Cwestiynau Cyffredin Cronfa Adfywio Cymunedol y DU (UKCRF)
Cwestiynau Cyffredin Cronfa Adfywio Cymunedol y DU (UKCRF).
C1. Pam na chyhoeddwyd canlyniad UKCRF fis Gorffennaf?
Cawsom dros 1,000 o geisiadau mewn ymateb i lansiad Cronfa Adfywio Cymunedol y DU. O ystyried y lefel sylweddol o ddiddordeb, cymerodd swyddogion yn hwy i gwblhau’r broses asesu.
Gwnaethom nodi o’r blaen y byddem yn cyhoeddi canlyniad ceisiadau o ddiwedd mis Gorffennaf 2021 ymlaen. Mae cyhoeddiad UKCRF yn ategu’r cyhoeddiadau a wnaed ar gyfer Cronfa Codi’r Gwastad a Chronfeydd Perchnogaeth Cymunedol a wnaed yn yr Adolygiad Gwario.
I gydnabod yr oedi o dri mis i gyhoeddiadau ac i alluogi ymgeiswyr llwyddiannus i gael digon o amser i gyflawni eu prosiectau, rydym wedi diwygio’r llinell amser cyflawni y tu hwnt i 31 Mawrth 2022. Bellach bydd gan brosiectau tan 30 Mehefin 2022 i’w cyflawni. Byddwn yn gweithio ag Awdurdodau Arweiniol (Awdurdodau Cyfun Maerol, Cynghorau Sir neu Awdurdodau Unedol) ac yn uniongyrchol ag ymgeiswyr yng Ngogledd Iwerddon i reoli unrhyw newid i’w prosiectau.
C2. Er mwyn sicrhau bod cyllid Cronfa Adfywio Cymunedol y DU yn cyrraedd y mwyaf o angen, gwnaethoch nodi 100 o leoedd â blaenoriaeth. Pa gyfran o’r cyllid sydd wedi’i ddyrannu i leoedd blaenoriaeth a di-flaenoriaeth sydd wedi bod yn llwyddiannus?
Ledled y Deyrnas Unedig (mae Gogledd Iwerddon wedi ei chynnwys yn y lleoedd di-flaenoriaeth) mae 65% o’r cyllid wedi ei ddyrannu i leoedd â blaenoriaeth a dyrannwyd 35% o’r cyllid i leoedd nad ydynt yn flaenoriaeth.
C3. Pa ganran o’r cyllid sydd wedi ei ddyrannu i bob un o 4 blaenoriaeth fuddsoddi’r gronfa?
Ledled y DU mae cyllid wedi’i ddyrannu i bob un o’r themâu:
Buddsoddiad mewn sgiliau | 25% |
Buddsoddiad mewn busnesau lleol | 23% |
Buddsoddi mewn cymunedau a lleoedd | 20% |
Cefnogi pobl i gyflogaeth | 32% |
C4. Pa gyfran o gronfa UKCRF a gyhoeddwyd yn ddiweddar sydd wedi ei dyrannu ledled Cymru, Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon?
Cymru | £46,855,257 (23%) |
Lloegr | £125,561,514 (62%) |
Yr Alban | £18,428,681 (9%) |
Gogledd Iwerddon | £12,362,975 (6%) |
C5. Sut mae Llywodraeth y DU wedi gwneud y penderfyniad i ddyfarnu’r dyraniadau hynny ledled y DU?
Aseswyd a graddio prosiectau yn ôl sgôr. Yn unol â’r prosbectws cyhoeddedig, roedd Gweinidogion yn gallu cymhwyso nifer o ystyriaethau i’r rhestr ariannu. Mae’r ystyriaethau hyn wedi eu cymhwyso i sicrhau:
- Dyraniad thematig a rhesymol o brosiectau cymeradwy.
- Lledaeniad cytbwys o brosiectau cymeradwy ledled y Deyrnas Unedig.
- Bod cydbwysedd y prosiectau cymeradwy rhwng y rhai sy’n canolbwyntio ar leoedd blaenoriaeth a lleoedd nad ydynt yn flaenoriaeth yn rhoi sylw priodol i leoedd â blaenoriaeth.
