Carchar Wandsworth
Mae Wandsworth yn garchar i ddynion ym Mwrdeistref Wandsworth yn Llundain, De Orllewin Llundain.
Yn berthnasol i England and Gymru
Bwcio a chynllunio eich ymweliad â Wandsworth
I ymweld â rhywun yn Wandsworth, rhaid i chi:
- bod ar restr ymwelwyr y person hwnnw
- archebu eich ymweliad ymlaen llaw
- bod â’r ID gofynnol gyda chi pan fyddwch yn mynd
Rhaid i o leiaf un ymwelydd fod yn 18 oed neu’n hŷn ar bob ymweliad.
Efallai y bydd cyfyngiadau ar nifer yr ymweliadau y gall person eu cael. Gallwch wirio hyn gyda Wandsworth.
Cysylltwch â Wandsworth os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ymweld.
Help gyda chost eich ymweliad
Os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu os oes gennych dystysgrif iechyd y GIG, efallai y gallwch gael cymorth gyda chostau eich ymweliad, gan gynnwys:
- teithio i Wandsworth
- rhywle i aros dros nos
- prydau bwyd
Sut i drefnu ymweliadau teulu a ffrindiau
Gallwch drefnu eich ymweliad ar-lein neu dros y ffôn.
Llinell archebu ymweliadau: 0300 060 6509
Mae’r llinell archebu ar agor o:
- ddydd Llun, ddydd Mercher a ddydd Gwener: canolddydd i 5pm
- ddydd Mawrth a dyddd Iau: 9am i 5pm
Ymwelwyr sydd angen cymorth symudedd ychwanegol, rhowch wybod i ni wrth drefnu eich ymweliad.
Amseroedd ymweld
- Dydd Llun i ddydd Iau: 10:30am i 11:30am, 1:30pm i 2:30pm a 3:30pm to 4:30pm
- Dydd Gwener: dim ymweliadau
- Dydd Sadwrn a Dydd Sul: 9am i 10am, 10:30am i 11:30am, 1:30pm i 2:30pm, 3:30pm i 4:30pm
Ar gael i bob carcharor, uchafswm o 3 oedolyn a 3 phlentyn i bob ymweliad.
Sut i drefnu ymweliadau cyfreithiol a phroffesiynol
Ymweliadau cyfreithiol wyneb yn wyneb CEF Wandsworth
I drefnu ymweliad cyfreithiol wyneb yn wyneb, anfonwch e-bost at LegalvisitsWandsworth@justice.gov.uk
Rhaid trefnu unrhyw ymweliad o leiaf 3 diwrnod ymlaen llaw.
Ni allwn drefnu fwy na phythefnos ymlaen llaw.
Mae ymweliadau cyfreithiol o ddydd Llun i ddydd Iau:
- 8:30am i 9:30am
- 10:30am i 11:30am
- 1:30pm i 2:30pm
- 3:30pm i 4:30pm
Rhith-ymweliadau CEF Wandsworth. (Cyswllt Fideo):
- O ddydd Llun i ddydd Gwener: 9am i 12pm a 2pm i 5pm
Mae pob sesiwn yn para awr fel arfer.
I archebu ymweliad cyfreithiol cyswllt fideo, cysylltwch â VCCWandsworth@justice.gov.uk
Fe’ch cynghorir i roi cymaint o rybudd â phosibl ymlaen llaw ar gyfer pob cais.
Mynd i Wandsworth
Y gorsafoedd rheilffordd agosaf i Wandsworth yw Wandsworth Town, Wandsworth Common a Earlsfield, sydd i gyd tua milltir i ffwrdd. Mae gorsaf Clapham Junction ychydig dros filltir i ffwrdd. Mae llwybrau bysiau lleol 77 a 219 yn dod yn agos i’r sefydliad o Orsaf Clapham Junction. Os ydych chi’n teithio ar y 77, mae’n rhaid i chi adael yn Heathfield Road ac os ydych chi’n teithio ar y 219, mae angen i chi adael yn County Arms.
I gynllunio eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus:
- defnyddiwch cynllunydd siwrnai Transport for London
- defnyddiwch National Rail Enquiries
Os ydych chi’n dod mewn car, defnyddiwch y cod post SW18 3HU ar gyfer llywio â lloeren.
