Gwasanaeth rheithgor
Beth allwch ei hawlio os nad ydych yn gweithio
Ni fyddwch yn cael eich talu am wasanaethu ar reithgor, ond gallwch hawlio rhywfaint o arian yn ôl os effeithir ar eich enillion. Am bob diwrnod rydych chi yn y llys, fel arfer gallwch hawlio:
- hyd at £64.95 i helpu i dalu am golli enillion a chost unrhyw ofal neu ofal plant y tu allan i’ch trefniadau arferol
- £5.71 ar gyfer bwyd a diod
- cost teithio i’r llys ac o’r llys
Byddwch yn cael gwybod sut i hawlio treuliau ar ôl i’ch gwasanaeth rheithgor ddod i ben.
Gallwch ofyn am gael gohirio eich gwasanaeth rheithgor os na allwch wasanaethu ar reithgor ar y dyddiadau yn eich llythyr gwŷs.
Os ydych yn cael budd-daliadau neu gymorth ariannol
Dangoswch eich gwŷs rheithgor i’ch swyddfa fudd-daliadau neu eich hyfforddwr gwaith cyn gynted ag y byddwch yn ei chael.
Byddwch yn dal i gael cymorth ariannol a budd-daliadau (fel Credyd Cynhwysol) am yr 8 wythnos gyntaf. Ar ôl hynny, bydd y llys yn rhoi ffurflen colli enillion i chi er mwyn ichi ei rhoi i’ch swyddfa fudd-daliadau neu hyfforddwr gwaith.
Beth allwch ei hawlio
Mae yna gyfyngiad ar faint allwch chi ei hawlio am bob diwrnod rydych yn y llys.
Costau gofal plant a chostau gofal eraill os nad ydych yn gweithio
Mae faint y gallwch ei hawlio ar gyfer costau gofal yn dibynnu ar hyd eich gwasanaeth rheithgor a faint o oriau y byddwch chi’n eu treulio yn y llys bob diwrnod.
Am 10 diwrnod cyntaf y gwasanaeth rheithgor, gallwch hawlio hyd at:
- £64.95 y diwrnod os ydych yn treulio mwy na 4 awr yn y llys
- £32.47 y diwrnod os ydych yn treulio 4 awr neu lai yn y llys
Os yw eich gwasanaeth rheithgor yn para’n hirach na 10 diwrnod gwaith, mae’r swm y gallwch ei hawlio yn cynyddu. Byddwch yn gallu hawlio hyd at:
- £129.91 y diwrnod os ydych yn treulio mwy na 4 awr yn y llys
- £64.95 y diwrnod os ydych yn treulio 4 awr neu lai yn y llys
Costau teithio a pharcio
Mae’r swm y gallwch ei hawlio yn dibynnu ar sut rydych yn teithio i’r llys.
Sut rydych yn teithio i’r llys | Bydd y llys yn talu |
---|---|
Bws neu drên danddaearol | Cost y tocyn |
Trên | Cost y tocyn (tocyn dwy ffordd safonol) |
Beic | 9.6c y filltir |
Beic modur | 31.4c y filltir |
Car | 31.4c y filltir - gwiriwch a fydd y llys yn talu am gostau parcio |
Car – gydag un rheithiwr arall fel teithiwr | 4.2c y filltir |
Car - ar gyfer pob teithiwr ychwanegol | 3.2c y filltir |
Tacsi | Y pris – gofynnwch am ganiatâd gan y llys cyn defnyddio tacsi |
Bwyd a diod
Mae faint y gallwch ei hawlio yn dibynnu ar faint o oriau rydych chi’n eu treulio yn y llys bob diwrnod.
Amser a dreulir bob diwrnod | Bydd y llys yn talu hyd at |
---|---|
Hyd at ac yn cynnwys 10 awr y diwrnod | £5.71 y diwrnod |
Dros 10 awr y diwrnod | £12.17 y diwrnod |
Amcangyfrifwch eich treuliau
Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell i wirio beth y gallwch ei hawlio.