Canllawiau

Carchar Wormwood Scrubs

Mae Wormwood Scrubs yn garchar i ddynion ym Mwrdeistref Hammersmith a Fulham, Gorllewin Llundain.

Yn berthnasol i England and Gymru

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Bwcio a chynllunio eich ymweliad â charchar Wormwood Scrubs

I ymweld â rhywun yn Wormwood Scrubs, rhaid i chi:

  • bod ar restr ymwelwyr y person hwnnw
  • bwcio eich ymweliad o leiaf 2 ddiwrnod ymlaen llaw
  • bod â’r ID gofynnol gyda chi pan fyddwch yn mynd

Rhaid i o leiaf un ymwelydd fod yn 18 oed neu’n hŷn ar bob ymweliad.

Efallai y bydd cyfyngiadau ar nifer yr ymweliadau y gall person eu cael. Gallwch wirio hyn gyda Wormwood Scrubs.

Cysylltwch â Wormwood Scrubs os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ymweld.

Help gyda chost eich ymweliad

Os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu os oes gennych dystysgrif iechyd y GIG, efallai y gallwch gael cymorth gyda chostau eich ymweliad, gan gynnwys:

  • teithio i Wormwood Scrubs
  • rhywle i aros dros nos
  • prydau bwyd

Sut i drefnu ymweliadau teulu a ffrindiau

Gallwch drefnu eich ymweliad ar-lein neu dros y ffôn.

Archebu dros y ffôn a llinell wybodaeth: 0300 060 6511
Dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 6pm

Gwybodaeth am gost galwadau

Amseroedd ymweld

Ni fydd ymwelwyr sy’n cyrraedd mwy na hanner awr yn hwyr yn cael eu derbyn.

Dyddiau’r wythnos:

  • Dydd Llun: Adain A 9am i 11am a 2pm i 4pm
  • Dydd Mawrth: Adain B 9am i 11am
  • Dydd Mercher: Adain C 9am i 11am a 2pm i 4pm
  • Dydd Iau: Adain D9am i 11am a 2pm i 4pm
  • Dydd Gwener: Adain E 9am i 11am

Penwythnosau:

Ymweliadau adain A a B ar y dyddiadau canlynol (Dyddiau Sadwrn yn unig):

  • Awst: 10 a 24
  • Medi: 7 a 21

Ymweliadau adain D ac E ar y dyddiadau canlynol (Dyddiau Sadwrn yn unig):

  • Awst: 3, 17 a 31
  • Medi: 14, 21 a 28

Adain C Sesiynau diwrnod datblygiad teuluol:

  • Awst: 4, 18
  • Medi: 1

Sesiynau diwrnod datblygiad teuluol ar y dyddiadau canlynol : 2pm i 4pm

  • Awst: sesiynau prynhawn 7, 14 a 21
  • Medi: Dyddiau Sul yn unig - 2pm to 4pm

Diwrnodau Ymweliadau Plant yn ystod yr Haf:

  • Awst: 7 a 14, 2pm to 4pm (Thema Olympaidd)
  • Awst: 21, 2pm to 4pm (Thema carnifal)

Os oes gennych chi unrhyw broblemau yn ymwneud â’ch ymweliad, anfonwch e-bost at Visitbooking.wormwoodscrubs@justice.gov.uk

Mae’r cyfeiriad e-bost hwn ar gyfer materion ac ymholiadau, a’n nod yw ymateb i chi o fewn 3 diwrnod gwaith.

Sut i drefnu ymweliadau cyfreithiol a phroffesiynol

Gellir cynnal ymweliadau cyfreithiol wrth fwrdd agored neu mewn bwth caeedig, wyneb yn wyneb neu drwy gyswllt fideo.

