Canllawiau

Gwirio eich hunaniaeth ar gyfer Tŷ'r Cwmnïau

Mae angen i chi brofi pwy ydych chi i sefydlu, rhedeg, perchen neu reoli cwmni yn y DU.

Pam mae angen i chi wirio eich hunaniaeth

Mae gwiriad hunaniaeth yn ofyniad cyfreithiol newydd. Bydd yn helpu i atal pobl sy’n bwriadu defnyddio cwmnïau at ddibenion anghyfreithlon.

Yn ôl y gyfraith, bydd angen i chi wirio eich hunaniaeth i gadarnhau mai chi yw pwy rydych chi’n honni i fod.

Bydd hyn yn:

  • lleihau’r risg o dwyll
  • gwella tryloywder, ymddiriedaeth a chywirdeb gwybodaeth ar gofrestr Tŷ’r Cwmnïau

Pwy sydd angen gwirio

Bydd angen i chi wirio eich hunaniaeth os ydych chi’n:

  • cyfarwyddwr
  • gyfatebol i gyfarwyddwr – mae hyn yn cynnwys aelodau, partneriaid cyffredinol a swyddogion rheoli
  • person â rheolaeth arwyddocaol (PRhA)
  • Darparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig (DGCA) - a elwir hefyd yn asiant awdurdodedig Tŷ’r Cwmnïau
  • rhywun sy’n ffeilio ar gyfer cwmni - er enghraifft, ysgrifennydd cwmni

Yn y rhan fwyaf o achosion, dim ond unwaith y bydd angen i chi wirio eich hunaniaeth. Ni ddylech wirio eto oni bai ein bod yn dweud wrthych.

Pryd y mae angen i chi wirio

Mae hyn yn dibynnu ar eich rôl, a phryd y gwnaethoch ddechrau’r rôl honno.

Darganfyddwch pryd mae angen i chi wirio.

Ffyrdd o wirio eich hunaniaeth

Ar-lein

Gallwch wirio ar-lein os oes gennych y dogfennau adnabod neu’r wybodaeth sy’n ofynnol. Mae’r llwybr hwn yn defnyddio GOV.UK One Login i wirio eich hunaniaeth ac mae’n rhad ac am ddim.

Bydd angen un o’r mathau canlynol o ID gyda llun arnoch:

Bydd GOV.UK One Login yn gofyn rhai cwestiynau syml i chi ddod o hyd i’r ffordd orau i wirio eich hunaniaeth ar-lein. Yn dibynnu ar eich atebion, yna cewch eich arwain i wirio gan ddefnyddio ap ffôn symudol GOV.UK neu yn eich porwr gwe.

Os nad oes gennych unrhyw un o’r mathau hyn o ID ond yn byw yn y Deyrnas Unedig, efallai y gallwch wirio manylion banc neu gymdeithasau adeiladu yn lle hynny. Bydd angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth ‘Gwirio eich hunaniaeth ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau’ i ddarganfod a allwch chi wirio fel hyn.

Mewn person yn Swyddfa’r Post

Os na allwch wirio ar-lein a’ch bod yn byw yn y Deyrnas Unedig, efallai y gallwch wirio eich hunaniaeth mewn person yn Swyddfa’r Post. Bydd angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth Gwirio eich hunaniaeth ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau yn gyntaf i ddarganfod a allwch chi wirio fel hyn. Mae’r llwybr hwn yn defnyddio GOV.UK One Login i wirio eich hunaniaeth ac mae’n rhad ac am ddim.

Darganfyddwch fwy am wirio mewn Swyddfa’r Post , gan gynnwys beth fydd ei angen arnoch.

Defnyddio Darparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig (DGCA)

Gallwch ofyn i Ddarparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig (DGCA) wirio eich hunaniaeth ar eich rhan. Er enghraifft, cyfreithiwr neu gyfrifydd. Gelwir hyn hefyd yn asiant awdurdodedig Tŷ’r Cwmnïau.

Gallwch wneud hyn o unrhyw wlad, ond mae’n rhaid i’ch asiant gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau er mwyn dod yn awdurdodedig. Rhaid iddynt fod wedi cofrestru gyda chorff goruchwylio Atal Gwyngalchu Arian (AML) y Deyrnas Unedig.

Pan fydd asiant wedi cytuno i wirio eich hunaniaeth, bydd angen i chi ddarparu dogfennau o restr gymeradwy fel tystiolaeth o’ch hunaniaeth. Efallai y byddant yn codi ffi am eu gwasanaethau.

Beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n gwirio

Pan fyddwch wedi gwirio’n llwyddiannus, byddwch yn cael cod adnabod unigryw o’r enw cod personol Tŷ’r Cwmnïau. Mae’r cod yn bersonol i chi, nid eich cwmni neu gwmni rydych chi’n gweithio iddo.

O fis Hydref 2025, bydd ei angen arnoch am amryw resymau. Er enghraifft:

Os ydych chi’n gyfarwyddwr neu’n PRhA ar hyn o bryd, bydd angen i chi ddefnyddio cod personol Tŷ’r Cwmnïau i gysylltu eich gwiriad hunaniaeth â’n cofnodion. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol, a bydd yn sicrhau ein bod yn gwybod bod yr hunaniaeth gywir yn gysylltiedig ag unrhyw rolau sydd gennych.

Rhannwch y cod personol gyda phobl rydych chi’n ymddiried ynddynt yn unig

Efallai y bydd angen i chi rannu’r cod hwn gyda phobl rydych chi’n ymddiried ynddynt i ffeilio ar eich rhan, neu i’ch cwmni. Cadwch y wybodaeth hon yn ddiogel, fel y byddech gyda chodau unigryw eraill fel eich Cyfeirnod Unigryw’r Trethdalwr (UTR) ar gyfer CThEF.

Mae gwiriad hunaniaeth yn ei gwneud hi’n llawer anoddach i droseddwyr personadu rhywun, ond nid yn amhosibl.

Sut mae eich gwybodaeth yn cael ei storio a’i defnyddio

I ddarganfod sut mae’ch gwybodaeth yn cael ei storio a’i defnyddio pan fyddwch chi’n gwirio eich hunaniaeth gyda GOV.UK One Login, gwiriwch yr hysbysiad preifatrwydd GOV.UK One Login.

Beth sydd angen i chi ei wneud gyda chod personol Tŷ’r Cwmnïau

Mae hyn yn dibynnu ar eich rôl, a phryd y gwnaethoch ddechrau’r rôl honno.

Os ydych chi’n gyfarwyddwr neu’n PRhA, bydd angen i chi ddefnyddio cod personol Tŷ’r Cwmnïau i gysylltu eich gwiriad hunaniaeth â’n cofnodion ar gyfer pob rôl sydd gennych. Mae hyn yn rhan o’r gofyniad cyfreithiol i wirio eich hunaniaeth ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau.

Cyfarwyddwyr

Os ydych chi’n gyfarwyddwr ar hyn o bryd, o hydref 2025 bydd angen i chi ddarparu’ch cod personol fel rhan o ffeilio datganiad cadarnhau nesaf eich cwmni.

Os byddwch yn dod yn gyfarwyddwr ar ôl hydref 2025, bydd angen i chi ei ddarparu fel rhan o’ch ffeilio penodiad neu pan fyddwch yn ymgorffori cwmni.

Pobl â rheolaeth arwyddocaol (PRhA)

Bydd angen i chi ddarparu eich cod personol i Dŷ’r Cwmnïau ar gyfer eich rôl fel PRhA. Bydd y gofyniad hwn yn dod i rym o hydref 2025 ymlaen.

Byddwn yn diweddaru’r cyfarwyddyd hwn gyda manylion pellach yn fuan.

Darparwyr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig (DGCA)

Gelwir y rhain hefyd yn asiantau awdurdodedig Tŷ’r Cwmnïau. Bydd angen i chi ddarparu eich cod personol i gofrestru fel asiant awdurdodedig.

Beth sy’n digwydd os nad ydych yn gwirio

Ni fyddwch yn gallu:

  • gwneud unrhyw ffeilio
  • dechrau cwmni neu sefydliad newydd
  • cofrestru fel DGCA (a elwir hefyd yn asiant awdurdodedig Tŷ’r Cwmnïau)

Os nad ydych yn cydymffurfio â gofynion gwiriad hunaniaeth ar amser, byddwch yn cyflawni trosedd ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb ariannol neu ddirwy.

Cyfarwyddwyr

Os byddwch yn parhau i weithredu fel cyfarwyddwr heb wirio ar ôl iddo ddod yn ofyniad cyfreithiol, byddwch yn cyflawni trosedd a gallech gael eich anghymwyso. Gall y cwmni (neu’r endid) a’r holl gyfarwyddwyr hefyd fod yn cyflawni trosedd.

Pobl â rheolaeth arwyddocaol (PRhA)

Os ydych chi (neu oeddech chi) yn PRhA heb wirio ar ôl iddo ddod yn ofyniad cyfreithiol, byddwch yn cyflawni trosedd.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 18 Mawrth 2025

Argraffu'r dudalen hon