfer cyflogeion â dyddiad cyfeirio o 2 Mawrth 2021, cyfrifwch 80% o’r cyflog cyfartalog sy’n daladwy rhwng 6 Ebrill 2020 (neu, os yn hwyrach, y dyddiad y dechreuodd y gyflogaeth) a’r dyddiad cyn iddynt gael eu rhoi ar ffyrlo am y tro cyntaf ar neu ar ôl 1 Mai 2021.

Os oes gan eich cyflogai oriau amrywiol, byddwch wedi cwblhau cymhariaeth debyg i gyfrifo’i oriau arferol ond efallai y bydd y canlyniad yn wahanol.

Dull edrych yn ôl ar galendr ar gyfer cyflogeion sydd ar gyfradd amrywiol

Pan fyddwch yn cyfrifo 80% o’r cyflogau o’r cyfnod calendr cyfatebol mewn blwyddyn flaenorol, mae’r cyfnod rydych yn edrych yn ôl ato yn dibynnu ar y cyfnod rydych yn hawlio amdano:

Mis Hawlio Cyfnod edrych yn ôl
Mai 2021 Mai 2019
Mehefin 2021 Mehefin 2019
Gorffennaf 2021 Gorffennaf 2019
Awst 2021 Awst 2019
Medi 2021 Medi 2019

Os na wnaeth eich cyflogai weithio i chi yn ystod y cyfnod ‘edrych yn ôl’ ar gyfer y mis rydych yn hawlio amdano, gallwch ond defnyddio’r dull cyfartalu i gyfrifo 80% o’i gyflog.

I gyfrifo 80% o’r cyflog o’r cyfnod calendr cyfatebol mewn blwyddyn flaenorol:

  1. Dechreuwch â’r swm a enillodd yn ystod y rhan gyfatebol o’r cyfnod edrych yn ôl.

  2. Rhannwch â chyfanswm y diwrnodau yn y cyfnod hwnnw – gan gynnwys diwrnodau nad oedd y cyflogai’n gweithio.

  3. Lluoswch â nifer y diwrnodau ffyrlo yn y cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) yr ydych yn hawlio ar ei gyfer.

  4. Lluoswch ag 80%.

Gallai’r cyfnod calendr cyfatebol ar gyfer y cyfnod edrych yn ôl fod yr un diwrnodau calendr yn y cyfnod edrych yn ôl neu’r cyfnod cyflog cyfatebol. Mae’r arweiniad hwn yn tybio y byddwch yn defnyddio’r un diwrnodau calendr, ond mae’r naill ddull neu’r llall yn dderbyniol ar yr amod ei fod yn cael ei ddefnyddio’n gyson.

Dylech ddefnyddio’r union swm a enillodd y cyflogai, hyd yn oed os oedd ar gyfnod o absenoldeb statudol yn ystod y cyfnod edrych yn ôl.

Dewch o hyd i enghraifft o gyfrifo 80% o’r cyflog am yr un cyfnod mewn blwyddyn flaenorol..

Dewch o hyd i enghraifft o gyfrifo 80% o’r cyflog am yr un cyfnod mewn blwyddyn flaenorol ar gyfer mis Chwefror 2021.

Dewch o hyd i enghraifft o gyfrifo 80% o’r cyflog am yr un cyfnod mewn blwyddyn flaenorol ar gyfer mis Mawrth 2021 neu fis Ebrill 2021.

Dull cyfartalu ar gyfer cyflogeion cyfradd amrywiol y mae eu dyddiad cyfeirio ar 19 Mawrth 2020

I gyfrifo 80% o’r cyflog misol cyfartalog ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020:

  1. Dechreuwch â swm y cyflog a oedd yn daladwy i’r cyflogai ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020 hyd at (a chan gynnwys) y diwrnod cyn iddo gael ei roi ar ffyrlo am y tro cyntaf.

  2. Rhannwch y swm â nifer y diwrnodau ers dechrau blwyddyn dreth 2019 i 2020 – gan gynnwys diwrnodau nad oedd y cyflogai’n gweithio (hyd at a chan gynnwys y diwrnod cyn iddo gael ei roi ar ffyrlo am y tro cyntaf, neu 5 Ebrill 2020 – pa un bynnag sydd gynharaf).

  3. Lluoswch â nifer y diwrnodau ffyrlo yn y cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) yr ydych yn hawlio ar ei gyfer.

  4. Lluoswch ag 80%.

Dewch o hyd i enghreifftiau o gyfrifo 80% o’r cyflog misol cyfartalog ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020.

Os dechreuodd eich cyflogai weithio i chi ar neu ar ôl 6 Ebrill 2019, ni ddylech gynnwys y diwrnodau cyn i’w gyflogaeth ddechrau yn eich cyfrifiad.