Wyneb yn Wyneb

  • O ddydd Llun i ddydd Gwener: 9am i 9:55am, 10:05am i 11am, 2pm i 2:55pm a 3:05pm i 4pm

Bwcio drwy e-bost: hmppsvisitbooking@justice.gov.uk

Bwcio dros y ffôn: 0300 060 6511

Gellir trefnu sesiynau dwbl os hoffech ddefnyddio slotiau 2 awr, ond gofynnwn i chi drefnu sesiwn ddwbl dim ond os oes angen.

Cyswllt Fideo

  • O ddydd Llun i ddydd Gwener: (Sesiynau 1 awr) 9am i 10am, 10am i 11am, 2pm i 3pm neu 3pm i 4pm

Sesiwn 2 awr:

  • 9am to 11am
  • 2pm to 4pm

Bwcio drwy e-bost: videolinkbooking.hmpps@justice.gov.uk

Bwcio dros y ffôn: 0300 060 6511

Mae angen rhoi 2 ddiwrnod gwaith o rybudd cyn gwneud unrhyw archebion neu newidiadau.

Mynd i Wormwood Scrubs

Canfod Wormwood Scrubs ar fap

Mae Wormwood Scrubs yn 10 munud ar droed o orsaf danddaearol East Acton. Yr orsaf drenau agosaf yw London Paddington. Mae sawl llwybr bysiau lleol yn pasio’r carchar.

I gynllunio eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus:

Os byddwch yn dod mewn car, gallwch barcio y tu allan i’r carchar. Bydd angen i chi dalu ac arddangos ar adegau penodol yn ystod yr wythnos. Edrychwch ar yr amseroedd a’r prisiau ar wefan Bwrdeistref Hammersmith a Fulham.

Does dim llefydd parcio i ymwelwyr yn y carchar.

Cyrraedd Wormwood Scrubs

Rhaid i bob ymwelydd, sy’n 16 oed neu’n hŷn, brofi pwy ydyw cyn mynd i’r carchar. Darllenwch y rhestr o fathau derbyniol o ID wrth ymweld â charchar.

Bydd angen i bob ymwelydd gael chwiliad ‘patio i lawr’, gan gynnwys plant. Efallai y cewch eich arogli gan gŵn diogelwch hefyd.

Mae gan Wormwood Scrubs ofynion o ran dillad y mae’n rhaid glynu wrthynt am resymau diogelwch. Mae’r rhain wedi cael eu diweddaru’n ddiweddar:

  • Dim dillad wedi’u difrodi (ni waeth beth yw’r dyluniad)
  • Dim dillad sy’n dangos cnawd
  • Rhaid i sgertiau a throwsusau bach fod yn hirach na chanol y glun
  • Dim bol noeth
  • Dim dillad isaf yn weledol
  • Ni chaiff rhigol y bronnau fod yn rhy weladwy
  • Dim dillad gyda phocedi cudd
  • Dim dillad cwflog

Nid oes lluniaeth ar gael i’w brynu yn y neuadd ymweliadau ar hyn o bryd.

Mae rheolaethau llym ar yr hyn y gallwch ddod i mewn i Wormwood Scrubs. Bydd yn rhaid i chi adael y rhan fwyaf o’r pethau sydd gennych gyda chi mewn locer neu gyda swyddogion diogelwch, gan gynnwys pramiau a seddi car. Bydd angen darn £1 arnoch ar gyfer y locer.

Bydd swyddog yn dweud wrthych beth yw’r rheolau ar ddechrau eich ymweliad. Os byddwch yn torri’r rheolau, gallai eich ymweliad gael ei ganslo a gallech gael eich gwahardd rhag ymweld eto.

Cyfleusterau ymweld

Mae canolfan ymwelwyr yn cael ei rhedeg gan elusen Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal Carchardai (PACT).

