Gorfodi dyfarniad

Gallwch ofyn i’r llys gasglu taliad gan yr unigolyn neu’r busnes y mae arnynt arian i chi (y ‘dyledwr’) os nad ydynt yn eich talu ar ôl iddynt gael y gorchymyn llys.

Mae’n rhaid i chi dalu ffi llys pan fyddwch yn gofyn i’r llys gasglu’r taliad.

Canfod faint all y dyledwr fforddio talu

Gofynnwch i’r llys orchymyn bod y dyledwr yn mynychu’r llys i ddarparu tystiolaeth o’i incwm neu wariant, er enghraifft biliau a chyfriflenni.

Os mai busnes yw’r dyledwr, yna gallwch ofyn i swyddog o’r cwmni fynychu’r llys a darparu manylion am ei gyfrifon.

Yna gallwch benderfynu os hoffech i’r llys gymryd camau pellach i gasglu’ch taliad.

Ni allwch orfodi dyfarniad os dywedir wrthych bod gan yr unigolyn y mae arnynt arian i chi gytundeb ‘Lle i Anadlu’ a’u bod wedi’u gwarchod am y tro rhag eu credydwyr. Darllenwch fwy am eich cyfrifoldebau a beth sydd angen i chi ddweud wrth y llys yn ystod cytundeb ‘Lle i Anadlu’.

Anfon beilïaid i gasglu taliad

Gallwch ofyn i’r llys anfon beilïaid i gasglu’r arian. Gelwir hyn yn ‘gwarant reolaeth’.

Bydd y beili yn gofyn am daliad o fewn 7 diwrnod. Os na fydd y ddyled yn cael ei thalu, bydd y beili yn ymweld â chartref neu fusnes y dyledwr i weld a ellir gwerthu rhywbeth i dalu’r ddyled.

Gallwch wneud cais i naill ai lys sirol neu’r Uchel Lys os yw rhwng £600 a £5,000 yn ddyledus i chi.

Efallai y byddwch angen cyngor cyfreithiol os byddwch yn gwneud cais i’r Uchel Lys.

Bydd sut y dylech wneud cais i’r llys yn dibynnu ar sut y gwnaethoch eich hawliad.

Os gwnaethoch hawliad ar-lein

Os yw eich cyfeirnod yn cynnwys y llythrennau ‘MC’, lawrlwythwch a llenwch naill ai:

  • ffurflen N323 - i wneud cais mewn llys sirol (mae’n rhaid bod £5,000 neu lai yn ddyledus i chi)
  • ffurflen N293A - i wneud cais i’r Uchel Lys (mae’n rhaid bod o leiaf £600 yn ddyledus i chi)

Fel arall, gallwch orfodi dyfarniad drwy ddefnyddio’r Gwasanaeth Hawliadau am Arian Ar-lein.

Os gwnaethoch ddefnyddio ffurflen hawlio bapur

Lawrlwythwch a llenwch naill ai:

  • ffurflen N323 - i wneud cais mewn llys sirol (mae’n rhaid bod £5,000 neu lai yn ddyledus i chi)
  • ffurflen N293A - i wneud cais i’r Uchel Lys (mae’n rhaid bod o leiaf £600 yn ddyledus i chi)

Didynnu arian o gyflog

Gallwch ofyn i’r llys dynnu arian o gyflog y dyledwr i dalu’r ddyled. Gelwir hyn yn ‘atafaelu enillion’.

Bydd y llys yn gwneud hyn drwy anfon gorchymyn i gyflogwr y dyledwr.

Lawrlwythwch a llenwch gais am orchymyn atafaelu enillion - ffurflen N337.

Rhewi asedau neu arian mewn cyfrif

Gallwch ofyn i’r llys rewi arian sydd yng nghyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu’r dyledwr neu gyfrif busnes. Gelwir hyn yn ‘gorchymyn dyled trydydd parti’.

Bydd y llys yn penderfynu a ellir defnyddio arian sydd yn y cyfrif i dalu’r ddyled.

Lawrlwythwch a llenwch gais am orchymyn dyled trydydd parti - ffurflen N349.

Arwystlo tir neu eiddo’r dyledwr

Gallwch ofyn i’r llys arwystlo tir neu eiddo’r dyledwr. Gelwir hyn yn ‘gorchymyn arwystlo’.

Os bydd y tir neu’r eiddo yn cael ei werthu, yna bydd rhaid i’r dyledwr dalu’r arwystl hwn yn gyntaf cyn iddynt gael eu harian.

Lawrlwythwch a llenwch gais am orchymyn arwystlo - ffurflen N379.