Gwneud hawliad i’r llys am arian
Beth yw hawliad llys
Gallwch wneud cais i lys sirol i hawlio arian sy’n ddyledus i chi gan unigolyn neu fusnes.
Gelwir hyn yn ‘gwneud hawliad llys’. Yn y gorffennol roedd yn cael ei alw’n aml yn ‘mynd â rhywun i’r llys hawliadau bychain’. Gallwch wneud cais ar-lein neu drwy’r post.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Gallai cyfryngu fod yn broses gyflymach a rhatach na mynd i’r llys. Cyfryngu yw pan fydd unigolyn diduedd yn helpu’r ddwy ochr i ddod i gytundeb.
Mae yna broses wahanol ar gyfer gwneud hawliad llys yn yr Alban a gwneud hawliad llys yng Ngogledd Iwerddon.