Trwy gymhwyso’r ystyriaethau hyn, mae Gweinidogion wedi sicrhau bod Llywodraeth y DU wedi cyflawni eu hamcan o sicrhau cydbwysedd cyllid ar draws y DU gyfan a lefel uwch o alinio â Chronfa Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd (ESIF). Bydd hyn yn ein galluogi i gyflawni cronfa sy’n darparu trosglwyddiad esmwyth o ESIF i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, ac sy’n cyfrannu at uchelgais y Llywodraeth i warchod a gwella’r Undeb.
C6. Pam mae Llywodraeth y DU wedi gwneud y penderfyniad i ymestyn y llinell amser cyflenwi ar gyfer UKCRF o dri mis i 30 Mehefin 2022?
Rydym wedi ymestyn y llinell amser cyflenwi ar gyfer UKCRF dri mis i sicrhau bod gan ymgeiswyr llwyddiannus yr un ffenestr gyflawni ag a nodir ym mhrosbectws y gronfa. Bydd hyn yn sicrhau y bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus gyfnod o 8 mis i gyflawni eu gweithgareddau rhaglen/prosiect a gwario’r cyllid grant.
C7. Pa fath o sefydliadau sydd wedi gwneud cais am arian?
Mae unrhyw sefydliad â chyfansoddiad cyfreithiol sy’n darparu gwasanaeth priodol wedi gallu cyflwyno cais. Ym Mhrydain Fawr, cyflwynwyd ceisiadau trwy’r Awdurdodau Arweiniol. Yng Ngogledd Iwerddon, mae ymgeiswyr wedi gwneud cais uniongyrchol i lywodraeth y DU.
Derbyniwyd ceisiadau gan ystod o ymgeiswyr, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i awdurdodau lleol, prifysgolion, sefydliadau sector gwirfoddol a chymunedol a grwpiau busnes ymbarél yn ogystal â sefydliadau sector preifat ac elusennau cofrestredig lle maent yn darparu gwasanaeth er budd sefydliadau neu unigolion eraill.
C8. A yw’r broses asesu ar gyfer ceisiadau UKCRF wedi bod yn gymesur wrth ystyried lefel y cyllid sydd ar gael a’r amserlen gyflawni?
Ydy, credwn fod proses asesu ceisiadau UKCRF wedi bod yn gymesur o’i chymharu â chronfeydd o faint tebyg. Fe’i cynhaliwyd fel cystadleuaeth agored â cheisiadau llwyddiannus ac aflwyddiannus wedi eu nodi drwy ddefnyddio’r meini prawf asesu cyhoeddedig.
C9. A oes proses apelio ar gyfer ymgeiswyr i UKCRF sy’n aflwyddiannus?
Nid oes proses apelio ar gyfer yr Awdurdodau Arweiniol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban nac ymgeiswyr prosiect unigol yng Ngogledd Iwerddon sy’n gwneud cais yn uniongyrchol i Lywodraeth y DU.
C10. Os nad yw’n bosibl i Awdurdod Arweiniol neu ymgeisydd gyflawni prosiect fel y’i cyflwynwyd yn wreiddiol, a ellir adnabod prosiect arall yn ei le?
Na ellir, dyfarnwyd cyllid i’r prosiectau gwreiddiol yn seiliedig ar broses asesu agored a thryloyw fel y’i cyhoeddwyd ar www.gov.uk.
C11. Pryd fydd taliadau cyllid grant yn cael eu gwneud i ymgeiswyr llwyddiannus yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon?
Gwneir y gyfran gyntaf o daliadau grant i Awdurdodau Arweiniol ac ymgeiswyr llwyddiannus Gogledd Iwerddon fis Rhagfyr 2021, â gweddill y grant yn cael ei gwblhau ar ôl ei gwblhau o fis Gorffennaf 2022 ymlaen.
C12. Os yw prosiect llwyddiannus eisoes wedi dechrau mewn perygl, a fydd Llywodraeth y DU yn darparu cyllid ôl-weithredol?