Mae pob diwrnod ar ôl i’r cyflogai ddechrau gweithio gyda chi yn cael ei gyfrif wrth wneud y cyfrifiad hwn. Mae hyn yn cynnwys diwrnodau nad yw’n gweithio.

Ar gyfer cyfnodau hawlio sy’n dod i ben ar neu cyn 30 Ebrill 2021, wrth gyfrifo swm y cyflog yng ngham 1 mae’n rhaid i chi gynnwys diwrnodau ar absenoldeb. Mae’n rhaid i chi hefyd gynnwys diwrnodau ar absenoldeb wrth gyfrifo nifer y diwrnodau calendr yng ngham 2.

Fodd bynnag, ar gyfer cyfnodau hawlio sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Mai 2021, wrth gyfrifo swm y cyflog yng ngham 1 a nifer y diwrnodau calendr yng ngham 2, ni ddylech gynnwys diwrnodau yn ystod (na chyflogau sy’n gysylltiedig â) chyfnod o:

  • absenoldeb sy’n gysylltiedig â thâl salwch statudol
  • absenoldeb statudol sy’n gysylltiedig â materion teuluol
  • absenoldeb â thâl ar gyfradd is yn dilyn cyfnod o absenoldeb sy’n gysylltiedig â thâl salwch statudol
  • absenoldeb â thâl ar gyfradd is yn dilyn cyfnod o absenoldeb statudol sy’n gysylltiedig â materion teuluol

Mae hyn oni bai bod y cyflogai ar un o’r mathau hyn o absenoldeb drwy gydol y cyfnod cyfan a ddefnyddiwyd i gyfrifo’i gyflog cyfartalog ac, os felly, dylech gynnwys y diwrnodau yn ystod yr absenoldeb hwnnw a’r cyflog sy’n gysylltiedig ag ef. Mae cyflog sy’n gysylltiedig â’r mathau hyn o absenoldeb yn cynnwys cyflog am yr amser i ffwrdd, taliadau statudol am yr amser i ffwrdd a lwfansau ar gyfer yr amser i ffwrdd. Dylech gynnwys taliadau nad ydynt yn deillio o gyfnod penodol o hyd, er enghraifft taliadau bonysau sy’n gysylltiedig â pherfformiad (nad ydynt yn ddewisol).

I gyfrifo 80% o enillion cyfartalog eich cyflogai ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020 ar gyfer cyflogai a ddechreuodd weithio i chi ar neu ar ôl 6 Ebrill 2019:

  1. Dechreuwch â swm y cyflog a oedd yn daladwy i’r cyflogai ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020 hyd at (a chan gynnwys) y diwrnod cyn iddo gael ei roi ar ffyrlo am y tro cyntaf.

  2. Rhannwch y swm â nifer y diwrnodau y mae wedi’i gyflogi ers dechrau blwyddyn dreth 2019 i 2020 – gan gynnwys diwrnodau nad oedd yn gweithio (hyd at a chan gynnwys y diwrnod cyn iddo gael ei roi ar ffyrlo am y tro cyntaf, neu 5 Ebrill 2020 – pa un bynnag sydd gynharaf).

  3. Lluoswch â nifer y diwrnodau ffyrlo yn y cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) yr ydych yn hawlio amdano.

  4. Lluoswch ag 80%.

Mae pob diwrnod ar ôl i’r cyflogai ddechrau gweithio gyda chi yn cael ei gyfrif wrth wneud y cyfrifiad hwn. Mae hyn yn cynnwys diwrnodau nad yw’n gweithio.

Ar gyfer cyfnodau hawlio sy’n dod i ben ar neu cyn 30 Ebrill 2021, wrth gyfrifo swm y cyflog yng ngham 1 mae’n rhaid i chi gynnwys diwrnodau ar absenoldeb. Mae’n rhaid i chi hefyd gynnwys diwrnodau ar absenoldeb wrth gyfrifo nifer y diwrnodau calendr yng ngham 2.

Fodd bynnag, ar gyfer cyfnodau hawlio sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Mai 2021, wrth gyfrifo swm y cyflog yng ngham 1 a nifer y diwrnodau calendr yng ngham 2, ni ddylech gynnwys diwrnodau yn ystod (na chyflogau sy’n gysylltiedig â) chyfnod o:

  • absenoldeb sy’n gysylltiedig â thâl salwch statudol
  • absenoldeb statudol sy’n gysylltiedig â materion teuluol
  • absenoldeb â thâl ar gyfradd is yn dilyn cyfnod o absenoldeb sy’n gysylltiedig â thâl salwch statudol
  • absenoldeb â thâl ar gyfradd is yn dilyn cyfnod o absenoldeb statudol sy’n gysylltiedig â materion teuluol

Mae hyn oni bai bod y cyflogai ar un o’r mathau hyn o absenoldeb drwy gydol y cyfnod cyfan a ddefnyddiwyd i gyfrifo’i gyflog cyfartalog ac, os felly, dylech gynnwys y diwrnodau yn ystod yr absenoldeb hwnnw a’r cyflog sy’n gysylltiedig ag ef.

