Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) i oedolion
Trosolwg
Mae Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) yn cael ei ddisodli gan fudd-daliadau eraill.
Os ydych chi eisoes yn cael DLA, efallai y bydd eich cais yn dod i ben. Fe gewch lythyr yn dweud wrthych pryd y bydd hyn yn digwydd a sut y gallwch wneud cais am PIP neu Daliad Anabledd Oedolion.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Os ydych chi o dan 16
Gallwch wneud cais am DLA dim ond os ydych chi o dan 16 oed ac rydych chi’n byw yng Nghymru neu Loegr.
Os ydych chi’n byw yn yr Alban, gallwch wneud cais am Daliad Anabledd Plant.
Os ydych chi dros 16 oed
Ni allwch wneud cais am DLA. Gallwch wneud cais am:
- Daliad Annibyniaeth Personol (PIP) os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr a heb gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- Taliad Anabledd i Oedolion os ydych yn byw yn yr Alban ac heb gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- Lwfans Gweini os ydych chi o oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu’n hŷn ac nad ydych yn cael DLA