Na fydd, ni fydd Llywodraeth y DU yn darparu unrhyw gyllid ôl-weithredol. Bydd cyllid yn dechrau dim ond ar ôl i ymgeiswyr dderbyn cadarnhad ysgrifenedig bod eu ceisiadau wedi bod yn llwyddiannus.
C13. Rydych wedi nodi bod rhaid gwario cyllid nawr erbyn 30 Mehefin 2022. Sut ydych yn diffinio gwario a beth fydd yn digwydd os bydd gwario’n mynd y tu hwnt i 30 Mehefin 2022?
Mae gwariant erbyn 30 Mehefin 2022 yn golygu bod yr holl wario yr aethpwyd iddo erbyn y dyddiad hwn wedi ei dalu. Nid yw unrhyw wario yr eir iddo ar ôl y dyddiad hwn yn ymwneud ag unrhyw weithgaredd ar ôl 30 Mehefin 2022 yn gymwys. Gwneir y taliad balans terfynol ar ôl ei gwblhau mewn ôl-ddyledion.
C14. A fydd Awdurdodau Arweiniol a/neu ymgeiswyr unigol sy’n aflwyddiannus yn cael adborth, gan gydnabod y bwriedir i’r UKCRF fod yn faes profi ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF)?
Bydd Llywodraeth y DU yn darparu adborth lefel uchel i ymgeiswyr trwy Awdurdodau Arweiniol neu’n uniongyrchol i ymgeiswyr Gogledd Iwerddon. Er y bydd UKCRF yn helpu i lywio dyluniad yr UKSPF trwy ariannu peilotiaid, mae’r cronfeydd yn wahanol o ran dyluniad, cymhwysedd, a hyd.
C15. A fydd y dull o gyflawni a dosbarthu cyllid yr un peth o dan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU? A yw cael cais llwyddiannus gan Gronfa Adfywio Cymunedol y DU yn gwella’r siawns o gael cais llwyddiannus Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF)?
Mae’r UKCRF yn darparu cyllid ychwanegol i helpu ardaloedd lleol i baratoi ar gyfer cyflwyno’r UKSPF. Bydd yr UKSPF werth dros £2.6 biliwn dros y tair blynedd nesaf. Bydd yr UKSPF yn codi i £1.5 biliwn y flwyddyn erbyn 2024-25. Bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi rhagor o fanylion am Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Er y bydd UKCRF yn helpu i lywio dyluniad yr UKSPF trwy gefnogi pobl a chymunedau, gan greu cyfleoedd i dreialu dulliau newydd a syniadau arloesol ar lefel leol, mae’r cronfeydd yn wahanol o ran dyluniad, cymhwysedd, a hyd.
C16. Sut y bydd Adran Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau (DLUHC) yn gweithredu wrth gyflawni o fewn y Cenhedloedd Datganoledig?
Mae Llywodraeth y DU yn gwasanaethu dinasyddion ledled y DU gyfan ac felly mae mewn sefyllfa dda i gymryd golwg strategol ar flaenoriaethau ledled y DU, gan ddyrannu cyllid i fynd i’r afael ag angen cymharol mewn gwahanol rannau o’r wlad, waeth beth fo’r ffiniau gweinyddol. Er mwyn cyflawni hyn, mae Llywodraeth y DU yn gweithio’n uniongyrchol â’r cyfranogwyr sydd agosaf at anghenion lleol dinasyddion i gyflawni orau i gymunedau a sefydlu perthnasoedd cryf a pharhaol ag awdurdodau lleol ledled y DU.
Rydym yn parhau i gryfhau presenoldeb Llywodraeth y DU mewn gwahanol rannau o’r wlad i gefnogi partneriaid lleol yn well a chyflawni’r agenda codi’r gwastad ledled y DU. Fel rhan o hyn, rydym wedi sefydlu tri thîm Dinasoedd a Thwf Lleol newydd sydd wedi eu lleoli yng Nghymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon. Mae’r timau hyn yn gweithio â’r Swyddfeydd Tiriogaethol yn ogystal â phartneriaid lleol i gefnogi cyflwyno’r cronfeydd newydd yn effeithiol.