Cymhwyster

Fel arfer byddwch yn gallu cael Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) i blant os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol. Rhaid i’r plentyn:

  • fod o dan 16 oed - rhaid i unrhyw un dros 16 oed wneud cais am Daliad Annibyniaeth Bersonol (PIP)
  • angen gofal ychwanegol neugael anawsterau cerdded
  • byw yng Nghymru neu Loegr pan fyddwch yn gwneud cais (oni bai eich bod yn gymwys i hawlio o dramor)

Os yw eich plentyn yn byw yn yr Alban, gwnewch gais am Daliad Anabledd Plant yn lle. Os yw’ch plentyn yn byw yng Ngogledd Iwerddon, gwnewch gais am Lwfans Byw i’r Anabl i blant yng Ngogledd Iwerddon.

Gallwch hawlio DLA i blant os ydych mewn gwaith neu’n ddi-waith.

Pryd y gallwch hawlio o dramor

Efallai y byddwch dal yn gallu cael DLA i blant os:

  • yw eich plentyn yn byw yn UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein – gallwch  ond gael help gyda thasgau byw dyddiol eich plentyn
  • mae eich plentyn dramor yn derbyn triniaeth feddygol
  • mae eich plentyn yn byw gyda rhiant sy’n gweithio yn y lluoedd arfog

Os ydych chi wedi symud i’r DU o dramor yn ddiweddar

I fod yn gymwys rhaid i’ch plentyn:

  • fod wedi byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban am isafswm o gyfnod o amser
  • bod yn byw naill ai yng Nghymru neu Loegr pan fyddwch yn gwneud cais

Os nad yw’ch plentyn yn ddinesydd Prydeinig mae’n rhaid iddo hefyd fod â’r hawl i hawlio ‘arian cyhoeddus’. Bydd hyn yn dibynnu ar eu statws mewnfudo.

Efallai y bydd eich plentyn yn gallu cael DLA i blant heb fodloni’r gofynion hyn os oes ganddynt statws ffoadur neu amddiffyniad dyngarol, neu os ydynt yn ddibynnydd i rywun sydd â statws amddiffyniad dyngarol.

Gwiriwch pa mor hir y mae’n rhaid bod eich plentyn wedi byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban

Mae pa mor hir y mae’n rhaid bod eich plentyn fel arfer wedi byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban yn dibynnu ar ei oed.

Oedran y plentyn Isafswm amser a dreulir yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban
Dan 6 mis oed o leiaf 13 wythnos
Rhwng 6 mis a 3 oed o leiaf 26 o’r 156 wythnos diwethaf
Dros 3 oed o leiaf 6 o’r 12 mis diwethaf

Efallai y bydd eich plentyn yn gallu cael DLA i blant yn gynt os:

  • oes gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud y gallai fod gan eich plentyn 12 mis neu lai i fyw
  • mae eich plentyn yn byw gyda rhiant sy’n gweithio yn y lluoedd arfog
  • mae’ch plentyn yn dychwelyd ar ôl byw yn yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein a’i fod wedi’i gynnwys yn y cytundeb tynnu’n ôl

Anabledd neu gyflwr iechyd y plentyn

Mae rhaid i anabledd neu gyflwr iechyd y plentyn olygu bod o leiaf un o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae angen llawer mwy o ofal arnynt na phlentyn o’r un oed nad oes ganddo anabledd
  • maent yn cael anhawster symud o gwmpas

Mae’n rhaid eu bod wedi cael yr anawsterau hyn am o leiaf 3 mis a disgwyl iddynt bara am o leiaf 6 mis.

Os ydy gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud gall fod ganddynt 12 mis neu’n llai i fyw, nid oes angen iddynt fod wedi cael yr anawsterau hyn am 3 mis.

Elfen ofal

Mae’r gyfradd y mae’r plentyn yn ei chael yn dibynnu ar lefel edrych ar ôl ei angen, er enghraifft:

  • cyfradd isaf - help am rywfaint o’r dydd
  • cyfradd ganol - cymorth aml neu oruchwyliaeth gyson yn ystod y dydd, goruchwyliaeth gyda’r nos neu rywun i helpu tra’u bod ar ddialysis
  • cyfradd uwch – cymorth neu oruchwyliaeth trwy gydol y dydd a’r nos, os ydy gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud gall bod ganddynt 12 mis neu’n llai i fyw.

Elfen symudedd

Mae’r gyfradd y mae’r plentyn yn ei chael yn dibynnu ar lefel yr help y mae arno ei angen i fynd o gwmpas, er enghraifft:

  • cyfradd isaf - gallant gerdded ond mae angen help a/neu oruchwyliaeth arnynt yn yr awyr agored
  • cyfradd uchaf - ni allant gerdded, dim ond heb bellter difrifol y gallant gerdded, gallent fynd yn sâl iawn os ydynt yn ceisio cerdded neu os ydynt yn ddall neu â nam difrifol ar eu golwg

Mae hefyd derfynau oedran i dderbyn yr elfen symudedd:

  • cyfradd isaf - mae rhaid i’r plentyn fod yn 5 oed neu’n hŷn
  • cyfradd uchaf - mae rhaid i’r plentyn fod yn 3 oed neu’n hŷn

Os yw’ch plentyn o dan yr oedrannau hyn a’ch bod yn hawlio DLA ar eu cyfer, dylid anfon pecyn hawlio atoch 6 mis cyn iddynt droi 3 a 6 mis cyn iddynt droi’n 5. Gallwch wedyn wneud cais am yr elfen symudedd os credwch eu bod yn gymwys ar ei gyfer.

Os nad ydych wedi derbyn unrhyw becynnau hawlio a’ch bod yn credu y gallai fod gan eich plentyn hawl i’r gydran symudedd, cysylltwch â’r Ganolfan Gwasanaeth Anabledd.