Canllawiau

Pryd mae angen i chi wirio eich hunaniaeth ar gyfer Tŷ'r Cwmnïau

Mae pryd y mae angen i chi wirio yn dibynnu ar eich rôl, a phryd y gwnaethoch ddechrau'r rôl honno.

Darparwyr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig (DGCA)

Gelwir y rhain hefyd yn asiantau awdurdodedig Tŷ’r Cwmnïau, ac fel arfer mae ganddynt rolau fel cyfrifwyr, cyfreithwyr neu asiantau ffurfio cwmnïau.

O’r 18 Mawrth 2025, bydd angen i chi wirio’ch hunaniaeth os ydych am wneud cais i gofrestru fel asiant awdurdodedig Tŷ’r Cwmnïau.

Os ydych am allu gwirio hunaniaeth eich cleientiaid, gallwch wneud hyn o’r 8 Ebrill 2025 os ydych wedi cofrestru fel asiant awdurdodedig. Yn y dyfodol, bydd angen i fusnesau hefyd gofrestru fel asiant awdurdodedig i allu ffeilio ar ran cleientiaid.

Cyfarwyddwyr a phobl â rheolaeth arwyddocaol (PRhA)

O’r  8 Ebrill 2025, gallwch ddewis gwirio eich hunaniaeth. Yn y dyfodol, bydd yn ofyniad cyfreithiol.

Pobl sy’n ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau

Nid oes angen i chi wirio eich hunaniaeth eto. Yn y dyfodol, bydd yn ofyniad cyfreithiol.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 18 Mawrth 2025

Argraffu'r dudalen hon