Bydd angen i chi ddod o hyd i le parcio y tu allan i’r carchar. Nid oes lle i ymwelwyr barcio yn y carchar ac mae’r rhan fwyaf o’r ffyrdd lleol wedi’u cyfyngu i ddeiliaid trwyddedau.
Cyrraedd Wandsworth
Ar eich ymweliad cyntaf â Wandsworth, bydd eich olion bysedd yn cael eu cymryd ar gyfer y system ddiogelwch. Bydd y rhain yn cael eu defnyddio i gadarnhau pwy ydych chi ar ymweliadau yn y dyfodol.
Bydd angen i chi ddod ag ID i bob ymweliad hefyd.
Rhaid i bob ymwelydd, sy’n 16 oed neu’n hŷn, brofi pwy ydyw cyn mynd i’r carchar. Darllenwch y rhestr o fathau derbyniol o ID wrth ymweld â charchar.
Bydd angen i bob ymwelydd gael chwiliad ‘patio i lawr’, gan gynnwys plant. Efallai y cewch eich arogli gan gŵn diogelwch hefyd.
Mae gan Wandsworth god gwisg sy’n addas i deuluoedd, sy’n golygu y dylai ymwelwyr wisgo’n briodol. Efallai y cewch eich troi i ffwrdd os ydych chi’n gwisgo eitemau fel festiau, topiau isel, trowsus neu ffrogiau byr neu jîns wedi’u rhwygo. Hefyd, ni allwch wisgo unrhyw beth sydd â phatrymau neu sloganau sarhaus. Bydd angen i chi dynnu sgarffiau, menig, oriorau, sbectolau haul a hetiau (ac eithrio gorchuddion pen crefyddol) cyn mynd i mewn. Holwch yn y ganolfan ymwelwyr os oes gennych gwestiynau am y cod gwisg.
Mae rheolaethau llym ar yr hyn y gallwch ddod i mewn i Wandsworth. Bydd yn rhaid i chi adael y rhan fwyaf o’r pethau sydd gennych gyda chi mewn locer neu gyda swyddogion diogelwch. Mae hyn yn cynnwys pramiau a seddi ceir.
Bydd swyddog yn dweud wrthych beth yw’r rheolau ar ddechrau eich ymweliad. Os byddwch yn torri’r rheolau, gallai eich ymweliad gael ei ganslo a gallech gael eich gwahardd rhag ymweld eto.
Cyfleusterau ymweld
Mae canolfan ymwelwyr yn cael ei rhedeg gan elusen Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal Carchardai (PACT). Gall teulu a ffrindiau ymlacio, prynu lluniaeth a chael cyngor a chefnogaeth gan y staff.
E-bost: wandsworth@prisonadvice.org.uk
Ffôn: 020 8874 4377
Gwybodaeth am gost galwadau
Mae loceri yn y ganolfan ymwelwyr i storio eich eiddo. Bydd angen darn £1 arnoch ar gyfer hyn.
Diwrnodau teulu
Mae Wandsworth yn cynnal diwrnodau teulu misol sy’n rhoi mwy o amser i garcharorion dreulio gyda’u plant mewn lleoliad mwy hamddenol.
Maent hefyd yn cynnal Clwb Gwaith Cartref misol ar gyfer carcharorion i helpu eu plant gyda’u gwaith cartref.
Gall carcharorion wneud cais am yr ymweliadau hyn.
Cadw mewn cysylltiad â rhywun yn Wandsworth
Mae sawl ffordd y gallwch gadw mewn cysylltiad â rhywun yn ystod eu hamser y Wandsworth.
Gall carcharorion wneud cais am yr ymweliadau hyn.
Galwadau fideo diogel
I gael galwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn, mae angen i chi wneud y canlynol:
- Lawrlwytho ap Prison Video
- Creu cyfrif
- Cofrestru pob ymwelydd
- Ychwanegu’r carcharor at eich rhestr cysylltiadau.
Sut i drefnu galwad fideo ddiogel
Gallwch ofyn am alwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn drwy ap Prison Video.
Byddwch yn cael hysbysiad pan fydd eich cais wedi cael ei dderbyn.
Rhagor o wybodaeth am sut mae’n gweithio
Galwadau ffôn
Mae gan garcharorion ffonau yn eu celloedd ac maent yn gallu gwneud galwadau allan o’r carchar. Rhaid iddynt brynu credydau ffôn i wneud hyn.
