Back to contents

Dechrau arni

Sut i ddewis y feddalwedd rydych am ei defnyddio a chofrestru.

Cyn ui chi allu defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, mae angen i chi sicrhau eich bod yn gymwys i gofrestru’n wirfoddol eleni. Mae angen i chi hefyd benderfynu pa feddalwedd rydych am ei defnyddio.

Bydd eich asiant (os oes gennych un) yn gallu gwneud llawer o hyn i chi.

Gwirio eich bod yn gymwys i gofrestru’n wirfoddol

Mae’n rhaid i chi wirio a ydych yn gymwys i’n helpu gyda phrofi’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Pan fyddwch yn cofrestru, gofynnir rhai cwestiynau i chi. Bydd hyn yn cadarnhau a allwch wirfoddoli i’n helpu i brofi a datblygu’r gwasanaeth.

Dewis y feddalwedd rydych chi am ei defnyddio

Mae’n rhaid i chi ddefnyddio meddalwedd sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Mae yna nifer o ddarparwyr meddalwedd trydydd parti y gallwch ddewis ohonynt.

Awdurdodi eich asiant 

Gallwch awdurdodi asiant i weithredu ar eich rhan ar gyfer unrhyw wasanaeth Troi Treth yn Ddigidol. Unwaith y bydd eich asiant wedi’i awdurdodi, bydd yn gallu gwneud y canlynol:

  • cofrestru’ch busnes
  • defnyddio meddalwedd i greu a chadw cofnodion digidol ar eich rhan
  • defnyddio meddalwedd i weld, golygu ac anfon eich data atom

Os ydych eisoes wedi awdurdodi’ch asiant i weithredu ar eich rhan ar gyfer Hunanasesiad, ni fydd angen i chi ei ailawdurdodi ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Cofrestru

Os ydych am gofrestru’n wirfoddol i helpu i brofi’r gwasanaeth ym mlwyddyn dreth 2024 i 2025, dylech geisio cofrestru rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2024. Mae hyn yn golygu y gallwch brofi’r gwasanaeth am gylchred treth lawn cyn iddo ddod yn orfodol.

Mae’n dal i fod yn bosibl cofrestru yn ddiweddarach yn y flwyddyn os ydych wedi bod yn cadw cofnodion digidol a gallwch gyflwyno diweddariadau chwarterol yn ôl-weithredol.

Mae sut i gofrestru yn dibynnu a ydych yn unigolyn neu’n asiant:

Os oes gennych fwy nag un busnes

Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ar gyfer pob masnach a busnes (er enghraifft, os ydych yn landlord ac yn adeiladwr).

Mae’n rhaid i chi hefyd gadw cofnodion ar wahân a gwneud cyflwyniadau ar wahân ar gyfer pob busnes.

Os ydych yn cael incwm o eiddo gan fwy nag un eiddo, bydd pob eiddo sydd:

  • yn y DU yn cael ei drin fel un ‘busnes eiddo yn y DU’
  • y tu allan i’r DU yn cael ei drin fel un ‘busnes eiddo tramor’

Os ydych chi’n berchen ar eiddo dramor mewn mwy nag un wlad

Mae angen i chi gadw cofnodion digidol ar wahân ar gyfer pob gwlad rydych chi’n cael incwm o eiddo ohoni.

Awdurdodi’ch meddalwedd

Mae angen i chi awdurdodi’ch meddalwedd sy’n cydweddu drwy nodi’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth yn eich meddalwedd a dilyn y cyfarwyddiadau. Gallwch ofyn i’ch darparwr meddalwedd sut i wneud hyn.

Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r ID Defnyddiwr ar gyfer Porth y Llywodraeth a gawsoch pan wnaethoch gofrestru ar gyfer y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • Hunanasesiad
  • cyfrif gwasanaethau asiant, os ydych yn asiant

Mae angen i chi ailwneud y broses awdurdodi meddalwedd bob 18 mis. Dylai’ch meddalwedd eich atgoffa chi i wneud hyn.