Mae cyflog sy’n gysylltiedig â’r mathau hyn o absenoldeb yn cynnwys cyflog am yr amser i ffwrdd, taliadau statudol am yr amser i ffwrdd a lwfansau ar gyfer yr amser i ffwrdd. Dylech gynnwys taliadau nad ydynt yn deillio o gyfnod penodol o hyd, er enghraifft taliadau bonysau sy’n gysylltiedig â pherfformiad (nad ydynt yn ddewisol).

Dewch o hyd i enghraifft o gyfrifo 80% o’r cyflog cyfartalog ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020 os dechreuodd y gyflogaeth ar ôl 6 Ebrill 2019.

Dull cyfartalu ar gyfer cyflogai cyfradd amrywiol y mae ei ddyddiad cyfeirio ar 30 Hydref 2020 neu 2 Mawrth 2021

Cyn i chi gyfrifo 80% o’r cyflog misol cyfartalog gan ddefnyddio’r cyfrifiad hwn, mae angen i chi wybod hyd at ba ddyddiad y dylech gyfrifo.

Ar gyfer cyflogeion y mae eu dyddiad cyfeirio ar 30 Hydref 2020, mae’n rhaid i chi gyfrifo hyd at y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y cyflogai ar ffyrlo ar neu ar ôl 1 Tachwedd 2020.

Ar gyfer cyflogeion y mae eu dyddiad cyfeirio ar 2 Mawrth 2021, mae’n rhaid i chi gyfrifo hyd at y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y cyflogai ar ffyrlo ar neu ar ôl 1 Mai 2021.

I gyfrifo 80% o gyflog cyfartalog eich cyflogai rhwng 6 Ebrill 2020 (neu, os yn hwyrach, y dyddiad y dechreuodd y gyflogaeth) a’r diwrnod cyn diwrnod cyntaf y cyflogai ar ffyrlo ar neu ar ôl 1 Tachwedd 2020, neu ar neu ar ôl 1 Mai 2021:

  1. Dechreuwch â swm y cyflog a oedd yn daladwy i’r cyflogai o 6 Ebrill 2020 hyd at (a chan gynnwys) y dyddiad i gyfrifo hyd ato.

  2. Rhannwch y swm â nifer y diwrnodau y cyflogwyd y cyflogai gennych o 6 Ebrill 2020 – gan gynnwys diwrnodau nad oedd yn gweithio – hyd at (a chan gynnwys) y dyddiad i gyfrifo hyd ato.

  3. Lluoswch â nifer y diwrnodau ffyrlo yn y cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) yr ydych yn hawlio amdano.

  4. Lluoswch ag 80%.

Mae pob diwrnod ar ôl i’r cyflogai ddechrau gweithio gyda chi yn cael ei gyfrif wrth wneud y cyfrifiad hwn. Mae hyn yn cynnwys diwrnodau nad yw’n gweithio.

Ar gyfer cyfnodau hawlio sy’n dod i ben ar neu cyn 30 Ebrill 2021, wrth gyfrifo swm y cyflog yng ngham 1 mae’n rhaid i chi gynnwys diwrnodau ar absenoldeb. Mae’n rhaid i chi hefyd gynnwys diwrnodau ar absenoldeb wrth gyfrifo nifer y diwrnodau calendr yng ngham 2.

Fodd bynnag, ar gyfer cyfnodau hawlio sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Mai 2021 yn unig, wrth gyfrifo swm y cyflog yng ngham 1 a nifer y diwrnodau calendr yng ngham 2, ni ddylech gynnwys diwrnodau yn ystod, na chyflogau sy’n gysylltiedig â, chyfnod o:

  • absenoldeb sy’n gysylltiedig â thâl salwch statudol
  • absenoldeb statudol sy’n gysylltiedig â materion teuluol
  • absenoldeb â thâl ar gyfradd is yn dilyn cyfnod o absenoldeb sy’n gysylltiedig â thâl salwch statudol
  • absenoldeb â thâl ar gyfradd is yn dilyn cyfnod o absenoldeb statudol sy’n gysylltiedig â materion teuluol

Mae hynny oni bai bod y cyflogai ar un o’r mathau hyn o absenoldeb drwy gydol y cyfnod cyfan a ddefnyddiwyd i gyfrifo’i gyflog cyfartalog ac, os felly, dylech gynnwys y diwrnodau yn ystod yr absenoldeb hwnnw a’r cyflog sy’n gysylltiedig ag ef.

