Cofrestru ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd
Dysgwch pryd a sut i gofrestru ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd, a sut i ddiwygio cofrestriad.
Cyn cofrestru, dylech holi a oes angen i chi gofrestru ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd.
Pryd i gofrestru
Mae’n rhaid i chi gofrestru cyn gynted â phosibl cyn i chi gyflwyno datganiad ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd — mae hyn oherwydd bod taliadau ar gyfer yr ardoll yn ddyledus erbyn 30 Medi bob blwyddyn.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni am y canlynol:
- gwybodaeth am eich refeniw yn y DU ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf
- dyddiad y dechreuodd eich sefydliad weithgareddau a reoleiddir gan reoliadau gwrth-wyngalchu arian, os oeddech wedi dechrau yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf
- y sector busnes mae’ch sefydliad yn gweithredu ynddo
- gwybodaeth am ba mor hir yw’ch cyfnod cyfrifyddu
Bydd angen i chi hefyd roi gwybod i ni am fanylion cyswllt rhywun yn eich sefydliad, gan gynnwys:
- enw
- rôl
- cyfeiriad e-bost
- rhif ffôn
Os ydych yn bartneriaeth gyffredinol, neu’n bartneriaeth yn yr Alban
Bydd angen i chi hefyd roi gwybod i ni am y canlynol:
- Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr eich partneriaeth
- y cod post rydych yn ei ddefnyddio ar gyfer Hunanasesiad
Os ydych yn gwmni cyfyngedig
Bydd angen i chi hefyd roi gwybod i ni am y canlynol:
- rhif cofrestru’r cwmni
- Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ar gyfer Treth Gorfforaeth
Os ydych yn bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, neu’n bartneriaeth gyfyngedig
Bydd angen i chi hefyd roi gwybod i ni am y canlynol:
- rhif cofrestru cwmni eich partneriaeth
- Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr eich partneriaeth
- y cod post rydych yn ei ddefnyddio ar gyfer Hunanasesiad
Os ydych yn gwmni anghyfyngedig, neu’n bartneriaeth gyfyngedig yn yr Alban
Bydd angen i chi hefyd roi gwybod i ni am y canlynol:
- rhif cofrestru’r cwmni
- Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ar gyfer Treth Gorfforaeth
Os ydych yn unig fasnachwr
Bydd angen i chi hefyd roi gwybod i ni am y canlynol:
- Rhif Yswiriant Gwladol
- Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr
Os ydych yn elusen
Bydd angen i chi hefyd roi gwybod i ni am y canlynol:
- rhif cofrestru’r elusen
- rhif cofrestru’r cwmni
- enw’r busnes
Os ydych yn ymddiriedolaeth
Bydd angen i chi hefyd roi gwybod i ni am y canlynol:
- Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ar gyfer Treth Gorfforaeth
- enw’r cwmni
Os ydych yn gymdeithas anghorfforedig
Bydd angen i chi hefyd roi gwybod i ni am y canlynol:
- Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ar gyfer Treth Gorfforaeth — os oes un gennych
- enw’r cwmni
- cod post
Os ydych yn gymdeithas gofrestredig
Bydd angen i chi hefyd roi gwybod i ni am y canlynol:
- rhif cofrestru’r cwmni
- Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr y gymdeithas gofrestredig
Os ydych yn sefydliad y tu allan i’r DU
Bydd angen i chi hefyd roi gwybod i ni am y canlynol:
- Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ar gyfer Hunanasesiad
- Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ar gyfer Treth Gorfforaeth
- enw’r cwmni
- rhif cofrestru’r cwmni — os oes un gennych
Sut i gofrestru
Os ydych o dan oruchwyliaeth CThEF, neu un o’r cyrff proffesiynol, mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein i gofrestru ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd.
I gofrestru, bydd angen i chi gael Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth y person, neu’r endid, sy’n cwblhau’r cofrestriad.
Os nad oes gennych ID Defnyddiwr, gallwch greu un wrth gofrestru.
Os ydych yn cofrestru mwy nag un endid, bydd angen i chi greu ID Defnyddiwr a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth ar wahân ar gyfer pob un.
Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).
Os ydych yn cael problemau technegol gyda’r gwasanaeth hwn, dewiswch y cysylltiad ‘A yw’r dudalen hon yn gweithio’n iawn?’ ar y dudalen lle mae angen help arnoch.
Ar ôl i chi gofrestru
Byddwch yn cael rhif cofrestru ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd. Bydd angen i chi ei gadw ar gyfer eich cofnodion, oherwydd y bydd angen i chi gyflwyno datganiad ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd bob blwyddyn.
Os bydd angen i chi ddiwygio’ch cofrestriad
Gallwch newid eich cofrestriad os:
- yw’r wybodaeth wreiddiol a roddwyd gennych yn anghywir
- yw’ch amgylchiadau wedi newid
Er mwyn diwygio’ch cofrestriad, mewngofnodwch i’ch cyfrif Ardoll Troseddau Economaidd.
Cysylltwch â CThEF i gael help gydag Ardoll Troseddau Economaidd
Ffoniwch CThEF i gael help gydag Ardoll Troseddau Economaidd dim ond os na allwch ddod o hyd i ateb gan ddefnyddio ein gwasanaethau neu arweiniad ar-lein.
Efallai y bydd y llinell gymorth hon yn gofyn rhai cwestiynau diogelwch i chi.
Sicrhewch fod eich manylion yn eich cyfrif Ardoll Troseddau Economaidd wedi’u diweddaru, neu mae’n bosibl byddwch yn methu’r camau diogelwch dros y ffôn.
Os ydych eisoes wedi cofrestru, bydd angen eich rhif cofrestru Ardoll Troseddau Economaidd arnoch. Gallwch ddod o hyd i hyn:
- yn eich cyfrif Ardoll Troseddau Economaidd
- yn eich cyfrif treth busnes CThEF, os oes un gennych
- yn yr e-bost a anfonwyd atoch gan CThEF i gadarnhau bod eich datganiad Ardoll Troseddau Economaidd wedi cael ei gyflwyno
Ffôn:
0300 322 9621
Oriau agor:
Dydd Llun i ddydd Gwener: 10am i 4pm Ar gau ar y penwythnos ac ar wyliau banc.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 April 2024 + show all updates
-
Added information on how to get help with Economic Crime Levy from HMRC.
-
Clarification added that if you are registering more than one entity, you'll need to create a separate Government Gateway User ID and password for each one.
-
Guidance added for amending a registration. You can now do this online within your Economic Crime Levy account. Also guidance updated on what information you'll need to register a charity, trust, unincorporated association, registered society or non-UK establishment.
-
Guidance about what you will need to register has been updated.
-
The after you have registered section has been updated with a link to a page with information about submitting a return for the Economic Crime Levy.
-
First published.