Help gyda symud o fudd-daliadau i waith
Dechrau neu redeg busnes eich hun
Gallwch gael help i:
- ddechrau busnes eich hun
- ddatblygu eich busnes, os ydych eisoes yn hunangyflogedig
Gallwch gael cymorth gan
- sefydliadau lleol – gofynnwch i’ch anogwr gwaith Canolfan Byd Gwaith am fwy o wybodaeth
- cynlluniau cefnogaeth busnes wedi eu cefnogi gan y llywodraeth
Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol
Efallai y gallwch gael ‘cyfnod cychwyn’ 12 mis os ydych yn hunangyflogedig.
Yn ystod cyfnod cychwyn, ni waeth faint rydych yn ei ennill:
- mae eich taliadau Credyd Cynhwysol yn seiliedig ar eich enillion misol
- nid oes angen i chi chwilio am waith arall
- cewch gefnogaeth gan anogwr gwaith sydd wedi’i hyfforddi i weithio gyda’r hunangyflogedig
Gall eich anogwr gwaith cyfredol ddweud wrthych a ydych yn gymwys.
Darllenwch fwy am hawlio Credyd Cynhwysol pan fyddwch yn hunangyflogedig.
Os oes gennych fusnes eisoes sy’n llai na 2 mlwydd oed
Efallai y gallwch gael Benthyciad Cychwyn Busnes.
Os ydych chi’n anabl neu os oes gennych gyflwr iechyd
Efallai y gallwch gael cefnogaeth ychwanegol trwy grant Mynediad at Waith.