Mae cyflog sy’n gysylltiedig â’r mathau hyn o absenoldeb yn cynnwys cyflog am yr amser i ffwrdd, taliadau statudol am yr amser i ffwrdd a lwfansau ar gyfer yr amser i ffwrdd. Dylech gynnwys taliadau nad ydynt yn deillio o gyfnod penodol o hyd, er enghraifft taliadau bonysau sy’n gysylltiedig â pherfformiad (nad ydynt yn ddewisol).

Dewch o hyd i enghreifftiau o sut i gyfrifo 80% o gyflog misol cyfartalog eich cyflogai a oedd yn daladwy rhwng 6 Ebrill 2020 a’r diwrnod cyn iddo gael ei roi ar ffyrlo am y tro cyntaf ar neu ar ôl 1 Tachwedd 2020, neu ar neu ar ôl 1 Mai 2021.

Os mai dyddiad cyfeirio eich cyflogai cyfradd amrywiol yw 30 Hydref 2020 neu 2 Mawrth 2021 a bod ei gyflog cyntaf yn daladwy ar ôl iddo ddechrau ei gyfnod o ffyrlo

Gallwch hawlio ar gyfer cyflogeion cyfradd amrywiol y mae eu dyddiad cyfeirio ar 30 Hydref 2020 neu 2 Mawrth 2021, ac nad yw eu cyflog cyntaf yn daladwy tan ar ôl i’w cyfnod ar ffyrlo ddechrau, os cafodd CThEM fanylion eu cyflogau ar Gyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) Gwybodaeth Amser Real (RTI) TWE ar neu cyn dyddiad cyfeirio’r cyflogeion, a bod yr amodau cymhwystra eraill yn cael eu bodloni.

Cyn i chi ddefnyddio’r cyfrifiad hwn, mae angen i chi wybod hyd at ba ddyddiad y dylech gyfrifo.

Ar gyfer cyflogeion y mae eu dyddiad cyfeirio ar 30 Hydref 2020, mae’n rhaid i chi gyfrifo hyd at y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y cyflogai ar ffyrlo ar neu ar ôl 1 Tachwedd 2020.

Ar gyfer cyflogeion y mae eu dyddiad cyfeirio ar 2 Mawrth 2021, mae’n rhaid i chi gyfrifo hyd at y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y cyflogai ar ffyrlo ar neu ar ôl 1 Mai 2021.

I gyfrifo 80% o gyflog cyfartalog y cyflogai rhwng 6 Ebrill 2020 (neu, os yn hwyrach, y dyddiad y dechreuodd y gyflogaeth) a’r diwrnod cyn diwrnod cyntaf y cyflogai ar ffyrlo ar neu ar ôl 1 Tachwedd 2020, neu ar neu ar ôl 1 Mai 2021:

  1. Dechreuwch â swm cyflog y cyflogai a gafodd ei gynnwys yn eich Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) Gwybodaeth Amser Real (RTI) TWE diwethaf a gyflwynwyd i CThEM, ac a ddaeth i’w law ar neu cyn dyddiad cyfeirio’r cyflogai.

  2. Rhannwch y swm â nifer y diwrnodau y cyflogwyd y cyflogai gennych o 6 Ebrill 2020 – gan gynnwys diwrnodau nad oedd yn gweithio – hyd at (a chan gynnwys) y dyddiad i gyfrifo hyd ato.

  3. Lluoswch â nifer y diwrnodau ffyrlo yn y cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) yr ydych yn hawlio amdano.

  4. Lluoswch ag 80%.

Mae pob diwrnod ar ôl i’r cyflogai ddechrau gweithio gyda chi yn cael ei gyfrif wrth wneud y cyfrifiad hwn. Mae hyn yn cynnwys diwrnodau nad yw’n gweithio.

Ar gyfer cyfnodau hawlio sy’n dod i ben ar neu cyn 30 Ebrill 2021, wrth gyfrifo swm y cyflog yng ngham 1 mae’n rhaid i chi gynnwys diwrnodau ar absenoldeb. Mae’n rhaid i chi hefyd gynnwys diwrnodau ar absenoldeb wrth gyfrifo nifer y diwrnodau calendr yng ngham 2.

