Help gyda symud o fudd-daliadau i waith
Trosolwg
Cael cymorth gan y Ganolfan Byd Gwaith er mwyn eich helpu i baratoi am, dod o hyd i ac aros mewn gwaith, gan gynnwys:
- chwiliad gwaith a hyfforddiant
- profiad gwaith, gwirfoddoli a chynlluniau treialon gwaith
- help gyda dechrau busnes eich hun
- help i gyfuno gwaith gydag edrych ar ôl plant neu gyfrifoldebau gofalu
- help ychwanegol i broblemau penodol
Efallai y byddwch hefyd yn gallu parhau i gael rhai budd-daliadau unwaith y byddwch yn dechrau gweithio.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Cymorth i bobl anabl
Siaradwch â’ch Canolfan Byd Gwaith leol os ydych yn anabl neu gyda chyflwr iechyd hirdymor. Gallant eich helpu i ddod o hyd i swydd neu i ennill sgiliau newydd, a dweud wrthych am raglenni penodol i’ch helpu yn ôl mewn i waith.
Efallai y gallwch gael grant Mynediad at Waith i dalu am:
- offer arbennig, addasiadau neu help gan weithiwr cymorth i’ch helpu i wneud pethau fel ateb y ffôn neu fynd i gyfarfodydd
- help i deithio i ac o’r gwaith
- cefnogaeth iechyd meddwl
- Cymorth cyfathrebu mewn cyfweliad swydd (er enghraifft, dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain neu ddarllenwr gwefusau)