Mae’r ganolfan ar agor:

  • O ddydd Llun i ddydd Iau rhwng 8am a 5pm
  • Dydd Gwener: 8am - 1pm
  • rhwng 8am ac 5pm ar ddydd Sadwrn
  • Dydd Sul: 1pm - 5pm

E-bost: wormwoodscrubs@prisonadvice.org.uk
Ffôn: 020 8735 0595
Gwybodaeth am gost galwadau

Sesiynau Datblygu Teuluoedd

Cynhelir Sesiwn Datblygu Teuluoedd bob yn ail brynhawn Sul fesul adain. Gall y sesiwn hon gynnwys diwrnodau teulu, ymweliadau gan blant, clybiau gwaith cartref a chynlluniau eraill.

Cadw mewn cysylltiad â rhywun yn Wormwood Scrubs

Mae sawl ffordd y gallwch gadw mewn cysylltiad â rhywun yn ystod eu hamser yn Wormwood Scrubs.

Galwadau fideo diogel

I gael galwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn, mae angen i chi wneud y canlynol:

  • Lawrlwytho ap Prison Video
  • Creu cyfrif
  • Cofrestru pob ymwelydd
  • Ychwanegu’r carcharor at eich rhestr cysylltiadau.

Sut i drefnu galwad fideo ddiogel

Dim ond carcharorion all wneud cais am alwadau fideo diogel yn y carchar hwn.

Byddwch yn cael hysbysiad os bydd carcharor wedi gofyn am alwad fideo gyda chi.

Rhagor o wybodaeth am sut mae’n gweithio

Galwadau ffôn

Mae gan garcharorion fynediad at ffonau yn y gell a ffonau pen grisiau ar gyfer gwneud galwadau allan i rifau ffôn sydd wedi’u cymeradwyo ymlaen llaw yn unig.

Gallant ffonio unrhyw un a enwir ar eu rhestr o ffrindiau a theulu. Caiff y rhestr hon ei gwirio gan y staff diogelwch pan fyddant yn cyrraedd am y tro cyntaf, felly gall gymryd ychydig ddyddiau cyn y gallant ffonio.

Gallwch hefyd gyfnewid negeseuon llais gan ddefnyddio gwasanaeth negeseuon llais y carchar.

Gall swyddogion wrando ar alwadau ffôn fel ffordd o atal troseddu a helpu i gadw pobl yn ddiogel.

E-bost

Gallwch anfon negeseuon e-bost at rywun yn Womwood Scrubs drwy ddefnyddio’r gwasanaeth E-bostio Carcharor.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu atodi lluniau a derbyn ymatebion gan y carcharor, yn dibynnu ar y rheolau yn Womwood Scrubs.

Llythyrau

Gallwch ysgrifennu ar unrhyw adeg.

Dylech gynnwys enw a rhif y carcharor ar yr amlen.

Os nad ydych chi’n gwybod eu rhif carcharor, cysylltwch â Wormwood Scrubs.

Bydd pob llythyr yn y post, ar wahân i lythyrau cyfreithiol, yn cael eu hagor a’i gwirio gan swyddogion.

Anfon arian a rhoddion

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein cyflym ac am ddim i anfon arian at rywun yn y carchar.

Ni allwch bellach anfon arian drwy drosglwyddiad banc, siec, archeb bost nac anfon arian parod drwy’r post.

Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, efallai y gallwch wneud cais am eithriad - er enghraifft:

  • os nad ydych yn gallu defnyddio cyfrifiadur, ffôn clyfar na’r rhyngrwyd
  • os nad oes gennych chi gerdyn debyd

Bydd hyn yn caniatáu i chi anfon arian drwy’r post.

Rhoddion a pharseli

Mae carcharorion yn cael rhestr o eitemau cymeradwy y gellir eu hanfon atynt fel rhoddion. Cysylltwch â Wormwood Scrubs i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n cael ei ganiatáu.

Cynghorir teulu a ffrindiau’n gryf i ddefnyddio Parcelforce i anfon parseli i garcharorion er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu danfon yn llwyddiannus. Mae Parcelforce yn gallu cydymffurfio’n ddibynadwy â gofynion diogelwch lleol y carchar ar gyfer derbyn parseli. Er y gellir defnyddio cludwyr eraill, os na allant gydymffurfio â gofynion y carchar, gall hyn arwain at oedi neu ddychwelyd parseli.