Fodd bynnag, ar gyfer cyfnodau hawlio sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Mai 2021 yn unig, wrth gyfrifo swm y cyflog yng ngham 1 a nifer y diwrnodau calendr yng ngham 2, ni ddylech gynnwys diwrnodau yn ystod, na chyflogau sy’n gysylltiedig â, chyfnod o:

  • absenoldeb sy’n gysylltiedig â thâl salwch statudol
  • absenoldeb statudol sy’n gysylltiedig â materion teuluol
  • absenoldeb â thâl ar gyfradd is yn dilyn cyfnod o absenoldeb sy’n gysylltiedig â thâl salwch statudol
  • absenoldeb â thâl ar gyfradd is yn dilyn cyfnod o absenoldeb statudol sy’n gysylltiedig â materion teuluol

Mae hynny oni bai bod y cyflogai ar un o’r mathau hyn o absenoldeb drwy gydol y cyfnod cyfan a ddefnyddiwyd i gyfrifo’i gyflog cyfartalog ac, os felly, dylech gynnwys y diwrnodau yn ystod yr absenoldeb hwnnw a’r cyflog sy’n gysylltiedig ag ef.

Mae cyflog sy’n gysylltiedig â’r mathau hyn o absenoldeb yn cynnwys cyflog am yr amser i ffwrdd, taliadau statudol am yr amser i ffwrdd a lwfansau ar gyfer yr amser i ffwrdd. Dylech gynnwys taliadau nad ydynt yn deillio o gyfnod penodol o hyd, er enghraifft taliadau bonysau sy’n gysylltiedig â pherfformiad (nad ydynt yn ddewisol).

Dewch o hyd i enghreifftiau o gyfrifo cyflog cyfartalog os mai dyddiad cyfeirio eich cyflogai cyfradd amrywiol yw 30 Hydref 2020 neu 2 Mawrth 2021 a bod ei gyflog cyntaf yn daladwy ar ôl iddo ddechrau cyfnod o ffyrlo.

Os trosglwyddwyd eich cyflogai cyfradd amrywiol i chi o dan reolau TUPE neu reolau Dilyniant Busnes

Os oes gan gyflogai sydd ar gyflog amrywiol ddyddiad cyfeirio o 19 Mawrth 2020 neu 30 Hydref 2020 oherwydd iddo gael ei drosglwyddo i chi gan ei gyflogwr blaenorol o dan reolau TUPE neu reolau Dilyniant Busnes, efallai y bydd yn rhaid i chi ystyried ei gyfnod cyflogaeth gyda’i gyflogwr blaenorol wrth gyfrifo’i gyflog arferol.

Os oes gan y cyflogai ddyddiad cyfeirio o 19 Mawrth 2020:

  • wrth gyfrifo 80% o’r cyflog o’r cyfnod cyfatebol mewn blwyddyn flaenorol, dylech gynnwys symiau a enillodd yn ystod y cyfnod edrych yn ôl wrth weithio i’w gyflogwr blaenorol (mae’n rhaid i hyn fod y cyflogwr a wnaeth ei drosglwyddo i chi o dan reolau TUPE neu reolau Dilyniant Busnes)
  • wrth gyfrifo’i gyflog gan ddefnyddio’r dull cyfartalu, y dyddiad i gyfrifo ohono yw 6 Ebrill 2019 neu’r dyddiad cyntaf y cafodd ei gyflogi gan ei gyflogwr blaenorol, p’un bynnag sydd hwyraf
  • y dyddiad i gyfrifo hyd ato yw 5 Ebrill 2020 neu’r diwrnod cyn iddo gael ei roi ar ffyrlo gyntaf gennych chi neu gan ei gyflogwr blaenorol (mae’n rhaid i hyn fod y cyflogwr a wnaeth ei drosglwyddo i chi o dan reolau TUPE neu reolau Dilyniant Busnes), p’un bynnag sydd gynharaf

Os oes gan y cyflogai ddyddiad cyfeirio o 30 Hydref 2020:

  • wrth gyfrifo’i gyflog gan ddefnyddio’r dull cyfartalu, y dyddiad i gyfrifo ohono yw 6 Ebrill 2020 neu’r dyddiad cyntaf y cafodd ei gyflogi gan ei gyflogwr blaenorol, p’un bynnag sydd hwyraf
  • y dyddiad i gyfrifo hyd ato yw’r diwrnod cyn iddo gael ei roi ar ffyrlo gyntaf gennych chi neu gan ei gyflogwr blaenorol (mae’n rhaid i hyn fod y cyflogwr a wnaeth ei drosglwyddo i chi o dan reolau TUPE neu reolau Dilyniant Busnes) ar neu ar ôl 1 Tachwedd 2020

Ar gyfer cyfnodau hyd at 30 Ebrill 2021, dylech gyfrifo’r cyflogau arferol gan ddefnyddio’r rheolau arferol ar gyfer cyflogeion sydd â chyflog sy’n amrywio.