Nid yw ffonau’n derbyn galwadau sy’n dod i mewn, felly bydd yn rhaid iddynt eich ffonio chi bob amser.
Gallant ffonio unrhyw un a enwir ar eu rhestr o ffrindiau a theulu. Caiff y rhestr hon ei gwirio gan y staff diogelwch pan fyddant yn cyrraedd am y tro cyntaf, felly gall gymryd ychydig ddyddiau cyn y gallant ffonio.
Gallwch hefyd gyfnewid negeseuon llais gan ddefnyddio gwasanaeth negeseuon llais y carchar.
Gall swyddogion wrando ar alwadau ffôn fel ffordd o atal troseddu a helpu i gadw pobl yn ddiogel.
E-bost
Gallwch anfon negeseuon e-bost at rywun yn Wandsworth drwy ddefnyddio’r gwasanaeth E-bostio Carcharor.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu atodi lluniau a derbyn ymatebion gan y carcharor, yn dibynnu ar y rheolau yn Wandsworth.
Llythyrau
Gallwch ysgrifennu ar unrhyw adeg.
Dylech gynnwys enw a rhif y carcharor ar yr amlen.
Os nad ydych chi’n gwybod eu rhif carcharor, cysylltwch â Wandsworth.
Bydd pob llythyr yn y post, ar wahân i lythyrau cyfreithiol, yn cael eu hagor a’i gwirio gan swyddogion.
Anfon arian a rhoddion
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein cyflym ac am ddim i anfon arian at rywun yn y carchar.
Ni allwch bellach anfon arian drwy drosglwyddiad banc, siec, archeb bost nac anfon arian parod drwy’r post.
Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, efallai y gallwch wneud cais am eithriad - er enghraifft:
- os nad ydych yn gallu defnyddio cyfrifiadur, ffôn clyfar na’r rhyngrwyd
- os nad oes gennych chi gerdyn debyd
Bydd hyn yn caniatáu i chi anfon arian drwy’r post.
Rhoddion a pharseli
Gall ffrindiau a theulu adael llyfrau, sanau a dillad isaf ar gyfer carcharorion yn Wandsworth pryd bynnag y bydd y ganolfan ymwelwyr ar agor. Dylid gadael y rhain yn y blwch gadael eiddo yn y ganolfan ymwelwyr.
Rhaid i garcharorion wneud cais am ganiatâd i dderbyn unrhyw eitemau eraill. Gallan nhw wneud hyn drwy ddefnyddio ciosg.
Rhoddir rhestr iddynt o eitemau cymeradwy y gellir eu trosglwyddo a gallant dderbyn un parsel yn ystod y 28 diwrnod cyntaf yn y ddalfa. Ar ôl hynny, byddant fel arfer yn cael un parsel y flwyddyn os ydynt o dan 50 neu un parsel bob chwe mis os ydynt yn 50 oed neu’n hŷn.
Dylid rhoi parseli yn y garej eiddo wrth ymyl y ganolfan ymwelwyr. Oriau agor y garej eiddo yw:
- Dydd Mawrth: 8:30am i 11:45am, 1:30pm i 3:45pm
- Dydd Iau: 8:30am i 11:45am, 1:30pm i 3:45pm
- Dydd Sadwrn: 9am i 11:45am
Cofiwch gynnwys enw a rhif y carcharor ar y parsel.
Caniateir i ffrindiau a theuluoedd carcharorion anfon llyfrau’n uniongyrchol at eu hanwyliaid, neu gallant archebu llyfrau gan fanwerthwyr cymeradwy, sy’n gallu dod o hyd i’r llyfrau a’u hanfon ymlaen at garcharorion. I weld y rhestr lawn o fanwerthwyr cymeradwy, gallwch ddarllen Polisi Cymhellion Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF, Atodiad F.
Bydd pob parsel yn cael ei agor a’i wirio gan swyddogion.
Cysylltwch â Wandsworth neu gofynnwch yn y ganolfan ymwelwyr am ragor o wybodaeth.
Bywyd yn Wandsworth
Mae Wandsworth wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel ac addysgol lle gall carcharorion ddysgu sgiliau newydd i’w helpu ar ôl cael eu rhyddhau.