Cofiwch gynnwys enw a rhif y carcharor ar y parsel.

Bydd pob parsel yn cael ei agor a’i wirio gan swyddogion.

Caniateir i ffrindiau a theuluoedd carcharorion anfon llyfrau’n uniongyrchol at eu hanwyliaid, neu gallant archebu llyfrau gan fanwerthwyr cymeradwy, sy’n gallu dod o hyd i’r llyfrau a’u hanfon ymlaen at garcharorion.   I weld y rhestr lawn o fanwerthwyr cymeradwy, gallwch ddarllen Polisi Cymhellion Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF, Atodiad F.

Bywyd yn Wormwood Scrubs

Wormwood Scrubs wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel ac addysgol lle gall carcharorion ddysgu sgiliau newydd i’w helpu ar ôl cael eu rhyddhau.

Diogelwch a diogelu

Mae gan bob person yn Wormwood Scrubs hawl i deimlo’n ddiogel. Mae’r staff yn gyfrifol am eu diogelwch a’u lles bob amser.

I gael rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud pan fyddwch chi’n poeni neu’n pryderu am rywun yn y carchar, ewch i wefan llinell gymorth Teuluoedd Carcharorion.

Cyrraedd a’r noson gyntaf

Pan fydd rhywun yn cyrraedd Wormwood Scrubs am y tro cyntaf, bydd yn gallu cysylltu ag aelod o’r teulu dros y ffôn. Gallai hyn fod yn eithaf hwyr gyda’r nos, yn dibynnu ar yr amser maen nhw’n cyrraedd.

Byddan nhw’n cael siarad â rhywun yn y carchar a fydd yn gweld sut maen nhw’n teimlo ac yn gofyn am unrhyw anghenion iechyd a llesiant sydd ganddyn nhw bryd hynny.

Cynefino

Bydd pawb sy’n cyrraedd Wormwood Scrubs yn cael sesiwn gynefino sy’n para tua wythnos. Byddant yn cwrdd â gweithwyr proffesiynol a fydd yn eu helpu gyda’r canlynol:

  • iechyd a lles, gan gynnwys iechyd meddwl a rhywiol
  • unrhyw broblemau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys cyffuriau ac alcohol
  • datblygiad personol yn y ddalfa ac ar ôl rhyddhau, gan gynnwys sgiliau, addysg a hyfforddiant
  • mathau eraill o gymorth (a elwir weithiau’n ‘ymyriadau’), fel rheoli emosiynau anodd

Mae pawb hefyd yn cael gwybod am y rheolau, diogelwch tân, a sut mae pethau fel galwadau ac ymweliadau yn gweithio.

Llety

Mae tua 1,200 o garcharorion yn Wormwood Scrubs mewn cymysgedd o gelloedd sengl a rhai a rennir. Mae 5 prif adain (A i E) ynghyd â nifer o unedau arbenigol llai.

Mae’r cyfleusterau’n cynnwys ystafelloedd llyfrau ar bob adain a champfa gyda’r holl offer angenrheidiol.

Mae gan Wormwood Scrubs dîm caplaniaeth aml-ffydd amrywiol sy’n darparu cymorth i garcharorion.

Addysg a gwaith

Gall carcharorion ddewis o ystod eang o gyfleoedd dysgu, gan gynnwys:

  • Saesneg
  • Mathemateg
  • technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (ICT)
  • Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill (ESOL)
  • arlwyo
  • gwasanaeth i gwsmeriaid
  • torri gwallt
  • gosod cledrau

Mae nifer o weithdai contract yn Wormwood Scrubs lle gall carcharorion ennill profiad gwaith a chymwysterau, gan gynnwys glanhau diwydiannol, golchi dillad a thecstilau.