Cyfrifo isafswm cyflog ffyrlo eich cyflogai

Yr isafswm cyflog ffyrlo yw’r lleiaf o’r naill neu’r llall o’r canlynol:

  • 80% o’i gyflog arferol
  • yr uchafswm cyflog

Os yw’ch cyflogai ar drefniadau ffyrlo hyblyg, mae’r isafswm cyflog ffyrlo yn dibynnu ar ei oriau gwaith a’i oriau ffyrlo.

  1. Dechreuwch â’r lleiaf o 80% o gyflog arferol y cyflogai a’r uchafswm cyflog.

  2. Lluoswch ag oriau ffyrlo’r cyflogai.

  3. Rhannwch ag oriau arferol y cyflogai.

Dyma’r isafswm y mae’n rhaid i chi ei dalu i’ch cyflogai am yr amser y cofnodir ei fod ar ffyrlo. Gallwch ddewis talu mwy na hyn, ond does dim rhaid i chi wneud hynny.

Os cymerir unrhyw rai o’r oriau ffyrlo fel gwyliau â thâl neu wyliau blynyddol, mae angen i chi ychwanegu at y cyflog am yr oriau hyn hyd at gyfradd gontractiol lawn y cyflogai.

Cyfrifo nifer yr oriau a weithiwyd a nifer yr oriau ar ffyrlo ar gyfer cyflogai sydd ar ffyrlo neu sydd ar ffyrlo hyblyg am ran o gyfnod hawlio

Os yw’ch cyflogai dim ond ar ffyrlo neu ffyrlo hyblyg am ran o’ch cyfnod hawlio, wrth gyfrifo nifer yr oriau ffyrlo y gallwch hawlio amdanynt, gwnewch yn siŵr:

  • eich bod ond yn cyfrifo oriau arferol y cyflogai ar gyfer y diwrnodau a gwmpesir gan y cytundeb ffyrlo
  • nad ydych yn cynnwys unrhyw oriau gwaith ar ddiwrnodau nad ydynt wedi’u cwmpasu gan gytundeb ffyrlo

Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os yw’ch cyfnod hawlio yn cynnwys diwrnodau cyn neu ar ôl cytundeb ffyrlo y cyflogai. Er enghraifft, oherwydd eich bod yn hawlio am fwy nag un cyflogai ac mae rhai ohonynt ar ffyrlo am gyfnod gwahanol.

Cyfrifo faint y gallwch ei hawlio am gyflog ffyrlo eich cyflogai

Ar gyfer cyfnodau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2021, bydd angen i chi gyfrifo swm y grant fel a ganlyn:

  1. Dechreuwch â’r isafswm cyflog ffyrlo.

  2. Rhannwch ag 80.

  3. Yn dibynnu ar ba fis rydych yn hawlio amdano, lluoswch â:

  • 70 ar gyfer mis Gorffennaf 2021
  • 60 ar gyfer mis Awst 2021
  • 60 ar gyfer mis Medi 2021

Dewch o hyd i enghreifftiau o sut i gyfrifo faint o’r isafswm cyflog ffyrlo y gallwch ei hawlio.

Os talwyd taliad statudol i’ch cyflogai yn ystod y cyfnod hawlio

Mae’n rhaid i chi dynnu’r swm a dalwyd i’r cyflogai ar gyfer cyfnod yr hawliad o’r swm rydych yn ei hawlio o dan y cynllun, os telir y canlynol i’ch cyflogai:

  • Tâl Mamolaeth Statudol
  • Tâl Mabwysiadu Statudol
  • Tâl Tadolaeth Statudol
  • Tâl Statudol ar y Cyd i Rieni
  • Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth

Ni ellir rhoi eich cyflogai ar ffyrlo tra ei fod yn cael tâl salwch statudol ac ni all gael tâl salwch statudol tra ei fod ar ffyrlo.

Lwfans Cyflogaeth

Efallai y byddwch yn gymwys i hawlio’r Lwfans Cyflogaeth.

Mae’r rheolau ar gyfer hawlio’r lwfans yr un peth, hyd yn oed os gwnaethoch hawlio grant drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws ar gyfer eich costau cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 y cyflogwr ar gyfer cyfnod hawlio a ddaeth i ben ar neu cyn 31 Gorffennaf 2020. Dim ond ar gyfer cyfnodau rhwng 1 Mawrth 2020 a 31 Gorffennaf 2020 yr oeddech yn gallu hawlio grant tuag at eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 y cyflogwr.

Os ydych yn gymwys, gallwch ddefnyddio’r Lwfans Cyflogaeth i dalu llai o gyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr, hyd nes bo’r lwfans yn rhedeg allan neu tan ddiwedd y flwyddyn dreth, p’un bynnag ddaw gyntaf. Ni ellir lledaenu’r Lwfans Cyflogaeth â llaw dros y flwyddyn dreth pe byddai fel arall yn cael ei ddefnyddio’n gynt.