Diogelwch a diogelu
Mae gan bob person yn Wandsworth hawl i deimlo’n ddiogel. Mae’r staff yn gyfrifol am eu diogelwch a’u lles bob amser.
I gael rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud pan fyddwch chi’n poeni neu’n pryderu am rywun yn y carchar, ewch i wefan llinell gymorth Teuluoedd Carcharorion.
Mae’r Samariaid hefyd yn hyfforddi carcharorion i fod yn ‘wrandawyr’ i helpu i gefnogi carcharorion eraill sy’n mynd drwy gyfnodau anodd.
Cyrraedd a’r noson gyntaf
Pan fydd rhywun yn cyrraedd Wandsworth am y tro cyntaf, bydd yn gallu cysylltu ag aelod o’r teulu dros y ffôn. Gallai hyn fod yn eithaf hwyr gyda’r nos, yn dibynnu ar yr amser maen nhw’n cyrraedd.
Byddan nhw’n cael siarad â rhywun a fydd yn gweld sut maen nhw’n teimlo ac yn gofyn am unrhyw anghenion iechyd a llesiant sydd ganddyn nhw bryd hynny.
Cynefino
Bydd pawb sy’n cyrraedd Wandsworth yn cael sesiwn gynefino sy’n para tua wythnos. Byddant yn cwrdd â gweithwyr proffesiynol a fydd yn eu helpu gyda’r canlynol:
- iechyd a lles, gan gynnwys iechyd meddwl a rhywiol
- unrhyw broblemau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys cyffuriau ac alcohol
- datblygiad personol yn y ddalfa ac ar ôl rhyddhau, gan gynnwys sgiliau, addysg a hyfforddiant
- mathau eraill o gymorth (a elwir weithiau’n ‘ymyriadau’), fel rheoli emosiynau anodd
Mae pawb hefyd yn cael gwybod am y rheolau, diogelwch tân, a sut mae pethau fel galwadau ac ymweliadau yn gweithio.
Llety
Mae tua 1600 o garcharorion yn cael llety yn Wandsworth ar draws 5 adain. Y rhain yw A, B, C, D ac E. Mae cymysgedd o gelloedd sengl a rhai a rennir. Mae gan bob adain ei chawodydd a’i ffreutur ei hun.
Mae adeiladau eraill yn cynnwys y neuaddau ymweld, campfeydd, neuadd chwaraeon, llyfrgell, ystafelloedd dosbarth a gweithdai.
Mae gan Wandsworth hefyd dîm caplaniaeth aml-ffydd amrywiol sy’n darparu cymorth i garcharorion.
Addysg a gwaith
Gall carcharorion ddewis o ystod eang o gyfleoedd dysgu, gan gynnwys:
- Saesneg
- Mathemateg
- technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (ICT)
- Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill (ESOL)
- torri gwallt
- arlwyo
- trwsio beiciau
- garddio a garddwriaeth
- sgiliau adeiladu
- cynyrchiadau radio
Mae cyfleoedd eraill yn cynnwys:
- gwasanaeth cyfeillio a chefnogi ar gyfer gwladolion tramor
- gwersi a gweithdy brodwaith
- Côr Liberty
- ioga
- sgiliau rhianta
- sgiliau cyflogadwyedd
- cerddor preswyl
- ymwybyddiaeth ofalgar
Mae gwaith ar gael drwy’r carchar hefyd.
Sefydliadau y mae Wandsworth yn gweithio gyda nhw
Mae Shannon Trust yn helpu carcharorion gyda’u sgiliau darllen ac yn hyfforddi carcharorion i fod yn fentoriaid cymheiriaid.
Mae Ymddiriedolaeth St Giles yn hyfforddi carcharorion i roi cyngor i gyd-garcharorion am fywyd yn y carchar a pharatoi ar gyfer eu rhyddhau.
Mae StandOut yn helpu carcharorion gyda’u sgiliau cyflogadwyedd, CVs a llythyrau datgelu ac mae’n gweithio i greu cyfleoedd cyflogaeth iddyn nhw wrth iddyn nhw nesáu at gael eu rhyddhau.
Mae Strive Training yn cynnal gweithdai ar sgiliau cyflogadwyedd a sgiliau rhianta.
Mae Trailblazers Mentoring yn paru carcharorion ifanc ar ddiwedd eu dedfryd â mentoriaid gwirfoddol i’w helpu drwy eu rhyddhau ac yn ôl yn y gymuned.