Cefnogaeth i deulu a ffrindiau

Pwynt cyswllt ar gyfer teuluoedd a phobl eraill o bwys: SocialVisits.WormwoodScrubs@justice.gov.uk.

Cael gwybod am gyngor a llinellau cymorth ar gyfer teulu a ffrindiau.

Pryderon, problemau a chwynion

Mewn argyfwng

Ffoniwch 020 8588 3200 os ydych chi’n meddwl bod carcharor mewn perygl uniongyrchol o niwed. Gofynnwch am y Swyddog Dydd ac egluro bod eich pryder yn un brys.

Categori cyswllt Rhif ffôn Gwybodaeth ychwanegol
Dim brys 0208 588 3216 Ffoniwch y rhif hwn os oes gennych chi bryderon difrifol am ddiogelwch neu lesiant carcharor ond nad yw’r pryderon yn peryglu bywyd, neu gallwch lenwi ffurflen gyswllt dalfa fwy diogel ar wefan Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion.
Pryderon iechyd 0117 240 1193 Os ydych chi’n poeni am iechyd rhywun yn CEF Wormwood Scrubs, ffoniwch y Llinell Gyswllt a Gwybodaeth am Iechyd Carcharorion (PHILL) i siarad â’r tîm iechyd yn gyfrinachol.
Llinell Gymorth Gonestrwydd Staff 0800 917 6877
(peiriant ateb 24 awr)
Gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw. Os ydych chi’n poeni bod carcharor yn cael ei fwlio gan aelod o staff, gallwch ddefnyddio’r rhif hwn. Gan fod y llinell hon yn cael ei rheoli ar wahân i’r carchar, gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw.
Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion 0808 808 2003 Gall y Llinell Gymorth i Deuluoedd Carcharorion ddarparu cymorth, cyngor ac arweiniad cyfrinachol.
Cyswllt Digroeso gan Garcharor 0300 060 6699 Os yw carcharor yn cysylltu â chi a’ch bod am iddo roi’r gorau i wneud hyn, gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Cyswllt Digroeso gan Garcharor.

Gallwch lenwi’r ffurflen ar-lein ar gyfer atal cyswllt gan garcharor, anfon e-bost at unwantedprisonercontact@justice.gov.uk neu gysylltu dros y ffôn.

Problemau a chwynion

Os oes gennych chi broblem arall, cysylltwch â Wormwood Scrubs.

Adroddiadau arolygu

Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn cyhoeddi cynlluniau gweithredu ar gyfer Wormwood Scrubs mewn ymateb i arolygiadau annibynnol.

Cysylltu â Wormwood Scrubs

Llywodraethwr: Amy Frost

Ffôn: 020 8588 3200
Ffacs: 020 8588 3201
Gwybodaeth am gost galwadau

Cyfeiriad

HMP Wormwood Scrubs
PO Box 757
Du Cane Road
London
W12 0AE

Gweler y map

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 2 June 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 August 2024 + show all updates
  1. Added translation

  2. Updated weekend visiting times running from Nov to Feb.

  3. Weekend visits calrified with new date from Nov to Feb.

  4. Update to the out of hours safer custody phone number.

  5. Secure video calls update.

  6. Updated visiting information

  7. Updated visiting guidance based on 1 April COVID rule changes

  8. Added link to new safer custody information under Security and safeguarding.

  9. Updated visiting information: Reduced visit schedule and testing for visitors aged 12 and over.

  10. Updated visiting information: Testing for visitors aged 12 and over.

  11. New visiting times and booking information added.

  12. Visits update

  13. Updated visiting information in line with new local restriction tiers.

  14. Updated visiting information in line with new local restriction tiers.

  15. Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.

  16. Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.

  17. Added confirmation of secure video calls made available at this prison.

  18. Updated governor name

  19. First published.

Sign up for emails or print this page