Gwasanaeth rheithgor
Mynd i'r llys fel rheithiwr
Ar eich diwrnod cyntaf, dylech ddod â’r canlynol efo chi:
- eich ffurflen wŷs rheithgor neu lythyr yn cadarnhau eich gwasanaeth rheithgor
- dogfen i brofi pwy ydych, fel eich pasbort, trwydded yrru gyda llun neu ddogfennau gan y Swyddfa Gartref sy’n dangos eich statws mewnfudo yn y DU
Os nad oes gennych ddogfen felly, gallwch ddod ag unrhyw 2 ddogfen o blith y canlynol:
- eich tystysgrif geni
- eich cerdyn credyd gyda 3 cyfriflen a phrawf o’ch llofnod
- eich llyfr siec a’ch cerdyn banc gyda 3 cyfriflen banc a phrawf o’ch llofnod
- 3 bil cyfleustodau yn dangos eich enw a’ch cyfeiriad
Gliniaduron, tabledi a ffonau symudol
Gallwch ddod â ffôn symudol, tabled neu liniadur i mewn i adeilad y llys a’i ddefnyddio yn ardal ymgynnull y rheithgor.
Ni allwch fynd â ffôn, gliniadur na thabled i’r ystafell drafod. Mae gan bob llys loceri neu rywle y gallwch chi storio’ch eitemau personol yn ddiogel.
Mae Wi-Fi am ddim yn y rhan fwyaf o lysoedd.
Beth i’w wisgo
Nid oes cod gwisg caeth a gallwch wisgo’r dillad rydych chi’n gyffyrddus ynddynt, fel jîns a chrys-t.
Ni allwch wisgo:
- dillad anffurfiol iawn, fel dillad glan môr
- unrhyw beth ar eich pen, oddieithr am resymau crefyddol
Beth fydd yn digwydd pan fyddwch yn cyrraedd y llys
Caniatewch amser ychwanegol i fynd trwy’r drefn ddiogelwch yn y llys
Bydd staff y llys yn dangos i chi ble mae ardal ymgynnull y rheithgor a bydd rheolwr y rheithgor yn:
- rhoi eglurhad ichi ynglŷn â gwasanaeth rheithgor
- egluro eich cyfrifoldebau
- dweud wrthych pa dreuliau y gallwch eu hawlio a sut i’w hawlio