Mae Forward Trust yn cefnogi carcharorion sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau a dibyniaeth.
Cefnogaeth i deulu a ffrindiau
Cael gwybod am gyngor a llinellau cymorth ar gyfer teulu a ffrindiau.
Cefnogaeth yn Wandsworth
Mae’r tîm Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal (PACT) yn darparu amrywiaeth o wybodaeth, arweiniad a chefnogaeth i deuluoedd a ffrindiau carcharorion. Gallwch ffonio neu ofyn yn y ganolfan ymwelwyr i gael siarad â rhywun.
Pryderon, problemau a chwynion
Mewn argyfwng
Ffoniwch 0208 588 4000 os ydych chi’n meddwl bod carcharor mewn perygl uniongyrchol o niwed. Gofynnwch am y Swyddog Dydd ac egluro bod eich pryder yn un brys.
Categori cyswllt | Rhif ffôn | Gwybodaeth ychwanegol |
---|---|---|
Dim brys | 0208 588 4593 | Ffoniwch y rhif hwn os oes gennych chi bryderon difrifol am ddiogelwch neu lesiant carcharor ond nad yw’r pryderon yn peryglu bywyd, neu gallwch lenwi ffurflen gyswllt dalfa fwy diogel ar wefan Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion. |
Pryderon iechyd | 0117 240 1193 | Os ydych chi’n poeni am iechyd rhywun yn CEF Wandsworth, ffoniwch y Llinell Gyswllt a Gwybodaeth am Iechyd Carcharorion (PHILL) i siarad â’r tîm iechyd yn gyfrinachol. |
Llinell Gymorth Gonestrwydd Staff | 0800 917 6877 (peiriant ateb 24 awr) |
Gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw. Os ydych chi’n poeni bod carcharor yn cael ei fwlio gan aelod o staff, gallwch ddefnyddio’r rhif hwn. Gan fod y llinell hon yn cael ei rheoli ar wahân i’r carchar, gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw. |
Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion | 0808 808 2003 | Gall y Llinell Gymorth i Deuluoedd Carcharorion ddarparu cymorth, cyngor ac arweiniad cyfrinachol. |
Cyswllt Digroeso gan Garcharor | 0300 060 6699 | Os yw carcharor yn cysylltu â chi a’ch bod am iddo roi’r gorau i wneud hyn, gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Cyswllt Digroeso gan Garcharor. Gallwch lenwi’r ffurflen ar-lein ar gyfer atal cyswllt gan garcharor, anfon e-bost at unwantedprisonercontact@justice.gov.uk neu gysylltu dros y ffôn. |
Problemau a chwynion
Os oes gennych chi broblem arall, cysylltwch â Wandsworth.
Adroddiadau arolygu
Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn cyhoeddi cynlluniau gweithredu ar gyfer xPRISONx mewn ymateb i arolygiadau annibynnol.
Cysylltu â Wandsworth
Llywodraethwr: Katie Price
Ffôn (24 awr): 020 8588 4000
Gwybodaeth am gost galwadau
Cyfeiriad
HMP Wandsworth
PO Box 757
Heathfield Road
Wandsworth
London
SW18 3HS
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 August 2024 + show all updates
-
Added translation
-
Added translation
-
Opening hours updated for visits booking telephone line.
-
Updated safer custody contact numbers and information.
-
Wandsworth prison will are now offering additional visiting time slots on weekends.
-
Secure video calls update.
-
Updated visiting information
-
Updated visiting guidance based on 1 April COVID rule changes
-
Added link to new safer custody information under Security and safeguarding.
-
Updated visiting information: Reduced visit schedule and testing for visitors aged 12 and over.
-
Updated visiting information: Testing for visitors aged 12 and over.
-
Updated visits booking line number
-
Added link to information about testing for physical contact at visits.
-
Updated visiting and booking information added.
-
Prison moved into National Stage 3 framework and is now preparing to open visits for family, friends and significant others. We will update this page with specific visiting information as soon as possible.
-
Visits update
-
Updated visiting information in line with new local restriction tiers.
-
Updated visiting information in line with new local restriction tiers.
-
Updated visiting information in line with new national restrictions in England.
-
Updated video call info
-
Updated: HMP Wandsworth visiting times and visiting procedure changes during coronavirus.
-
First published.