Hawlio’r llog

Gallwch hawlio llog ar yr arian sy’n ddyledus i chi.

Fe gyfrifir y llog ar eich rhan os byddwch yn hawlio swm amhenodol.

Os yw eich hawliad am swm penodol o arian, yna bydd angen i chi gyfrifo swm y llog eich hun.

Cyfrifo’r llog

Os oes arian yn ddyledus i chi gan fusnes arall yna gallwch hawlio llog ar daliad masnachol hwyr.

Ar gyfer mathau eraill o ddyled, y gyfradd fel arfer yw 8%.

I gyfrifo hyn, dilynwch y camau isod.

  1. Cyfrifwch y llog blynyddol: cymerwch y swm rydych yn ei hawlio a’i luosi gyda 0.08 (sy’n 8%).

  2. Cyfrifwch y llog dyddiol: rhannwch eich llog blynyddol o gam 1 gyda 365 (y nifer o ddyddiau mewn blwyddyn).

  3. Cyfrifwch gyfanswm y llog: lluoswch y llog dyddiol o gam 2 gyda’r nifer o ddyddiau y mae’r ddyled wedi bod yn ddyledus.

Enghraifft

Roedd £1,000 yn ddyledus i chi:

  • y llog blynyddol fyddai £80 (1000 x 0.08 = 80)
  • dylech rannu £80 gyda 365 i gael y gyfradd ddyddiol: tua 22c y dydd (80 / 365 = 0.22)
  • ar ôl 50 diwrnod byddai’r swm yn £11 (50 x 0.22 = 11)