Trosolwg

Mae Lwfans Gweini yn helpu gyda chostau ychwanegol os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd sy’n ddigon difrifol fel bod angen rhywun arnoch i helpu i ofalu amdanoch.

Mae yna ffordd wahanol o wneud cais os ydych yn nesáu at ddiwedd oes (er enghraifft, oherwydd bod gennych salwch sy’n cyfyngu ar fywyd).

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English) a fformat hawdd i’w ddarllen.

Mae’n cael ei dalu ar 2 gyfradd wahanol ac mae faint a gewch yn dibynnu ar lefel y gofal sydd ei angen arnoch oherwydd eich anabledd neu gyflwr iechyd.

Gallech gael £72.65 neu £108.55 yr wythnos i helpu gyda chymorth personol os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:

Nid yw’n cynnwys anghenion symudedd.

Gallech gael Credyd Pensiwn ychwanegol, Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth Cyngor os ydych yn cael Lwfans Gweini.

Nid oes rhaid i chi gael rhywun yn gofalu amdanoch er mwyn gwneud cais.

Os oes gennych ofalwr, efallai y gallent cael Lwfans Gofalwr os oes gennych anghenion gofal sylweddol.

Os ydych yn byw yn yr Alban

Bydd angen i chi gwneud cais am Daliad Anabledd Oedran Pensiwn yn hytrach na Lwfans Gweini os ydych yn byw yn:

  • Dinas Aberdeen
  • Aberdeenshire
  • Angus
  • Argyll a Bute
  • Clackmannanshire
  • Dinas Dundee
  • Dwyrain Ayrshire
  • Falkirk
  • Fife
  • Highland
  • Moray
  • Gogledd Ayrshire
  • Ynysoedd Orkney
  • Perth a Kinross
  • Ynysoedd Shetland
  • De Ayrshire
  • Stirling
  • Ynysoedd y Gorllewin

Os ydych chi’n byw yn un o’r ardaloedd hyn a’ch bod eisoes yn cael Lwfans Gweini, nid oes angen i chi wneud cais am Daliad Anabledd Oedran Pensiwn.

Os ydych chi’n byw mewn rhan arall o’r Alban, gwnewch gais am Lwfans Gweini.

Os ydych yn cael Lwfans Gweini ar hyn o bryd

Nid oes angen i chi wneud cais am Daliad Anabledd Oedran Pensiwn - byddwch yn cael eich symud yn awtomatig i Daliad Anabledd Oed Pensiwn o wanwyn 2025.

Pan fydd y symud yn dechrau, byddwch yn cael llythyrau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a Social Security Scotland.

Darganfyddwch fwy am y newid o Lwfans Gweini i Daliad Anabledd Oedran Pensiwn.

Os ydych yn symud o’r Alban i Gymru neu Loegr

Os ydych yn cael Taliad Anabledd Oedran Pensiwn, rhaid i chi:

Bydd eich Taliad Anabledd Oedran Pensiwn yn dod i ben 13 wythnos ar ôl i chi symud. Gwnewch gais am Lwfans Gweini cyn gynted ag y byddwch yn symud i Gymru neu Loegr. Os na wnewch hynny, gallai eich taliadau gael eu heffeithio.