Hawlio Rhyddhad Treth Animeiddio ar gyfer Treth Gorfforaeth
Gwirio a yw’ch cwmni yn gymwys i gael Rhyddhad Treth Animeiddio ar gyfer Treth Gorfforaeth, a’r hyn y gallwch ei hawlio.
Pwy all hawlio
Mae’n rhaid i’ch cwmni fod yn gyfrifol am y canlynol:
-
cyn-gynhyrchu
-
prif ffotograffiaeth
-
ôl-gynhyrchu
-
cyflawni’r rhaglen orffenedig
Bydd yn rhaid i’ch cwmni hefyd wneud y canlynol:
-
cymryd rhan weithredol yn y gwaith cynllunio a phenderfynu
-
gweithio’n uniongyrchol i drafod, contractio a thalu am hawliau, nwyddau a gwasanaethau
Mae rhaglenni wedi’u hanimeiddio sydd wedi’u comisiynu gyda’i gilydd yn cael eu trin fel un rhaglen.
Gwiriwch a yw’ch cwmni’n gymwys fel y cwmni cynhyrchu cyn hawlio’r rhyddhad.
Prawf o ran diwylliant
Er mwyn bod yn gymwys i gael rhyddhadau treth y Diwydiant Creadigol, mae’n rhaid i bob rhaglen deledu sydd wedi’i hanimeiddio gael ei hardystio’n Brydeinig. Mae’n rhaid iddynt basio prawf o ran diwylliant, neu fod yn gymwys drwy gytuniad cyd-gynhyrchu a gytunwyd yn rhyngwladol.
Sefydliad Ffilm Prydain sy’n rheoli’r broses o bennu cymhwyster a dyrannu tystysgrifau ar ran yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.
Bydd Sefydliad Ffilm Prydain yn dyrannu:
-
tystysgrif dros dro ar gyfer gwaith sydd ar y gweill
-
tystysgrif derfynol ar gyfer cynhyrchiad sydd wedi’i gyflawni
Gwirio a yw’r animeiddiad yn gymwys i gael rhyddhad treth
Gall eich cwmni hawlio’r rhyddhad ar raglen wedi’i hanimeiddio os yw’r canlynol yn wir:
-
mae’r rhaglen wedi’i hardystio i fod yn Brydeinig gan Sefydliad Ffilm Prydain
-
bwriedir darlledu’r rhaglen — mae hyn yn cynnwys ffrydio ar-lein
-
mae o leiaf 51% o’r ‘costau craidd’ wedi’u gwario ar animeiddio
-
mae o leiaf 10% o’r ‘costau craidd’ yn gysylltiedig â gweithgarwch yn y DU
-
dechreuodd y brif ffotograffiaeth ar neu cyn 31 Mawrth 2025
Costau craidd yw’r hyn a wariwyd ar gyn-gynhyrchu, prif ffotograffiaeth ac ôl-gynhyrchu.
Ni all eich cwmni hawlio’r rhyddhad os yw’r rhaglen yn un o’r canlynol:
-
rhaglen hysbysebu neu raglen hyrwyddo
-
rhaglen newyddion, rhaglen materion cyfoes neu raglen trafodaeth
-
sioe gwis neu gemau, sioe banel, sioe amrywiaeth, neu raglen debyg
-
rhaglen sy’n cynnwys elfen o gystadlu
-
wedi’i gynhyrchu at ddibenion hyfforddi
Gallwch wirio a yw’r animeiddiad yn gymwys i gael y rhyddhad.
Yr hyn y gallwch ei hawlio
Gallwch hawlio didyniad ychwanegol i ostwng eich elw, neu i gynyddu colled. Mae hyn yn gostwng swm unrhyw Dreth Gorfforaeth y bydd angen i chi ei thalu.
Y didyniad ychwanegol yw’r isaf o’r canlynol:
-
80% o gyfanswm y costau craidd
-
swm y costau craidd sy’n gysylltiedig â gweithgarwch yn y DU
Os byddwch yn gwneud colled, gall yr holl golled, neu ran ohoni, gael ei hildio yn gyfnewid am gredyd treth taladwy, a hynny ar gyfradd o 25%.
Pryd y gallwch hawlio
Gallwch wneud hawliad am Ryddhad Treth Animeiddio, diwygio’ch hawliad neu ei dynnu’n ôl, hyd at un flwyddyn ar ôl dyddiad cyflwyno Ffurflen Dreth y Cwmni.
Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024, gallwch wneud hawliad am Ryddhad Treth Animeiddio, diwygio’ch hawliad neu ei dynnu’n ôl, hyd at 2 flynedd ar ôl diwedd y cyfnod cyfrifyddu y mae’n berthnasol iddo.
Mae’n bosibl y gall CThEF dderbyn hawliadau hwyr o dan rai amgylchiadau.
Sut i hawlio
Gallwch hawlio’r rhyddhad treth ar eich Ffurflen Dreth y Cwmni (yn agor tudalen Saesneg).
Bydd angen i chi gyfrifo’r symiau canlynol:
-
y didyniad ychwanegol sy’n ddyledus i’ch cwmni
-
unrhyw gredyd taladwy sy’n ddyledus
O 1 Ebrill 2024 ymlaen, mae’n rhaid i bob hawliad gynnwys ffurflen gwybodaeth ychwanegol (yn agor tudalen Saesneg). Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r ffurflen hon i gyflwyno’r dystiolaeth angenrheidiol er mwyn ategu’ch hawliad.
Ar gyfer pob cynhyrchiad, mae’n rhaid i chi roi’r canlynol:
-
tystysgrif ddiwylliannol Brydeinig gan Sefydliad Ffilm Prydain — os ydych yn anfon tystysgrif dros dro, mae’n rhaid i chi anfon y dystysgrif derfynol pan fydd y rhaglen wedi’i chwblhau ac mae’n rhaid i’r dystysgrif fod â dyddiad dilys pan fyddwch yn ei chyflwyno
-
datganiad o’r costau craidd, wedi’u rhannu rhwng costau’r DU a chostau tu allan i’r DU
-
dadansoddiad o’r costau fesul categori
Rhyddhad Treth Animeiddio yn cau o 1 Ebrill 2027 ymlaen
Ni allwch hawlio Rhyddhad Treth Animeiddio ar gyfer unrhyw gynyrchiadau sy’n cychwyn ar y brif ffotograffiaeth ar ôl 31 Mawrth 2025.
Bydd y rhyddhad yn cau ar gyfer pob cynhyrchiad o 1 Ebrill 2027 ymlaen.
Efallai y byddwch yn gallu hawlio Credyd Gwariant Clyweledol ar gyfer unrhyw gynyrchiadau na allwch hawlio Rhyddhad Treth Animeiddio ar eu cyfer.
Rhagor o wybodaeth
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth, gan gynnwys enghreifftiau o sut mae’r rhyddhad yn cael ei gyfrifo, yn y Llawlyfr i Gwmnïau Cynhyrchu Animeiddiad (yn agor tudalen Saesneg).
Updates to this page
-
The need to include a CT600P creative industries supplementary page with your Company Tax Return from April 2025 has been removed.
-
Added Welsh translation.
-
Guidance added to check if the production qualifies for the tax relief. Added in information about CT600P supplementary page.
-
We have updated the page to include guidance on the Audio-Visual Expenditure Credit scheme and the closure of the Animation Tax Relief scheme from 1 April 2027.
-
The 'How to claim' section has been updated with a link to 'Support your claim for creative industry tax reliefs' which explains how to provide evidence to support your creative industry reliefs claim.
-
First published.