Wrth gyfrifo faint o gyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr y gallech fod wedi’u hawlio’n ôl drwy’r cynllun, dylech fod wedi didynnu unrhyw Lwfans Cyflogaeth a ddefnyddiwyd gennych yn y cyfnod cyflog hwnnw.

Os gwnaethoch hawlio’r lwfans ac nad oedd rhaid i chi dalu unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr yn ystod cyfnod cyflog, ni ddylech fod wedi hawlio unrhyw gostau cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr drwy’r cynllun.

Os na wnaeth swm y Lwfans Cyflogaeth a hawliwyd gennych gwmpasu cyfanswm cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr a oedd yn ddyledus, y grant y gallech fod wedi’i hawlio oedd yr isaf o’r canlynol:

  • y grant tuag at gostau cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr rydych eisoes wedi’u cyfrifo
  • costau cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr rydych wedi’u talu, neu’n disgwyl eu talu, ar draws eich cyflogres gyfan

Gellir hawlio Lwfans Cyflogaeth ar unrhyw adeg yn y flwyddyn dreth rydych yn hawlio amdani, neu am 4 blynedd wedi hynny. Os ydych wedi hawlio’r grant drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr ar gyfer cyfnodau ar neu cyn mis Gorffennaf, mae’n rhaid i chi sicrhau nad ydych yn cael rhyddhad ar gyfer yr un costau cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr ddwywaith.

Mis Gorffennaf 2020 oedd y mis olaf yr oeddech yn gallu hawlio grant ar ei gyfer drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws tuag at gyfraniadau Yswiriant Gwladol. Dylech fod wedi gostwng elfen cyfraniadau Yswiriant Gwladol eich hawliadau drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws er mwyn rhoi cyfrif am y Lwfans Cyflogaeth. Os ydych wedi hawlio gormod, dylech gysylltu â’n llinell gymorth ar gyfer y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws a byddwn yn newid swm eich hawliad drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws.

Os byddwch yn gohirio’ch hawliad am Lwfans Cyflogaeth, a bod gennych lwfans heb ei ddefnyddio ar ddiwedd y flwyddyn dreth, gallwch ddefnyddio hyn i ostwng costau treth eraill. Os cawsoch grant ar gyfer costau cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr drwy’r cynllun, ni allwch hawlio’r Lwfans Cyflogaeth yn erbyn y cyfraniadau hynny. Wrth gyfrifo’r Lwfans Cyflogaeth y mae gennych hawl iddo, ni ddylech gynnwys unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol a dalwyd drwy’r cynllun. Pe baech yn cynnwys y rhain, byddech yn cael rhyddhad am yr un gost ddwywaith, a byddai hynny’n anghywir. Mae ceisio cael rhyddhad am yr un costau ddwywaith yn enghraifft o dwyll a gall arwain at ymchwilio i hawliadau.

Sut i hawlio

Ar ôl i chi gwblhau’r cyfrifiad ar gyfer pob cyflogai a gafodd ei roi ar ffyrlo yn ystod y cyfnod hawlio, dilynwch y cyfarwyddiadau i hawlio am gyflogau ar-lein drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws, gan gynnwys gofynion o ran y cofnodion y mae’n rhaid i chi eu cadw a sut rydych yn defnyddio’r grant.

Dewch o hyd i enghraifft o gyfrifiad llawn

Mae’r enghreifftiau hyn yn dangos sut i gyfrifo’r swm y dylech ei hawlio ar gyfer cyflogai sydd ar ffyrlo hyblyg ym mis Tachwedd 2020 a mis Gorffennaf 2021.

Cysylltu â CThEM

Defnyddiwch gynorthwyydd digidol CThEM i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y cynlluniau cymorth yn sgil coronafeirws.

Gallwch hefyd gysylltu â CThEM os nad oes modd i chi gael yr help sydd ei angen arnoch ar-lein.

Rydym yn cael nifer fawr iawn o alwadau ar hyn o bryd, felly peidiwch â chysylltu â ni yn ddiangen. Bydd hyn yn ein helpu i reoli ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Nid oes hawl i apelio os nad ydych yn gymwys ar gyfer y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws.

Dylech hefyd gysylltu â ni os ydych yn credu nad ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwystra oherwydd:

  • gwall gan CThEM
  • oedi afresymol a achoswyd gan CThEM

Gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth cwynion os nad ydych yn fodlon â’r ffordd rydym wedi ymdrin â’ch hawliad.

Help a chymorth arall

Gallwch wylio fideos a chofrestru ar gyfer gweminarau rhad ac am ddim er mwyn dysgu rhagor am y cymorth sydd ar gael i’ch helpu i fynd i’r afael ag effeithiau economaidd coronafeirws.

