Gwasanaeth rheithgor
Beth allwch ei hawlio os ydych yn hunangyflogedig
Ni fyddwch yn cael eich talu am wasanaeth rheithgor, ond fe allwch hawlio peth o’r arian yn ôl os cafodd eich enillion eu heffeithio. Am bob diwrnod fyddwch chi’n y llys, fel arfer gallwch hawlio:
- hyd at £64.95 i helpu tuag at dalu am enillion a gollwyd a’r gost o unrhyw ofal neu ofal plant y tu allan i’ch trefniadau arferol
- £5.71 ar gyfer bwyd a diod
- y gost o deithio i’r llys ac yn ôl
Byddwch yn cael gwybod sut i hawlio treuliau ar ôl i’ch gwasanaeth rheithgor ddod i ben.
Gallwch ofyn am gael gohirio eich gwasanaeth rheithgor os na allwch wasanaethu ar reithgor ar y dyddiadau yn eich llythyr gŵys.
Os ydych yn cael budd-daliadau neu gymorth ariannol
Dangoswch eich gŵys i’ch swyddfa budd-daliadau neu’ch hyfforddwr gwaith cyn gynted â’ch bod yn ei gael.
Byddwch yn parhau i gael cymorth ariannol a budd-daliadau (fel Credyd Cynhwysol) am yr 8 wythnos cyntaf. Wedi hynny, bydd y llys yn rhoi ffurflen colli enillion i chi i’w rhoi i’ch swyddfa budd-daliadau neu hyfforddwr gwaith.
Beth allwch ei hawlio
Mae yna gyfyngiad ar faint allwch chi ei hawlio am bob diwrnod rydych yn y llys.
Enillion a gollwyd, gofal plant a chostau gofal eraill
Mae faint allwch chi ei hawlio i gymryd lle enillion a gollwyd a chostau gofal yn dibynnu ar hyd eich gwasanaeth rheithgor a faint o oriau fyddwch chi’n eu treulio yn y llys bob diwrnod.
Am 10 diwrnod cyntaf y gwasanaeth rheithgor, gallwch hawlio hyd at:
- £64.95 y dydd os ydych yn treulio mwy na 4 awr yn y llys
- £32.47 y dydd os ydych yn treulio 4 awr neu lai yn y llys
Os bydd eich gwasanaeth rheithgor yn parhau am fwy na 10 diwrnod gwaith, bydd faint allwch chi ei hawlio yn cynyddu. Byddwch yn gallu hawlio hyd at:
- £129.91 y dydd os ydych yn treulio mwy na 4 awr yn y llys
- £64.95 y dydd os ydych yn treulio 4 awr neu lai yn y llys
Costau teithio a pharcio
Bydd faint allwch chi ei hawlio yn dibynnu ar sut fyddwch chi’n teithio i’r llys.
Sut fyddwch chi’n teithio i’r llys | Bydd y llys yn talu |
---|---|
Bws neu drên danddaearol | Cost y tocyn |
Trên | Cost y tocyn (pris dosbarth safonol dwyffordd) |
Beic | 9.6c y filltir |
Beic modur | 31.4c y filltir |
Car | 31.4c y filltir – gwiriwch a fydd y llys yn talu am gostau parcio |
Car - gydag un rheithiwr arall fel teithiwr | 4.2c y filltir |
Car – ar gyfer pob teithiwr ychwanegol | 3.2c y filltir |
Tacsi | Y pris – gofynnwch i’r llys am ganiatâd cyn defnyddio tacsi |
Bwyd a diod
Bydd faint allwch chi ei hawlio yn dibynnu ar faint o oriau fyddwch chi’n ei dreulio yn y llys bob dydd.
Amser a dreulir bob dydd | Bydd y llys yn talu hyd at |
---|---|
Hyd at ac yn cynnwys 10 awr y dydd | £5.71 y dydd |
Dros 10 awr y dydd | £12.17 y dydd |
Amcangyfrif eich costau
Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell i wirio faint allwch ei hawlio.