Help gyda symud o fudd-daliadau i waith
Chwiliad gwaith a hyfforddiant
Gall eich anogwr gwaith y Ganolfan Byd Gwaith rhoi mwy o wybodaeth i chi am hyfforddiant a’ch helpu i baratoi am, dod o hyd i ac aros mewn gwaith.
Help ar gyfer mathau penodol o waith
Mae academïau gwaith sy’n seiliedig ar y sector yn cynnig hyfforddiant a phrofiad gwaith am hyd at 6 wythnos mewn diwydiant neu faes gwaith penodol.
Mae’r rhan fwyaf o academïau hefyd yn cynnig cyfweliad gwarantedig ar gyfer swydd neu brentisiaeth.
Maent ar gael i chi os ydych yn hawlio unrhyw un o’r canlynol oherwydd eich bod yn ddi-waith:
- Lwfans Ceisio Gwaith (JSA)
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) (os ydych yn y Grŵp Gweithgaredd sy’n Gysylltiedig â Gwaith)
- Credyd Cynhwysol
Clybiau gwaith
Gall unrhyw un sy’n ddi-waith ymuno â Chlwb Gwaith. Maent yn cael eu rhedeg gan sefydliadau lleol fel cyflogwyr a grwpiau cymunedol ac yn rhoi’r cyfle i chi rhannu gwybodaeth, profiad ac awgrymiadau chwilio am waith.