Gallwch ddarllen fersiynau blaenorol o’r arweiniad hwn yn yr Archifau Cenedlaethol.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 12 June 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 October 2021 + show all updates
  1. Updated information because the Coronavirus Job Retention Scheme closed on 30 September 2021.

  2. From 1 August 2021, the government will pay 60% of wages for furlough employees up to £1,875. From 1 July 2021, employers will top up employees’ wages to make sure they receive 80% of wages (up to £2,500).

  3. Claims for furlough days in May 2021 must be made by 14 June 2021.

  4. Claims for furlough days in April 2021 must be made by 14 May 2021.

  5. The Welsh version of this guidance has been updated.

  6. Maximum wage tables and claim dates have been updated.

  7. Claims for furlough days in March 2021 must be made by 14 April 2021.

  8. Dates for when employers can make a claim have been updated.

  9. The scheme has been extended until 30 September 2021. From 1 July 2021, the level of grant will be reduced each month and employers will be asked to contribute towards the cost of furloughed employees’ wages. New information on claim periods from May 2021 added to 'What you can claim' section.

  10. Claims for furlough days in February 2021 must be made by 15 March 2021.

  11. More information about what you can claim and that there is no right of appeal if you are ineligible for the Coronavirus Job Retention Scheme has been added.

  12. Added translation

  13. The information has been updated regarding contacting HMRC.

  14. Minor updates to list of scenarios where the calculator cannot be used. New sections added under 'Work out 80% of your employee’s usual wage' for 'Calendar lookback method' and 'Averaging method'.

  15. A bullet point has been added to the 'Use the calculator' section which explains that employers cannot use the calculator if their employees have variable pay, were not on their employer's payroll on or before 19 March 2020 and have been on more than one period of furlough after 1 November 2020.

  16. A new section has been added about claiming Employment Allowance.

  17. Welsh translation added.

  18. Updated to remove reference to January review and reflect that the Coronavirus Job Retention Scheme has been extended to 30 April 2021. Daily maximum wage amount table updated to include amounts for February, March and April 2021.

  19. Updated examples of when the calculator cannot be used.

  20. Guidance updated to reflect that 30 November claims deadline has now passed. Table with changes to the grant contribution removed.

  21. The information has been updated to give further detail about if your fixed-rate employee’s first pay period ends after 30 October 2020 and if your variable-rate employee’s first wages are payable after they begin furlough.

  22. There has been a small amendment to clarify how to work out 80% of your employee’s average earnings between the date their employment started and the day before they are furloughed. The section 'calculating the number of working and furloughed hours for an employee that is furloughed or flexibly furloughed for part of a claim period' has been updated.

  23. The scheme has been extended. This guidance has been updated with details of how to claim for periods after 1 November 2020. 30 November 2020 is the last day employers can submit or change claims for periods ending on or before 31 October 2020.

  24. Added translation.

  25. Information call out updated to state that the scheme is being extended until 31 March 2021.

  26. Information call out has been updated to confirm that the guidance on this page reflects the rules for the period until 31 October 2020. This page will be updated to include the rules relating to the scheme extension shortly.

  27. Added translation

  28. The Coronavirus Job Retention Scheme is being extended until December 2020.

  29. Information call out has been updated - the scheme is now closed. 30 November 2020 is the last date you can submit claims.

  30. The information call out at the top of the page has been updated with the changes to the scheme. 30 November 2020 is the last day employers can submit or change claims for periods ending on or before 30 October 2020.

  31. New subsection 'Work out your employee's usual hours and furloughed hours' to tell employers how to calculate the number of working and furloughed hours for an employee that comes off furlough or flexible furlough partway through a claim period. Employers using this calculation do not need to amend previous claims

  32. The information call out at the top of the page has been updated with the changes to the scheme from 1 September.

  33. The calculator has been updated and can now be used to work out claim periods ending on or before 31 October.

  34. Page updated with a new section on how to calculate your claim for fixed pay employees who have worked enough overtime (in the tax year 2019 to 2020) to have a significant impact on the amount you need to claim.

  35. Welsh translation added.

  36. Deleted information about claim periods ending on or before 30 June 2020 and information about backdating claims to 1 March, as this is no longer possible.

  37. Updated to show that the calculator can now be used to work out what you can claim for in a claim period ending on or before 31 August. A link has also been added to a new full example for August, and the 'Working how much you can claim for employer National Insurance contributions has been updated to make it clear what steps to take if your employee's pay period goes beyond 30 June.

  38. Page updated with information about how to treat statutory payments received in the claim period.

  39. First published.

Sign up for emails or print this page